Ewch i’r prif gynnwys

Ffiseg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd a Ariennir (MSc)

Diolch i safle unigryw Prifysgol Caerdydd ar flaen y gad o ran technoleg lled-ddargludyddion cyfansawdd a'n cysylltiadau hirsefydlog â diwydiant, rydym wedi ffurfio partneriaeth â Rockley Photonics Ltd i gynnig MSc wedi'i ariannu mewn ffiseg lled-ddargludyddion cyfansawdd.

Yn ogystal â gallu cynnig yr arian hwn, rydym yn rhoi cyfle i'n holl fyfyrwyr fagu profiad a chreu cysylltiadau ag ystod o gwmnïau a sefydliadau blaenllaw yn y sector lled-ddargludyddion cyfansawdd, gan ddarparu sylfaen gadarn i'ch gyrfa yn y dyfodol.

Rhagolygon o ran gyrfa

Mae gradd MSc ôl-raddedig mewn ffiseg lled-ddargludyddion cyfansawdd yn rhoi cyfle i fanteisio ar y cyfleoedd cyflogaeth helaeth yn y sector lled-ddargludyddion cyfansawdd sy'n tyfu'n barhaus.

Cyflwynir y rhaglen ar y cyd gan Brifysgol Caerdydd a'r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (ICS).

Mae'r ICS yn ddatblygiad sydd ar flaen y gad o ran technoleg lled-ddargludyddion cyfansawdd, gan gysylltu'r byd academaidd â diwydiant i gyflawni datblygiadau yn yr amgylchedd cynhyrchu lled-ddargludyddion cyfansawdd. Mae'n gyfleuster unigryw yn y DU, gyda'r nod o greu canolbwynt byd-eang ar gyfer ymchwil, datblygu ac arloesedd technoleg lled-ddargludyddion cyfansawdd, gan leoli Caerdydd fel arweinydd Ewropeaidd mewn lled-ddargludyddion cyfansawdd.

Mae'r farchnad lled-ddargludyddion fyd-eang heddiw (lled-ddargludyddion cyfansawdd a silicon) werth tua US$350bn y flwyddyn ac mae'n tyfu rhwng 10 a 15% y flwyddyn. Yn ôl dadansoddwyr, rhagwelir y bydd marchnadoedd byd-eang ar gyfer lled-ddargludyddion cyfansawdd yn tyfu i fwy na $300 biliwn erbyn 2030; tair gwaith cyfradd twf silicon.

Yn benodol, mae diwydiant lled-ddargludyddion de Cymru’n cyflogi dros 1400 o bobl tra medrus a bydd yn tyfu’n gyflym dros y 5 mlynedd nesaf gyda datblygiad 5G, AI a thueddiadau mawr eraill y farchnad.

Ar hyn o bryd mae angen graddedigion cymwys ar y diwydiant lled-ddargludyddion cyfansawdd deinamig, sy'n golygu y gallech chi ymgymryd â swydd dechnegol, ymchwil, datblygu neu beirianneg ar draws y gwahanol sectorau lled-ddargludyddion cyfansawdd. Mae rhagolygon gyrfa eraill yn cynnwys gwyddoniaeth neu addysg fathemateg, ystod o feysydd a diwydiannau gwyddonol cysylltiedig, neu'r opsiwn i symud ymlaen i astudiaethau academaidd bellach.

Rockley Photonics Ltd

Bydd y myfyrwyr fydd yn cael cynnig yr Ysgoloriaeth Rockley Photonics hefyd yn elwa ar gyfle i gyflawni prosiect ar safle Rockley Photonics.

Mae Rockley Photonics Ltd yn cynnal gweithgareddau dylunio peirianneg ar gyfer prosesau a chynhyrchu diwydiannol.

“Gyda hyblygrwydd a phŵer platfform unigryw i yrru cymwysiadau lluosog, cenhadaeth Rockley yw bod yn brif gyflenwr byd-eang sglodion a modiwlau optegol integredig ar draws marchnadoedd lluosog. Ein ffocws ar ofal iechyd, gwisgoedd, a golwg peiriannol - a chysylltedd y ganolfan ddata ar raddfa fawr sy'n caniatáu iddynt weithio gyda'i gilydd yn ddi-dor. Gan ganolbwyntio ar gymwysiadau cyfaint uchel o'r cychwyn cyntaf, mae Rockley wedi adeiladu ecosystem weithgynhyrchu ar gyfer graddoli cyflym, gan ddefnyddio ein llif prosesau perchnogol. Ein gweledigaeth bennaf: Ffotoneg mor dreiddiol â micro-electroneg. ” (Rockley Photonics)

Mae llwyddiannau diweddaraf diwydiant Rockley Photonics yn cynnwys rhestr “Sunday Times Tech Track Top 10 Ones To Watch 2020”, a chael eu cynnwys yn “Lazard T100 Venture Growth Index” - cwmnïau sy'n arddangos y potensial i darfu ar sectorau werth sawl biliwn o ddoleri.

Pwy sy’n gymwys

Nid oes proses ffurfiol o wneud cais am Ysgoloriaeth Rockley Photonics. Rhoddir yr MSc a ariennir i'r ddau fyfyriwr y bernir eu bod yn ymgeiswyr a dderbynnir orau yn y flwyddyn academaidd honno.

Byddwn yn asesu a ydych yn gymwys i gael y gostyngiad fel rhan o'ch cais i astudio'r MSc Ffiseg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd ym Mhrifysgol Caerdydd. Os ydych chi'n gymwys, yna cewch eich hysbysu a'ch gwahodd i gyfweliad. Ar ôl i'r cyllid gael ei gymeradwyo yn dilyn cyfweliad, bydd y gostyngiad priodol mewn ffioedd dysgu yn cael ei gymhwyso'n awtomatig.

Mae Ysgoloriaeth Rockley Photonics ar gael i ymgeiswyr Cartref a Rhyngwladol; fodd bynnag, bydd yr arian sy'n cael ei gynnig i ymgeiswyr Rhyngwladol yn cael ei gapio ar lefel ffioedd Cartref.

Sut i wneud cais

Ewch i'n tudalen i gael meini prawf derbyn yr MSc Ffiseg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd i gail meini prawf derby, strwythur y cwrs, a chyfarwyddiadau ar sut i wneud cais.

Cysylltu

I gael mwy o wybodaeth am yr MSc neu Ysgoloriaeth Rockley Photonics anfonwch ebost atom ar:

Tîm Derbyn Ôl-raddedigion

School of Physics and Astronomy