
Meddygaeth
Ydych chi am ddatblygu eich gyrfa a gwella gofal cleifion? Rhagor o wybodaeth am sut i gael dealltwriaeth fwy dwfn, a gwella eich sgiliau drwy ein cyrsiau ôl-raddedig a addysgir.
Sesiwn galw heibio am sgwrs fyw a gweminarau
-
Siaradwch â'n staff academaidd a staff derbyn myfyrwyr
Mae'r digwyddiad hwn ar ben17 Mawrth, 12:00 - 14:00
-
Paratoi ar gyfer Eich Astudiaethau Academaidd Ôl-raddedig
Mae'r digwyddiad hwn ar ben17 Mawrth, 12:00 - 12:30
-
Cyflwyniad i'r MSc mewn Imiwnoleg Glinigol Gymhwysol ac Arbrofol
Mae'r digwyddiad hwn ar ben17 Mawrth, 13:00 - 13:30
Croeso
Mae ein byd yn newid yn gyflym, ac felly hefyd anghenion cleifion ar draws ystod eang o ddisgyblaethau meddygol. Mae’n bwysicach nag erioed bod ein gweithwyr meddygol proffesiynol yn datblygu eu sgiliau clinigol ar draws eu gyrfa er mwyn arloesi o fewn arferion gwaith a dyfnhau sylfaen eu gwybodaeth i roi gofal gwell i gleifion. Mae’r Diwrnod Agored Rhithwir hwn yn eich galluogi i archwilio’r ystod eang o gyrsiau hynod alwedigaethol a gynigir yma yng Nghaerdydd. Bydd hefyd yn gyfle i chi gysylltu â’n staff academaidd i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych am strwythur neu gynnwys cyrsiau.
Pam astudio gyda ni?
Arbenigedd cadarn
Ni yw un o’r darparwr mwyaf o gyrsiau meddygol ôl-raddedig a addysgir yn y DU.
Astudio byd-eang
Cyflwynir llawer o’n cyrsiau yn rhannol neu’n gyfan gwbl o bell, gan eich galluogi i elwa o’n harbenigedd ble bynnag yr ydych.
Sgiliau galwedigaethol
Nod ein rhaglen yw gwella gyrfaoedd a gwybodaeth gweithwyr gofal iechyd proffesiynol presennol a gweithwyr eraill mewn meysydd cysylltiedig.

Sut rydym ni’n ymaddasu i COVID-19
Fel darparwr cyrsiau a addysgir o bell i ôl-raddedigion, rydym yn hen law ar gyflwyno profiadau dysgu’n fyd-eang, gyda myfyrwyr o lawer o wahanol wledydd yn ymgymryd â’u hastudiaethau ôl-raddedig gyda ni.
Mae’r pandemig yn galw am hyblygrwydd gan bob ysgol meddygaeth. Fel rhaglen Meddygaeth arloesol, bob amser rydym wedi codi i wynebu her, ac rydym yn gwneud hynny nawr.
Rydym yn optimistaidd ond yn ymarferol, felly rydym yn cynllunio ar gyfer sawl senario. P’un a ydych yn ystyried dysgu o bell gyda ni neu un o’n cyrsiau wyneb yn wyneb cymysg, gallwn ni addo y byddwch yn cyflawni eich deilliannau dysgu drwy gydol eich cwrs.
Mae eich diogelwch yn hollbwysig ac rydym yn gweithio'n agos gyda llywodraeth Cymru a'r GIG i sicrhau hyn. Rydym hefyd yn gwybod y bydd y sefyllfa hon yn newid dros amser, felly rydym yn barod i newid ein cynlluniau hefyd. Byddwn yn rhoi’r newyddion diweddaraf i chi am unrhyw newidiadau ac yn gwneud yn siŵr eich bod yn cael y profiad dysgu llawn, wedi’i deilwra os oes angen er mwyn sicrhau diogelwch ein myfyrwyr a’n staff.
Cyflwyniad i’n hystod o raglenni a addysgir
Gwylio gweminarau o ddiwrnodau agored blaenorol
Rhagor o wybodaeth am bob un o’n rhaglenni a addysgir i ôl-raddedigion
Cwrs | Cymhwyster | Dull astudio |
---|---|---|
Uwch-Ymarfer Llawfeddygol | MSc | Rhan-amser - dysgu o bell |
Heneiddio, Iechyd a Chlefydau | MSc | Amser llawn, rhan-amser |
Biowybodeg | MSc | Amser llawn, rhan-amser |
Biowybodeg ac Epidemioleg Enetig | MSc | Amser llawn, rhan-amser |
Dermatoleg Glinigol | MSc | Amser llawn |
Gofal Critigol | MSc | Rhan-amser - dysgu o bell |
Diabetes | PgDip, MSc | Rhan-amser - dysgu o bell |
Cwnsela Genetig a Genomig | MSc | Rhan-amser - dysgu o bell |
Addysg Feddygol | PgCert, PgDip, MSc | Amser llawn, rhan-amser, rhan-amser - dysgu o bell |
Tocsicoleg Feddygol | PgCert, PgDip, MSc | Amser llawn, rhan-amser, rhan-amser - dysgu o bell |
Meddygaeth Newyddenedigol | PgDip, MSc | Rhan-amser - dysgu o bell |
Iechyd Galwedigaethol (Polisi ac Ymarfer) | MSc | Rhan-amser - dysgu o bell |
Rheoli Poen | MSc | Rhan-amser - dysgu o bell |
Meddygaeth Lliniarol ar gyfer Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol | MSc | Rhan-amser - dysgu o bell |
Dermatoleg Ymarferol | PgDip, MSc | Amser llawn - dysgu o bell, rhan-amser - dysgu o bell |
Seiciatreg | MSc | Amser llawn - dysgu o bell, rhan-amser - dysgu o bell |
Iechyd Cyhoeddus | MPH | Amser llawn, rhan-amser |
Therapiwteg | PgCert, PgDip, MSc | Amser llawn - dysgu o bell, rhan-amser - dysgu o bell |
MSc | Rhan-amser - dysgu o bell |
Cyfleoedd ymchwil ôl-raddedig yn yr Ysgol Meddygaeth
Mae’r Ysgol Meddygaeth yn cynnig graddau ymchwil mewn disgyblaethau meddygol fel canser, imiwnoleg, haint, imiwnedd, y niwrowyddorau, iechyd meddwl, meddygaeth boblogaeth ac addysg feddygol.
Mae gennym record hirsefydlog o ymchwil ac arloesi addysgol o’r radd flaenaf. Ein nod sylfaenol yw sicrhau’r ‘trosi’ mwyaf o wybodaeth sylfaenol er lles y claf.
Eich opsiynau ar gyfer cymwysterau ymchwil ôl-raddedig yn yr Ysgol Meddygaeth:
Disgyblaeth | Cymhwyster | Hyd |
---|---|---|
Canser a Geneteg | PhD/MPhil/MD | PhD 3-4 blynedd, MPhil 1 flwyddyn, MD 1 flynedd |
Haint ac Imiwnedd | PhD/MPhil/MD | PhD 3-4 blynedd, MPhil 1 flwyddyn, MD 2 flynedd |
Meddygaeth Boblogaeth | PhD/MPhil/MD | PhD 3-4 blynedd, MPhil 1 flwyddyn, MD 2 flynedd |
Meddygol Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol | PhD/MPhil/MD | PhD 3-4 blynedd, MPhil 1 flwyddyn, MD 2 flynedd |
Addysg Feddygol | PhD/MPhil/MD | PhD 3-4 blynedd, MPhil 1 flwyddyn, MD 2 flynedd |
Mae ein hadrannau ymchwil craidd yn canolbwyntio ar glefyd cronig ac ymchwil iechyd cymhwysol, yn unol â buddiannau’r GIG. Maent yn adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau ein gofal iechyd cenedlaethol.
Bywyd fel myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir yn yr Ysgol Meddygaeth
Heb y rhaglen, fyddwn i ddim yn gallu breuddwydio am PhD hyd yn oed. Roeddwn i’n gallu cael yr wybodaeth angenrheidiol ar gyfer meddwl yn fwy dwys. Yn fy mhrofiad clinigol, yn bendant mae gen i safbwynt gwahanol, a mwy o fynediad at feddygaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth na chyn y rhaglen. Mae pynciau anodd ynghylch ymarfer clinigol yn cael eu trafod ar lefel uwch ac â dadleuon gwyddonol.
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Camau nesaf
Edrychwch ar holl gyrsiau’r Ysgol Meddygaeth
Porwch drwy ein cyrsiau ôl-raddedig.
Sut i wneud cais
Diddordeb mewn astudio gyda ni? Dysgwch ragor am sut i gyflwyno cais.
Meini prawf derbyn
Gofynion derbyn, polisïau a gweithdrefnau dethol ar gyfer cyrsiau meddygol israddedig.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am astudiaethau ar gyfer israddedigion ym Mhrifysgol Caerdydd, cysylltwch â ni.