Cynllunio eich ymweliad
Sut i gyrraedd, beth i wneud wedi cyrraedd, ble i fwyta ar y campws; dyma gyngor ymarferol ynglŷn â sut i wneud y mwyaf o'ch diwrnod.
Teithio yma
Byddai'n syniad da i chi ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu'r gwasanaeth Parcio a Theithio gan mai ychydig iawn o leoedd i barcio sydd ar y campws.
Ar y trên
Lleoliad: Gorsaf drenau Cathays
Dylech newid yng ngorsaf Caerdydd. Ewch i blatfform 6 i ddal y trên i Cathays. Dim ond pum munud mae'n ei gymryd i deithio o Gaerdydd Canolog i Cathays.
Ar y bws
Lleoliad: Canolfan Bywyd y Myfyrwyr, Plas y Parc, Cathays, Caerdydd CF10 3BB
Bydd rhai bysiau'n stopio ym Mhlas y Parc ger y Brifysgol. Os na fydd eich bws chi yn gwneud hynny (bysiau 53 neu 86), gallwch ddal bws i'r Brifysgol o'r brif orsaf fysiau.
Mae Canolfan Bywyd y Myfyrwyr ar gampws Parc Cathays yng nghanol y ddinas (CF10 3BB).
Mewn car
Parcio a theithio
Lleoliad: Parcio a Theithio Dwyrain Caerdydd, Cyffordd 30 yr A48(M), CF23 8HH
Mae bysiau'n gadael bob chwarter awr ac mae'n cymryd tua 20 munud i gyrraedd y Brifysgol ym Mhlas y Parc.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan y Gwasanaeth Parcio a Theithio.
Meysydd parcio agosaf
Lleoliadau:
- Maes parcio NCP Heol y Brodyr Llwydion
CF10 3AE - Maes parcio NCP Dumfries Place
CF10 3FN - Maes parcio Ffordd y Gogledd
CF10 3DY
Mae un neu ddau o feysydd parcio o fewn tafliad carreg i Blas-y-Parc. Maes parcio NCP Heol y Brodyr Llwydion sydd agosaf at Neuadd y Ddinas. Mae maes parcio NCP Dumfries Place ger canol y ddinas. Mae maes parcio Ffordd y Gogledd ger Parc Bute a'r Ganolfan Ddinesig.
Mewn awyren
Lleoliad: Maes Awyr Caerdydd
Mae nifer o wasanaethau awyrennau rhyngwladol a rhyngranbarthol yn hedfan o Faes Awyr Caerdydd sydd tua 12 milltir o ganol y ddinas.
Dylech deithio ar fws X90 i orsaf Caerdydd Canolog neu fynd ar y bws am ddim i orsaf reilffordd y Rhws (Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd). Mae pob trên o'r Rhws yn mynd i orsaf Caerdydd Canolog, ac mae sawl un ohonynt hefyd yn mynd i orsaf Cathays.
Ar ôl ichi gyrraedd
Ar ôl cyrraedd Caerdydd, ewch i Ganolfan Bywyd y Myfyrwyr (CF10 3BB), lle gallwch fewngofnodi yn y digwyddiad a chasglu rhaglen.
Mae Canolfan Bywyd y Myfyrwyr o fewn taith gerdded fer i ganol y ddinas sydd â digonedd o gaffis a bwytai i ddewis ohonynt. Hefyd mae Costa Coffee a Subway drws nesaf i Undeb y Myfyrwyr ar Blas y Parc.
Llefydd i fwyta
Dyma rai o’r lleoedd i fwyta ar y campws ger y Ganolfan Bywyd y Myfyrwyr:
Undeb y Myfyrwyr
Mae llu o leoedd sy'n gwerthu bwyd a diod yn Undeb y Myfyrwyr.
Stryd Fawr y Myfyrwyr (Plas y Parc)
- Costa Coffee
- Subway
Prif Adeilad
Mae bwyty ar lawr gwaelod y Prif Adeilad sydd ychydig funudau yn unig ar droed o Ganolfan Bywyd y Myfyrwyr. Mae bwydydd poeth ac oer ar gael i frecwast ac i ginio.
Mannau eraill ar y campws
Mae bwyty yn Adeilad Trevithick. Hefyd, mae siopau coffi yn Adeilad John Percival, Adeilad Bute a'r Adeilad Optometreg.
Trefniadau diogelwch
I gadw'n ddiogel drwy gydol y Diwrnod Agored, cofiwch lynu at yr holl rybuddion a chyfarwyddiadau, ac ymddwyn yn ddiogel ac yn gyfrifol yn ystod unrhyw deithiau, sgyrsiau neu weithgareddau'r Diwrnod Agored.
Argyfyngau
Mewn argyfwng, cysylltwch â'r aelod staff agosaf ar unwaith neu ffoniwch ein Hystafell Rheoli Diogelwch - 029 2087 4444.
Tân
Os bydd y larwm dân yn canu (seiren barhaus), gadewch yr adeilad ar unwaith drwy'r allanfa agosaf ac arhoswch y tu allan nes bydd staff y Brifysgol yn dweud wrthych ei bod yn ddiogel i fynd yn ôl i mewn.
Os ydych ar un o'r lloriau uwch ac yn cael trafferth mynd i lawr y grisiau, dilynwch yr arwyddion i un o'r hafanau dynodedig a defnyddiwch y ffôn sydd yno i ofyn am ragor o gymorth.
Ni ddylech ddefnyddio lifftiau os oes tân.
Mannau cyfarfod
Os ydych yn colli aelod o'r teulu neu'n mynd ar goll yn ystod y Diwrnod Agored, rhowch wybod i aelod o'r staff.
Eiddo coll
Rhowch wybod i'r staff wrth y Ddesg Gofrestru neu aelod arall o staff os ydych yn colli unrhyw eiddo.
Ein map diweddaraf, gyda manylion campws unigol, rhifau cysylltu, arosfannau bws, ardaloedd siopa a mwy.