Ewch i’r prif gynnwys

Cyfrifiadura cymdeithasol

Gallwch ganolbwyntio eich astudiaethau ar gyfrifiadura cymdeithasol drwy ein rhaglenni ymchwil Cyfrifiadureg a Gwybodeg (MPhil, PhD).

Drwy astudio am PhD neu MPhil ym maes cyfrifiadura cymdeithasol byddwch yn ymuno â’r Ysgol fel rhan o dîm llwyddiannus o ymchwilwyr gydag amrywiaeth eang o bartneriaid diwydiannol a chydweithwyr academaidd.

Nodweddion unigryw

  • Mae ein diwylliant ymchwil hirsefydlog, cryf a deinamig wedi arwain at ein henw da rhyngwladol ar gyfer ymchwil o'r radd flaenaf.
  • Mae’r Ysgol yn cefnogi gwaith yn y maes hwn gyda buddsoddiad sylweddol mewn cyfleusterau a seilwaith ymchwil.
  • Diwylliant ymchwil bywiog sy’n cynnwys rhaglenni seminar yr Ysgol â rhaglenni seminar â thema a chyfleoedd teithio/cynhadledd.
  • Cefnogaeth a hyfforddiant pwrpasol i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau o ran thema ymchwil.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

Ymchwil ôl-raddedig Cyfrifiadureg

Cyswllt/Cysylltiadau Academaidd

Yr Athro Pete Burnap

Yr Athro Pete Burnap

Lecturer

Email
burnapp@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6249

Mae ein gwaith ymchwil yn cwmpasu nifer o bynciau sy'n esblygu, modern, a llawer ohonynt wedi'u rhestru fel blaenoriaethau yn ein gwaith ymchwil.

Rhagor am ein meysydd ymchwil i gyfrifadureg cymdeithasol

Wrth ystyried a ddylech ymuno â ni fel myfyriwr ymchwil, dylech adolygu'r pynciau a’r gweithgareddau i wneud yn siŵr bod gennym diddordebau tebyg. Cysylltwch ag aelod arweiniol o staff yn y maes hwn i helpu i nodi goruchwyliwr addas y gallwch drafod natur a chyfeiriad eich gwaith ymchwil gydag ef/hi.

Gwybodaeth am y Rhaglen

I gael gwybodaeth am strwythur y rhaglen, gofynion mynediad a sut i wneud cais ewch i’r rhaglen Cyfrifiadureg a Gwybodeg.

Gweld y Rhaglen
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig