Ewch i’r prif gynnwys

Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau ar gyfer MSc Seiberddiogelwch a Thechnoleg

Rhaglen seiberddiogelwch uwch a ddatblygwyd gan Brifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â PwC ac a gefnogir trwy gyllid gan Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, i baratoi gweithwyr proffesiynol ym maes seiberddiogelwch, o safon sy’n ddeniadol i sefydliadau ledled y byd, ac yn barod i weithio.

Mae pymtheg ysgoloriaeth sy'n gyllid tuag at ffioedd dysgu a chostau byw ar gael i fyfyrwyr sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd a bydd y rhain yn cael eu dyrannu ar sail gystadleuol.

Mae'r rhaglen MSc unigryw hon yn cynnig llwybr clir i chi at yrfa lwyddiannus mewn seiberddiogelwch - maes cyffrous sy’n datblygu’n gyflym. Datblygwyd y rhaglen gan ymchwilwyr blaenllaw yng Nghanolfan Ymchwil Seiberddiogelwch Caerdydd mewn cydweithrediad agos ag arbenigwyr yn y diwydiant o PwC, sy'n gwneud llawer o waith addysgu ymarferol a thechnegol.

Dyma gyfle cyffrous i ddysgu gan ymchwilwyr ym maes seiberddiogelwch ac ymarferwyr o fyd diwydiant, uchel eu parch, ac i ddod yn gyfarwydd â syniadau ymchwil, ac â safonau’r diwydiant, a thechnolegau o'r radd flaenaf.

Manylion am ein 15 ysgoloriaeth

Rydym yn cynnig 15 ysgoloriaeth ifyfyrwyr MSc Seiberddiogelwch a Thechnoleg cymwys ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24.

Os ydych yn bodloni'r meini prawf, ac yn cael eich dewis i dderbyn ysgoloriaeth ymchwil, byddwch yn derbyn cyllid i gynorthwyo o ran talu'r ffioedd dysgu a £5,000 tuag at gostau byw wrth astudio ar gyfer yr MSc hwn.

Bod yn Gymwys ar gyfer Ysgoloriaethau

I fod yn gymwys ar gyfer ysgoloriaeth, rhaid i’r rhai sy’n gwneud cais fodloni 2 o'r 3 maen prawf canlynol:

  • Wedi eu geni, wedi bod i ysgol/coleg addysg bellach, neu wedi astudio mewn prifysgol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd;
  • yn dod o gartref ag incwm sy’n is na £37,000 y flwyddyn; neu
  • yn meddu ar radd dosbarth cyntaf mewn Cyfrifiadureg neu bwnc sy’n gysylltiedig â TG.

Er mwyn cael eu hystyried am le, gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno’r dogfennau atodol sydd yn y rhestr isod. Nid oes angen llenwi ffurflen gais ar wahân.

Dylech gynnwys gyda’ch cais:

  • CV manwl,
  • llythyr eglurhaol yn nodi sut rydych yn bodloni'r gofynion cymhwysedd uchod ac unrhyw ddeunydd ategol yr ydych yn ystyried ei fod yn berthnasol.

Sylwch efallai y gofynnir i chi gyflwyno rhagor o ddogfennau i gefnogi'ch achos.

Nid yw cael cynnig lle ar y rhaglen hon yn gwarantu y cewch ysgoloriaeth. Dim ond nifer cyfyngedig o ysgoloriaethau ymchwil sydd ar gael (15), a chânt eu dyrannu ar sail gystadleuol yn seiliedig ar eich canlyniadau academaidd a'r meini prawf cymhwysedd.

Y broses ddethol

Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail gystadleuol. Byddwn yn adolygu pob cais yn fuan ar ôl y dyddiad cau ac yn cynnig lleoedd i'r ymgeiswyr cryfaf sy'n bodloni’r gofynion mynediad a'r meini prawf cymhwysedd.

Gwneir penderfyniadau, fel arfer, o fewn 21 diwrnod o dderbyn cais. Os bydd lleoedd yn parhau heb eu llenwi ar ôl y dyddiad hwn, gellir ymestyn y dyddiad cau. Rhoddir blaenoriaeth i fyfyrwyr PwC.

Ar gyfer mynediad 2023/24 y dyddiad cau cychwynnol ar gyfer ceisiadau fydd 30 Medi 2023.

Sut i wneud cais

Bydd angen i chi wneud cais drwy'r broses ymgeisio safonol drwy dudalen cwrs MSc Seiberddiogelwch a Thechnoleg.

Manylion cyswll

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Dr Leigh Hodge

School of Computer Science and Informatics