Ewch i’r prif gynnwys

Peirianneg: Iechyd, Technoleg a'r Byd Digidol

Mae Iechyd, Technoleg a’r Byd Digidol yn thema ymchwil lle galwch ganolbwyntio eich astudiaethau fel rhan o’n cyfres o raglenni ymchwil Peirianneg (PhD, MPhil, EngD).

Mae’r thema ymchwil Iechyd, Technoleg, a’r Byd Digidol yn darparu fframwaith ar gyfer yr ymchwil a gyflawnir ym meysydd Peirianneg Cyfathrebu Amledd Uchel a Pheirianneg Feddygol, Ffiseg Feddygol, ac Electroneg Feddygol. Mae’r cyfuniad o’r disgyblaethau hyn yn galluogi dull gwirioneddol arloesol ac yn galluogi datrysiadau newydd cyffrous ar gyfer diogelwch, gofal iechyd a gofynion meddygol cymdeithas fodern.

O ymchwilio i driniaethau ar gyfer osteoarthritis, a diagnosteg electronig uwch, i wella effeithlonrwydd rhwydweithiau cyfathrebu symudol a datblygu cenhedlaeth newydd o synwyryddion i’w defnyddio mewn celloedd tanwydd a dyfeisiau meddygol, mae’r thema Iechyd, Diogelwch a’r Byd Digidol yn dwyn arbenigedd Ysgol Peirianneg Caerdydd ynghyd ym meysydd peirianneg amledd uchel a pheirianneg biomeddygol.

Drwy ddwyn ynghyd ymchwil a diddordebau hyfforddi ac arbenigedd grwpiau sy’n ymwneud â pheirianneg biomeddygol ar draws y brifysgol, mae’r gwaith yn gosod Prifysgol Caerdydd ar flaen y gad ym maes peirianneg meddygol ac yn ei alluogi i fanteisio ar gyfleoedd newydd fel maen nhw’n codi.

Man wearing a blue shirt. He's smiling into the camera.

Roedd staff yn yr Ysgol Peirianneg yn gymaint o gymorth, roedd athrawon yn wybodus ac yn gefnogol, sylweddolais yn fuan bod fy athrawon fel fy ffrindiau, maen nhw’n ymdrechu i wneud eu gorau i roi myfyrwyr ar y trywydd iawn.”

Dr Zaid Aboush

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

Postgraduate Research Admissions, School of Engineering

Administrative contact

Mae ymchwilwyr sy’n gweithio yn Y Ganolfan Peirianneg Amledd Uchel yn ymwneud ag ymchwil blaenllaw yn nulliau peirianneg a gwyddoniaeth sylfaenol deunyddiau electronig a magnetig, systemau cyfathrebu di-wifr, technolegau synhwyrydd, prosesu signal a microfluidics.

Rhai o’r meysydd allweddol rydyn ni’n gweithio arnyn nhw yw:

  • sefydlu methodolegau dylunio RF newydd gan gynnwys peirianneg tonffurfiau i fynd i’r afael â heriau sy’n cael eu hachosi gan SATCOM amledd uchel, systemau cyfathrebu di-wifr a radar
  • optimeiddio prosesu signal band-sylfaen digidol ar y cyd â swyddogaeth RF mewn systemau cyfathrebu di-wifr
  • datblygu defnyddiau rhyngddisgyblaethol, newydd i beirianneg microdon e.e. synwyryddion microfluidic gan ddefnyddio cyseinyddion bach iawn
  • defnyddio cysyniadau newydd ar gyfer prosesu data a signal aml-synwyryddion a signalau aml-foddol ym meysydd pwysig diogelwch, systemau symudol/di-wifr a biomeddygaeth
  • ymchwilio i briodweddau sylfaenol deunyddiau magnetig newydd, o swmp i raddfa nano, a’u defnydd ar gyfer synwyryddion a gwerthuso nad yw’n ddinistriol, ac i ymchwilio i effeithiau meysydd magnetig ar y corff dynol
  • archwilio cyfleoedd mewn synthesis nano-ronynnau a micro-ronynnau cain drwy fanteisio ar weithdrefnau llif aml-gam mewn adweithyddion microfluidic
  • ymchwilio i hanfodion deunyddiau electronig newydd fel indium nitrid, sbintroneg ffilm tenau a deunyddiau hybrid.

Mae gwaith amlddisgyblaethol ymchwil mewn peirianneg feddygol, ffiseg feddygol, ac electroneg feddygol, yn cael ei gynrychioli gan y Grŵp Ymchwil Peirianneg Biomeddygol ac mae’n cynnwys cyfuno diddordebau a seilwaith ymchwil yr holl grwpiau ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n gweithio ym meysydd cysylltiedig â Pheirianneg Feddygol.

Mae enghreifftiau o waith cyfredol yn y maes hwn yn cynnwys:

  • dylunio, datblygu a phrofi mewnblaniadau orthopedig
  • datblygu modelau rhifiadol i ddadansoddi symudiadau cymalau dynol
  • gweithio gyda llawfeddygon sbinol i ennill dealltwriaeth o fiomecaneg offeryniaeth asgwrn cefn a lluniadau asgwrn cefn
  • treialon clinigol i ddadansoddi swyddogaeth y ben-glin er mwyn nodweddu trawsblannu pen-glin gyfan a phatholegol arferol;
  • ymchwiliad i anafiadau i'r pen mewn babanod
  • ymateb corff dynol i effeithiau swta a sydyn
  • dylunio seddi cadeiriau olwyn
  • roboteg mewn adsefydlu
  • delweddu yn y maes cardiofasgwlaidd a cheisiadau newydd MRI a sganwyr corff cyfan.

Gwybodaeth am y Rhaglen

I gael gwybodaeth am strwythur y rhaglen, gofynion mynediad a sut i wneud cais ewch i’r rhaglen .

Gweld y Rhaglen
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig