Ewch i’r prif gynnwys

Niwrowyddoniaeth Weledol

Mae Niwrowyddoniaeth Gweledol yn faes ymchwil y gallwch chi ganolbwyntio eich astudiaethau yn ein rhaglen PhD Gwyddorau’r Golwg ynddo.

Nodweddion unigryw

  • Canolfan rhagoriaeth ryngwladol
  • Labordai gyda chyfleusterau o’r radd flaenaf ar gyfer meithrin organau a chelloedd, histoleg, niwrowyddoniaeth, dadansoddiad protein, bioleg moleciwlaidd, trawsheintio genyn, geneteg moleciwlaidd, amsugno/sbectrosgopeg allyriadau, a delweddu microsgopig
  • Wedi gwneud nifer o ddarganfyddiadau newydd yng nghyd-destun y thema hwn:
    • Nodi’r genyn sy’n gyfrifol am brif ffurf atroffi optig
    • Mae lipofuscin yn eneradur radical heb eu ffoto-gymhelliant sy’n achosi camweithredu mewn celloedd
    • ae metalloproteinases matrics yn cael eu uwchreoleiddio yn natblygiad myopia mewn mamaliaid a nodi aelod newydd o’r teulu MMP
    • Mae niwed i’r system weledol centriffwgal yn newid datblygiad y llygaid a’i gyflwr gwrthdynnol, gan awgrymu bod yr ymennydd yn dylanwadu ar emetropeiddiad
  • Wedi datblygu modelau genetig neu arbrofol arloesol ar gyfer astudio trawsblannu cornbilennol, datblygiad ocwlar, glawcoma ac atroffi optig, olrhain niwral, niwed ocsidaidd i’r retina ac amrywiaeth o glefydau’r llygaid
  • Cefnogir gan grantiau gan MRC, BBSRC, Ymddiriedolaeth Wellcome, NIHR/NISCHR, UE, Elusennau Meddygol, Gwasanaeth Iechyd a’r sector preifat

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

Tony Redmond

Themâu ymchwil

  • Modelau genetig o glefyd ar y llygaid
  • Deall ac atal dystroffi cornbilennol
  • Trosglwyddiad genynnau
  • Strwythur pen y nerf optig mewn llygaid iach a glawcomataidd
  • Clefydau symudiad llygaid, ystwyth a chanhwyllau’r llygaid
  • Effaith plastigrwydd niwral ar glefyd y llygaid
  • Heneiddio a thrafferthion celloedd
  • Difrod ocsidiol a thrafferthion retinol
  • Bioleg bôn-gelloedd
  • Difrod golau i’r llygad
  • Mecanweithiau ac atal marwolaeth celloedd niwral

Gwybodaeth am y Rhaglen

I gael gwybodaeth am strwythur y rhaglen, gofynion mynediad a sut i wneud cais ewch i’r rhaglen Gwyddorau'r Golwg.

Gweld y Rhaglen
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig