Ewch i’r prif gynnwys

Diwrnodau Agored Ôl-raddedig

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle gwych i gael cymorth a chyngor ar astudiaethau ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd.

Bydd ein Diwrnod Agored Ôl-raddedig nesaf yn cael ei gynnal yn ystod tymor yr hydref 2024. Cofrestrwch am ein cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf.

Cofrestrwch nawr

Ymunwch â’n Noson Agored i Ôl-raddedigion ar nos Fercher 15 Mai i gael gwybod rhagor am addysg ôl-raddedig ym meysydd y biowyddorau, deintyddiaeth, gofal iechyd, meddygaeth, fferylliaeth a seicoleg.

I gael rhagor o wybodaeth am astudiaethau ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd, cofrestrwch ar gyfer ein gweminarau sydd ar y gweill.

Pam astudio gyda ni?

Dewch i wybod sut beth yw bod yn fyfyriwr ôl-raddedig sy'n astudio ac yn ymchwilio ar gampws Parc Cathays, yng nghanol Caerdydd, prifddinas Cymru.

Dewiswch Brifysgol Caerdydd

Dewch i wybod pam y dylech chi ddewis Prifysgol Caerdydd.

Archwilio’r pynciau

Dewch i wybod rhagor am ystod y pynciau rydyn ni’n eu cynnig.

Byw yng Nghaerdydd

Dewch i wybod pam mae prifddinas Cymru’n lle mor ddeniadol.

Ffyrdd eraill o gael gwybod sut beth yw campysau’r Brifysgol

Dyma rai o'r cyfleoedd eraill i ymweld â ni a chael syniad o sut brofiad fydd astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.

Teithiau Campws Ôl-raddedig

Os oes gennych ddiddordeb mewn astudiaethau ôl-raddedig yng Nghaerdydd, neu os ydych eisoes wedi gwneud cais i astudio un o'n cyrsiau, mae ein teithiau tywys dan arweiniad myfyrwyr yn ffordd wych i chi cael gwybod rhagor am sut brofiad yw astudio gyda ni.

Postgrad Cafe - CARBS PG Teaching Centre

Caffi'r Ôl-raddedigion

Dewch i wybod rhagor am y Brifysgol a chael blas ar fywyd y campws yn ystod taith gerdded.

Taith rithwir o amgylch y campws

Ewch ar daith ar-lein o amgylch ein campysau, preswylfeydd a dinas Caerdydd trwy ein taith campws rithwir.

Cysylltu â ni

Os oes gennych chi gwestiynau am ein digwyddiadau, cysylltwch â'n timau ôl-raddedig.