Ewch i’r prif gynnwys

Cyllid ar gyfer Rhan 1 (BSc) a Rhan 2 (MArch) Pensaernïaeth

Yn amodol ar amodau a thelerau eich corff cyllido, mae’n bosibl eich bod yn gymwys i gael cyllid israddedig ar gyfer BSc Astudiaethau Pensaernïol (Rhan 1) a MArch Pensaernïaeth (Rhan 2).

Cyllid ar gyfer Rhan 1: BSc Astudiaethau Pensaernïol (3 blynedd)

Yn amodol ar amodau a thelerau'r corff cyllido, mae myfyrwyr sy'n astudio BSc Astudiaethau Pensaernïol (3 blynedd), Rhan 1, yn gymwys i wneud cais am gyllid israddedig yn seiliedig ar ble roedden nhw’n preswylio cyn dechrau eu cwrs.

Ceir mwy o fanylion yn ein gwybodaeth am Fenthyciadau a Grantiau ynghylch sut a phryd i wneud cais am y cyllid sydd ar gael ar gyfer Rhan 1.

Os oes gennych chi gwestiynau am y cyllid hwn, a ydych chi’n gymwys neu sut i wneud cais, cysylltwch â'r Tîm Cyllido a Chyngor i Fyfyrwyr ar bob cyfrif.

Cyllid ar gyfer Rhan 2: MArch Pensaernïaeth (2 flynedd)

Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau mae’n bosibl eich bod yn gymwys i gael cyllid israddedig neu ôl-raddedig ar gyfer cwrs MArch, Rhan 2.

Cyllid i israddedigion

Mae’n bosibl bod myfyrwyr sy'n ymgymryd â Rhan 2 Pensaernïaeth yn gymwys i gael cyllid israddedig cyn belled â'u bod yn bodloni amodau a thelerau cymhwystra eu corff cyllido sy'n cynnwys y meini prawf canlynol:

  • Nid ydych wedi tynnu'n ôl o gwrs Rhan 1
  • Nid ydych wedi newid eich dull astudio (h.y. wedi newid o fod yn rhan-amser i fod yn amser llawn neu i'r gwrthwyneb)
  • Nid ydych wedi cymryd mwy na bwlch 3 blynedd rhwng cwblhau Rhan 1 a dechrau Rhan 2 (*Gweler y nodyn isod am eithriadau).

Os ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwystra yna mae’n bosibl eich bod yn gymwys i gael cyllid israddedig ar gyfer pob blwyddyn yn Rhan 2.

*Os ydych wedi cymryd mwy na bwlch 3 blynedd rhwng Rhan 1 a Rhan 2 yna mae gan eich corff cyllido’r disgresiwn i ddyfarnu cyllid israddedig ar gyfer Rhan 2 os gallwch ddangos tystiolaeth eich bod wedi cynnal y cysylltiad â byd pensaernïaeth yn ystod y cyfnod hwnnw; er enghraifft os oeddech yn gweithio yn y maes. Gall eich corff cyllido hefyd ystyried unrhyw resymau personol argyhoeddiadol a achosodd oedi wrth ddychwelyd i Ran 2. Os ydych chi wedi cymryd mwy na bwlch 3 blynedd ac yr hoffech chi drafod hyn, cysylltwch â'r Tîm Cyllido a Chyngor i Fyfyrwyr ar bob cyfrif.

Gwneud cais am gyllid israddedig ar gyfer MArch Pensaernïaeth, Rhan 2

Bydd gofyn ichi wneud cais i'r corff cyllido yr oeddech chi’n ei ddilyn yn ystod Rhan 1 o'ch cwrs.

Bydd gofyn ichi hefyd wneud cais ar ffurflen PN1 (i fyfyrwyr newydd) a byddem yn eich cynghori i ymgeisio gan ddefnyddio’r ffurflen bapur. Rydyn ni’n gofyn hyn gan y byddai'r cais ar-lein yn debygol o’ch gwneud yn anghymwys oherwydd astudiaethau blaenorol ond byddai hyn yn anghywir.

Cewch gyrchu ffurflen bapur PN1 gan eich corff cyllido penodol pan fydd ar gael:

Sylwer bod gofyn ichi ddefnyddio'r ffurflen ar gyfer y flwyddyn academaidd gywir.

Pan fyddwch chi’n gwneud cais am gyllid israddedig ar gyfer cwrs MArch, Rhan 2, gofynnir ichi gadarnhau manylion y cwrs. Sylwer ar y ddau bwynt pwysig canlynol:

  • I gael eich ystyried ar gyfer cyllid israddedigion mae manylion perthnasol y cwrs y dylech chi eu cynnwys yn rhan o'ch cais fel a ganlyn:
    • Pensaernïaeth (Rhan 2)
    • Côd y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr: 1006801
  • Mae Blwyddyn 1 y cwrs MArch at ddibenion cyllid myfyrwyr yn cael ei hystyried yn flwyddyn Dysgu sy’n Seiliedig ar Waith ac NID yn flwyddyn lleoliad. Yn eich cais am gyllid gofynnir i chi gadarnhau gwybodaeth am eich cwrs sy'n gysylltiedig â'r math o gwrs ac a fyddwch chi’n treulio amser yn ystod amser tymor ar leoliad gwaith. Atebwch fel pe baech yn fyfyriwr israddedig amser llawn sy'n treulio'r rhan fwyaf o bob tymor yn y brifysgol neu'r coleg

Os na fyddwch chi’n ateb y cwestiynau uchod fel y nodir bydd hyn yn effeithio ar y cyllid y bydd eich corff cyllido yn eich asesu amdano.

Os oes gennych chi anawsterau o ran eich cyllid, cysylltwch â'r Tîm Cyllido a Chyngor i Fyfyrwyr ar bob cyfrif.

Beth os nad ydw i’n gymwys i gael cyllid israddedig?

Os nad ydych chi’n gymwys i gael cyllid israddedig oherwydd nad ydych chi’n bodloni amodau a thelerau cymhwystra eich corff cyllido yna efallai y byddwch chi’n gymwys i gael cyllid ôl-raddedig yn lle hynny. Bydd a yw’r cyllid sydd ar gael ichi yn dibynnu ar ble roeddech chi’n preswylio fel arfer cyn dechrau eich cwrs.

Sylwer bod cyllid ôl-raddedig yn parhau am hyd y cwrs, nid fesul blwyddyn. Gan fod y MArch yn gwrs 2 flynedd, mae hyn yn golygu y byddai'r cyllid ôl-raddedig sydd ar gael ichi yn cael ei rannu ar draws dwy flynedd y cwrs.

Gwneud cais am gyllid ôl-raddedig ar gyfer MArch Pensaernïaeth, Rhan 2

I gael eich ystyried ar gyfer cyllid ôl-raddedig mae manylion perthnasol y cwrs y dylech chi eu cynnwys yn rhan o'ch cais fel a ganlyn:

  • Pensaernïaeth
  • Côd y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr: 202365

Cysylltu â ni

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Cyswllt Myfyrwyr