
Gwyddorau'r ddaear a’r amgylchedd
Mae ein hôl-raddedigion yn cynnal ymchwil diddorol, sy'n aml yn hanfodol, i amrywiaeth eang o feysydd pwnc, a gyfoethogir gyda lefel uchel o weithgaredd ymchwil ac arbenigedd yn yr Ysgol.
Sesiynau galw heibio am sgwrs fyw
Gofynnwch gwestiynau i’n staff a’n myfyrwyr mewn sgwrs fyw a chanfod yr hyn sydd gan Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd i’w gynnig.
-
Siaradwch â staff Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd
Mae'r digwyddiad hwn ar ben17 Mawrth, 12:00 - 14:00
Pam astudio gyda ni
Cysylltiadau cryf gyda diwydiant
Mae ein cysylltiadau gyda busnesau ac asiantaethau'r llywodraeth yn sicrhau ansawdd a pherthnasedd ein cyrsiau.
Cynnwys y cyrsiau ar flaen y gad
Mae ein rhagleni gradd meistr yn mynd i’r afael â materion cyfoes ym meysydd yr amgylchedd, polisi ac ymchwil.
Ysgoloriaethau wedi'u hariannu a PhDs hunangyllidol
Rydym yn cynnig ysgoloriaethau wedi'u hariannu'n llawn a phrosiectau ymchwil hunangyllidol mewn amrywiaeth o feysydd ymchwil.
Ymchwil o safon fyd-eang
Mae ein Hysgol yn chwarae rhan arweiniol mewn sawl un o Sefydliadau Ymchwil y Brifysgol.
Enw da rhyngwladol
Ystyriodd Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014 fod 94% o’n hallbynnau ymchwil yn rhagorol yn rhyngwladol neu’n arwain y byd, gan olygu ein bod yn 4ydd yn y DU am Systemau’r Ddaear a Gwyddorau Amgylcheddol.
Costau byw
Caerdydd yw un o’r dinasoedd mwyaf fforddiadwy yn y DU sy'n ei gwneud yn ddinas wych i astudio ynddi.
Ein cyrsiau ôl-raddedig a addysgir
Ddaeareg Amgylcheddol Gymhwysol (MSc)
Dr Peter Brabham sy'n esbonio popeth sydd angen i chi ei wybod am ein rhaglen radd alwedigaethol mewn Daeareg Amgylcheddol Gymhwysol, yn cynnwys dulliau addysgu, oriau cyswllt a gwybodaeth modiwl.
Mae’r cwrs hwn yn darparu’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth gyda chwmnïau ymgynghori geo-amgylcheddol a geo-dechnegol proffesiynol ac asiantaethau amgylcheddol y llywodraeth.
Dŵr mewn Byd sy’n Newid (MSc) a Peryglon Amgylcheddol (MSc)
Dr Tristram Hales sy'n cynnig blas ar yr hyn y gallwch ddisgwyl yn ein dwy raglen gradd meistr newydd, gan gynnwys dulliau addysgu, oriau cyswllt a gwybodaeth am y modiwl.
Mae Dŵr mewn Byd sy’n Newid yn tynnu ar wybodaeth ryngddisgyblaethol i ddarparu trosolwg eang o broblemau dŵr yng nghyd-destun y sefyllfa bresennol a’r rhagolygon i’r dyfodol o safbwynt newid yn yr hinsawdd.
Mae Peryglon Amgylcheddol yn cynnig arbenigedd technegol wrth asesu risgiau, gyda ffocws ar y dulliau sydd eu hangen i ddadansoddi peryglon amgylcheddol y gorffennol a rhagweld peryglon y dyfodol.
Roedd natur ymarferol y cwrs a’r dysgu trwy brofiad yn golygu fy mod, wrth adael a chychwyn ar fy swydd ‘go iawn’ gyntaf, nid yn unig yn teimlo’n barod i gyflawni’r tasgau dan sylw, ond hefyd fel petai gennyf fi eisoes brofiad o weithio yn y diwydiant.
Ein rhaglenni ymchwil ôl-raddedig
Gwyddorau'r ddaear (PhD, MPhil)
Mae ein graddau ôl-raddedig yn seiliedig ar waith ymchwil annibynnol, gyda goruchwyliwr academaidd i'ch arwain wrth i chi ddarganfod meysydd newydd a chyffrous. Wedi’i danategu gan nawdd allanol sylweddol, mae ein hamgylchedd ymchwil bywiog yn darparu myfyrwyr PhD a MPhil gyda chyfleoedd i weithio gyda arbenigwyr y byd ac i ddefnyddio chyfarpar ymchwil o ansawdd uchel.
Mae safon ymchwil a chyfleusterau Prifysgol Caerdydd yn rhagorol, ac ar ôl cwblhau fy ngradd yma, roeddwn yn gwybod bod Caerdydd yn ddinas wych i fyw a gweithio. Yn ystod fy PhD rwyf wedi cael profiad academaidd gwerth chweil ac wedi mwynhau awyrgylch cefnogol gyda llawer o gefnogaeth.
Ein Hysgol a'n myfyrwyr
Mae gan ein Hysgol enw da byd-eang am ragoriaeth ymchwil, gyda chymuned fywiog ac amrywiol o fyfyrwyr ôl-raddedig. Cewch archwilio ein cyfleusterau, ein Hysgol a'n hymchwil, a chael golwg ar daith gyrfa un o'n graddedigion.
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Camau nesaf
Cysylltwch â ni
Gofynnwch gwestiwn a chewch ymateb cyn gynted ag y bo modd.
Sut i gyflwyno cais
Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.
Gweld graddau a addysgir
Archwiliwch ein cyrsiau ôl-raddedig a addysgir a'n meini prawf derbyn.
Gweld graddau ymchwil
Archwiliwch ein prosiectau ymchwil ôl-raddedig a'n cyfleoedd efrydiaeth.