Ewch i’r prif gynnwys

Caffi'r Ôl-raddedigion

Students sitting in a café

Dewch i wybod rhagor am astudiaethau ôl-raddedig yng Nghaffi’r Ôl-raddedigion sy’n lle hamddenol ac anffurfiol.

Bydd dyddiad digwyddiad nesaf Caffi’r Ôl-raddedigion yn cael ei gyhoeddi maes o law.

Mae Caffi’r Ôl-raddedigion yn rhoi’r cyfle ichi wneud y canlynol:

  • sgwrsio â rhai o’n myfyrwyr Meistr a PhD presennol am fywyd myfyrwyr ôl-raddedig yng Nghaerdydd
  • cael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael i ariannu eich astudiaethau ôl-raddedig
  • ewch ar daith o amgylch ein campws ym Mharc Cathays
  • trafod eich cwestiynau am astudiaethau ôl-raddedig mewn cyd-destun cymdeithasol ac anffurfiol
  • ....a chael diod poeth yn rhad ac am ddim a rhywbeth bach blasus i’w fwyta ar ben hynny

Rydyn ni’n croesawu unrhyw un sy’n ystyried dilyn cwrs ôl-raddedig, ni waeth ble rydych chi arni o ran y broses benderfynu.

Sylwer na fydd staff o’n hysgolion academaidd ar gael yn y Caffis i Ôl-raddedigion. Os oes gennych chi gwestiynau am raglen ôl-raddedig benodol, rydyn ni’n eich cynghori i fynd i un o’n Diwrnodau Agored i Ôl-raddedigion.