
Rhaglenni proffesiynol busnes rhan-amser
Cyflymu eich gyrfa gan weithio â'n harbenigwyr academaidd a’n hymarferwyr blaenllaw, a fydd yn herio eich ffordd o feddwl ac yn gofyn ichi ystyried y byd busnes o safbwyntiau gwahanol.
Sesiynau byw
Rydym yma i ateb eich holl gwestiynau, felly ymunwch â sgwrs neu weminar.
-
Darlithoedd Blasu: Pwysigrwydd Meddylfryd Effeithlon yn ystod pandemig Covid-19
Mae'r digwyddiad hwn ar ben17 Mawrth, 12:00 - 12:30
-
Darlithoedd Blasu: Cynyddu Amrywiaeth trwy Brosesau Recriwtio
Mae'r digwyddiad hwn ar ben17 Mawrth, 12:00 - 12:30
-
Darlithoedd Blasu: Arwain Gwasanaethau a Sefydliadau Cyhoeddus
Mae'r digwyddiad hwn ar ben17 Mawrth, 13:00 - 13:30
Pam astudio gyda ni
Mae gyrfaoedd heriol ac ymrwymiadau cartref yn rhwystrau arferol i hyfforddi a datblygu ar gyfer gweithwyr proffesiynol rheolaeth ganol, gweithwyr y sector gyhoeddus ac Adnoddau Dynol. Yn y byd busnes prysur hwn, yn anaml y rhoddir blaenoriaeth i feddwl am gynllunio’r ffordd ymlaen. Ein cyfres o raglenni proffesiynol ym maes rheoli adnoddau dynol, arweinyddiaeth gyhoeddus a gweinyddu busnes yw eich sbardun i newid.
Achrededig yn rhyngwladol
Cawsom gymeradwyaeth unwaith eto yn 2018 gan y Gymdeithas er Hyrwyddo Ysgolion Busnes Colegol. Dyfernir y nod rhyngwladol hwn i ysgolion busnes gorau’r byd.
Gwasanaeth gwella gyrfaoedd
Byddwch yn elwa o gymorth pwrpasol gan ein cynghorwyr proffesiynol o ran canfod cyfleoedd profiad gwaith, prosiectau busnes byw a mewnwelediad i’ch helpu i ymuno â’r gweithle i gyflawni eich dyheadau gyrfaol.
Rhagoriaeth ymchwil
Cewch eich addysgu gan arbenigwyr academaidd ac ymarfer blaenllaw sydd â’u hymchwil arloesol yn y chweched safle o ran ansawdd, allan o 101 o ysgolion busnes y DU, yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014.
Ein sgyrsiau a’n fideos
Roeddwn i wedi cyrraedd pwynt yn fy ngyrfa lle’r oedd cynllunio strategol, arweinyddiaeth a rheoli newid yn rhannau pwysig o fy rôl. Roeddwn i eisiau cynyddu fy hyder yn y meysydd hyn, gwella fy ngwybodaeth a fy sgiliau a herio fy hun yn academaidd. Roedd y cyfnodau addysgu wyneb yn wyneb yn gyfle gwych i ddysgu am sefydliadau a sectorau eraill, yn rhan o gwricwlwm y cwrs, ond hefyd i ryngweithio â myfyrwyr eraill a dysgu rhagor am eu rolau a’u sefydliadau.
Rhagor o wybodaeth amdanom ni

Ysgol busnes a rheolaeth ymchwil ddwys o safon fyd-eang
Mae ein buddsoddiad mewn cyfleusterau astudio, cymorth a chymdeithasol yn cynnig yr amgylchedd gorau posibl i lwyddo. Tra eich bod gyda ni, byddwch chi’n ystyried ein Canolfan Addysgu Ôl-raddedigion £13.5m yn gartref.
10.Mae'r gofod pwrpasol hwn yn ehangu ein Hysgol i dri adeilad sy'n cyfuno darlithfeydd, ystafelloedd seminar a chaffi ochr yn ochr â'n hystafell addysg weithredol bwrpasol.
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Camau nesaf
Gweld ein rhaglenni ôl-raddedig rhan-amser a addysgir ym maes busnes
Porwch drwy ein rhaglenni sy’n dechrau yn 2021.
Gweld ein rhaglenni ymchwil ôl-raddedig rhan-amser ym maes busnes
Porwch drwy ein rhaglenni sy’n dechrau yn 2021.
Cysylltu â ni
Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.
Sut i wneud cais
Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.