Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil rhan amser

Student testing a catalyst in a lab

Mae cyfleoedd i astudio’n rhan amser yn llawer o Ysgolion Academaidd y Brifysgol.

Maent yn ddelfrydol os oes arnoch angen cydbwyso astudio gyda chyflogaeth neu ymrwymiadau teuluol. Cewch mwy o hyblygrwydd a’r holl fuddion a chymorth mae myfyrwyr amser llawn yn eu cael.

Chwiliwch am ein cyfleoedd ymchwil i ddarganfod maes ymchwil priodol, ac yna cysylltwch â’r ysgol academaidd berthnasol i drafod sut y gellir strwythuro’ch gradd ymchwil o gwmpas eich sefyllfa unigol.

Hyd y Cwrs

Fel arfer mae cyrsiau rhan-amser ddwywaith hyd eu cyfwerth amser llawn. Gwiriwch ein rhestr cyrsiau unigol am eu hyd rhan amser.

Buddion a Chymorth

Byddwch yn cael yr un buddion a chymorth â myfyrwyr amser llawn. Gweler y dudalen Cefnogi eich Ymchwil i gael manylion llawn.

Ffioedd Dysgu

Lledaenir y ffioedd yn gyfartal ar hyd eich cwrs. Mae ffioedd rhan-amser I weld ar bob rhestr cwrs. Byddwch yn ymwybodol bod y ffioedd a ddyfynir fel arfer ar gyfer y flwyddyn academaidd presennol neu i ddod yn unig, ac nid o reidrwydd ar gyfer hyd y cwrs i gyd. Ar gyfer rhaglenni yn para dim mwy na blwyddyn, bydd ffioedd dysgu ar gyfer blynyddoedd dilynol o astudio yn destun i gynnydd o dim mwy na 4.5% y flwyddyn.

Roedd medru adrodd canlyniadau arwyddocaol ac ymestyn modelau damcaniaethol yn gyffrous iawn ac yn gwneud dwy flynedd o waith yn werth chweil. Yn coroni'r cyfan, dwy flynedd yn ddiweddarach cefais ddyrchafiad i swydd Uwch Ddarlithydd. Yn ogystal derbyniwyd dwy erthygl siwrnal o'm gwaith oedd yn uniongyrchol gysylltiedig gyda fy ngwaith PhD. Rwyf hefyd wedi cael sylw yn y wasg am fy ngwaith a'r cyfle i fynychu a chyfrannu i seminarau diwydiant. Felly oedd y gwaith caled yn fuddiol? Oedd yn sicr!

Fiona Davies, un o'n graddedigion PhD rhan amser