Ewch i’r prif gynnwys

Croeso

Pam dewis astudiaethau ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd

Dyma Rachel, cyn-fyfyriwr ôl-raddedig, yn rhoi trosolwg o astudio ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd.

Beth sy'n ein gwneud ni'n unigryw?

Close up of a student sitting in a lecture hall

Rhesymau dros astudio gyda ni

Rhagor o wybodaeth am pam y dylech ein dewis ni er mwyn astudio cwrs ôl-raddedig.

Virtual tour

Mynd ar daith 360 o gwmpas y Brifysgol

Gweld ein cyfleusterau blaenllaw a chlywed gan ein myfyrwyr presennol.studiaethau israddedig.

Cardiff Bay in the early evening.

Byw yng Nghaerdydd

Mae ein myfyrwyr wedi’u hudo gan brifddinas Cymru. Dewch i ddarganfod pam.

Students in the Science Library in Main Building

Ein campysau

Mae gennym ddau gampws: Parc Cathays yng nghanol y ddinas, a Pharc y Mynydd Bychan, cartref Ysbyty Athrofaol Cymru.

Bywyd ôl-raddedigion ar gampws Parc Cathays

Dyma ein cyn-fyfyriwr ôl-raddedig, Rachel, yn rhannu rhai o'i phrofiadau wrth eich tywys chi o gwmpas campws Parc Cathays.

rosette

Ymchwil flaengar

Mae 90% o'r ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd yn arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021).

academic-school

Un o'r prifysgolion harddaf yn y DU - (Times Higher Education 2018)

Byddwch yn astudio mewn prifddinas sy’n enwog am ei chyfeillgarwch, ei diwylliant a’i mannau gwyrdd - mae gennym fwy o fannau gwyrdd y pen nag unrhyw ddinas graidd arall yn y DU

notepad

Yr ail ddinas fwyaf fforddiadwy yn y Deyrnas Unedig i fyfyrwyr

Caerdydd yw un o'r dinasoedd mwyaf fforddiadwy yn y DU i fyfyrwyr yn ôl Mynegai Byw Myfyrwyr NatWest 2023.

Cyllid

P’un ai eich bod chi’n dilyn un o’n cyrsiau ôl-raddedig a addysgir neu un o’n rhaglenni ymchwil, mae gyda ni nifer o ffyrdd i’ch helpu i dalu ffioedd dysgu a chostau byw. Ac os oes angen cymorth arbenigol arnoch, gall ein tîm Cyngor ac Arian helpu.

Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Meistr

Mae'r cynllun ysgoloriaeth hwn yn cefnogi myfyrwyr y DU i ariannu astudiaethau ôl-raddedig. Mae'r cynllun ysgoloriaeth hwn yn cefnogi myfyrwyr y DU i ariannu astudiaethau ôl-raddedig. Mae pob ysgoloriaeth werth £3,000 o ostyngiad ffioedd dysgu.

Five students sitting at a table in front of a mural

Cyllid i fyfyrwyr ôl-raddedig

Rhagor o wybodaeth am beth sydd ar gael, gan gynnwys benthyciadau, grantiau, bwrsariaethau ac ysgoloriaethau.

Three students walking around campus

Ysgoloriaethau a phrosiectau PhD

Porwch drwy ein holl gyfleoedd

Student holding pen and smiling

Y tîm Cyngor ac Arian

Gall ein myfyrwyr gael gafael ar arweiniad rhad ac am ddim, diduedd a chyfrinachol ar ystod eang o faterion ariannol.

Four students sitting at a table and chatting

Cyfrifiannell costau byw

Gweld pa mor bell fydd eich arian yn mynd drwy ddefnyddio ein cyfrifiannell costau byw.

Llety

P’un a ydych yn dewis byw yn un o breswylfeydd y Brifysgol neu lety preifat, rydyn ni am i chi deimlo’n gartrefol yma.

Gwarentir deiliadaethau sengl i fyfyrwyr ôl-raddedig rhyngwladol (nad yw’n cynnwys dinasyddion o’r UE, AEE neu’r Swistir) mewn preswylfeydd yn y brifysgol drwy gydol eich cyfnod astudio (mae telerau ac amodau'n berthnasol). Ni warentir llety yn y Brifysgol i chi os ydych yn fyfyriwr o’r DU, ond efallai y bydd ar gael o hyd.

Llys Senghennydd

Porwch drwy ein llety

Cymryd cipolwg 360 gradd y tu mewn i’n neuaddau a’n tai, a chymharu prisiau, lleoliadau a rhagor.

Kitchen (Houses A - K)

Bywyd mewn llety myfyriwr

Ymdrwythwch mewn cymuned gefnogol, groesawgar a chymryd rhan mewn digwyddiadau i’ch helpu i ymgartrefu.

Private sector housing

Asiantaeth Gosod Myfyrwyr Caerdydd

Mae’r asiantaeth gosod, sy’n eiddo i Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd ac yn cael ei rhedeg gan yr Undeb, yn gallu eich helpu i ddod o hyd i dai o safon - ac nid ydynt yn codi ffioedd asiantaeth.

Manteisio i’r eithaf ar eich profiad o’r brifysgol

Nid gwaith, gwaith, gwaith i gyd yw hi chwaith! Gall yr hyn yr ydych yn ei wneud y tu allan i’ch astudiaethau fod yr un mor bwysig â’r hyn a ddysgwch mewn darlithfa.

Cefnogi myfyrwyr

O gwnsela a chyngor gyrfaol i gymorth iechyd a lles, rydym yn cynnig ystod gynhwysfawr o wasanaethau y gallwch gael gafael arnynt yn ystod eich amser yma, neu ar ôl i chi raddio.

Smiling students with banners behind them

Dysgwch iaith - yn rhad ac am ddim

Gallwch gael mynediad at fyd cyfan o leoliadau newydd, diwylliannau sy'n ysbrydoli, a dewisiadau cyffrous yn eich gyrfa drwy benderfynu dilyn un o’r cyrsiau iaith rhad ac am ddim.

Male and female PG students talking in the study hub

Chwaraeon

Dewch i weld yr amrywiaeth eang o gyfleoedd sydd ar gael i chi, waeth beth yw lefel eich gallu.

Dysgwch iaith am ddim

Ochr yn ochr â’ch prif raglen gradd, gallwch gymryd un o’n cyrsiau Ieithoedd i Bawb rhad ac am ddim mewn Arabeg, Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Japaneg, Tsieinëeg Mandarin, Portiwgaleg, Rwsieg a Sbaeneg. Os hoffech chi ddysgu Cymraeg, gallwch gofrestru am gwrs Cymraeg i Bawb, sydd hefyd yn ffitio o gwmpas eich ymrwymiadau academaidd.

Rydym yn darparu ar gyfer pob gallu, o gyrsiau i ddechreuwyr i rheiny o safon uwch.

Gwyliwch y cyflwyniad diwrnod agored hwn i ddysgu mwy am y cyrsiau hyn, sy'n eich galluogi i ddysgu iaith newydd neu i wella sgiliau iaith sydd gennych eisoes, yn rhad ac am ddim.

Ieithoedd i Bawb - Cyrsiau iaith rhad ac am ddim i fyfyrwyr

Gwyliwch y cyflwyniad diwrnod agored hwn i ddysgu mwy am y cyrsiau hyn, sy'n eich galluogi i ddysgu iaith newydd neu i wella sgiliau iaith sydd gennych eisoes, yn rhad ac am ddim.

Yn y cyflwyniad hwn, byddwn yn sôn am y cwrs Cymraeg i Bawb, sy'n gyfle gwych i astudio'r Gymraeg ac i ddysgu am hanes a diwylliant Cymru yn ystod eich cyfnod yma.

Cymraeg i Bawb

Yn y cyflwyniad hwn, byddwn yn sôn am y cwrs Cymraeg i Bawb, sy'n gyfle gwych i astudio'r Gymraeg ac i ddysgu am hanes a diwylliant Cymru yn ystod eich cyfnod yma.

Student at table in Students Union

Ein cyrsiau Ieithoedd i Bawb

Agorwch fyd o leoliadau newydd, diwylliannau sy'n ysbrydoli, a dewisiadau cyffrous yn eich gyrfa drwy gofrestru ar gyfer un o'n cyrsiau iaith yn rhad ac am ddim.

Y camau nesaf

cursor

Sut i wneud cais

Popeth y mae angen i chi ei wybod am wneud cais, gan gynnwys gofynion mynediad a manylion ynghylch gohirio mynediad.

people

Ymunwch â ni ar Facebook

Cadwch i'r funud o ran beth sy'n digwydd ar y campws.

icon-contact

Dilynwch ni ar Twitter

Cadwch mewn cysylltiad drwy ein dilyn ar Twitter.

mobile-message

Cysylltu

Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.