Ymarfer Creadigol ym maes Pensaernïaeth (PhD)
Mae'r rhaglen hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes dylunio a hoffai fireinio eu medrau trwy ymarfer yn y gweithle.
Rydym bellach yn cynnig PhD newydd mewn Ymarfer Creadigol mewn Pensaernïaeth sydd ar gael i benseiri proffesiynol.
Cynigir hyfforddiant ymchwil ar symposia dylunio ddwywaith y flwyddyn yn yr ysgol. Gwneir yr asesiad terfynol drwy portffolio o waith dylunio gwreiddiol a gyflwynir fel arddangosfa gyda sylwadau ysgrifenedig ategol o tua 40,000 - 50,000 o eiriau wedi’u paratoi ar gyfer yr arholiad viva voce.
Nodau'r rhaglen
Mae'r rhaglen hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes dylunio a hoffai fireinio eu medrau trwy ymarfer yn y gweithle. Ei nod yw annog a galluogi'r sawl sy’n flaengar o safbwynt ymarfer creadigol i ymgymryd ag ymchwil drwy ddylunio, gan ganolbwyntio ar arbenigeddau a ddatblygwyd drwy ymarfer, a llenwi'r bwlch presennol o ran ymarferwyr ar lefel ddoethurol yn y ddisgyblaeth.
Nodweddion unigryw
- Mae disgwyl i ymgeiswyr fod mewn cyflogaeth ac mae gwaith y maent yn ei gyflawni yno yn cyfrif fel gwaith ar gyfer y PhD.
- Bydd ymgeiswyr yn meddu ar radd gyntaf ac ail radd dda mewn Pensaernïaeth (a elwir yn Rhan 1 a 2).
- Rhaid cefnogi ceisiadau gan bortffolio o waith dylunio a gyflawnwyd yn broffesiynol a dangos cyflawniad, set o sgiliau craidd sy'n aeddfedu a sefyllfa ‘ddatblygiadol’ o ran athroniaeth a dulliau dylunio.
- Bydd angen profiad o dair blynedd mewn gwaith.
Ffeithiau allweddol
Math o astudiaeth | Amser llawn, rhan amser |
---|---|
Cymhwyster | PhD |
Hyd amser llawn | PhD 3 blynedd |
Hyd rhan-amser | PhD 5 mlynedd |
Derbyniadau | Hydref |
Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth
Gallai ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol fod yn gymwys i wneud cais am fenthyciad doethuriaeth ôl-raddedig gan Lywodraeth y DU..
Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaethArian
Edrychwch ar ein prosiectau a'n hysgoloriaethau PhD diweddaraf a chael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ariannu eraill.
Ffioedd dysgu
Myfyrwyr o'r DU
Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.
Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)
Bydd disgwyl i ymgeiswyr fod â gradd gyntaf ac ail radd dda mewn pensaernïaeth (a elwir fel rheol yn Rhan 1 a Rhan 2) ac o leiaf 3 blynedd o brofiad ymarferol.
Gofynion Iaith Saesneg
IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil, neu gyfwerth. Darllenwch ein canllawiau am ein Gofynion Iaith Saesneg am ragor o fanylion.
Rhaid cefnogi ceisiadau gan bortffolio o waith dylunio a gyflawnwyd yn broffesiynol a dangos cyflawniad, set o sgiliau craidd sy'n aeddfedu a sefyllfa ‘ddatblygiadol’ o ran athroniaeth a dulliau dylunio. Bydd angen profiad o dair blynedd mewn gwaith.