Ewch i’r prif gynnwys

Bwrsariaethau am myfyrwyr STEMM

Nid yw’r bwrsariaethau STEMM ar gyfer myfyrwyr gradd meistr o Gymru wedi’u cadarnhau ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24 eto. Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon pan fydd mwy o wybodaeth ar gael.

Nod cynllun bwrsariaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer myfyrwyr STEMM yw cynyddu nifer y graddedigion o Gymru sy’n aros yng Nghymru neu’n dychwelyd iddi i wneud gradd meistr mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg neu feddygaeth, a elwir hefyd yn bynciau ‘STEMM’.

Gwerth pob bwrsariaeth yw £2,000 ac efallai y bydd ar gael i fyfyrwyr o Gymru sy'n astudio rhaglen gradd meistr lawn a addysgir ym Mhrifysgol Caerdydd.

Bod yn gymwys

Yn ôl amodau Llywodraeth Cymru, gellir ond ystyried ymgeiswyr am fwrsariaeth os ydyn nhw’n yn gymwys i gael benthyciad fel yr amlinellir ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru (ac eithrio’r cyfyngiad ar sail oedran).

  • Rhaid i’r ymgeiswyr fod naill ai yn preswylio yng Nghymru fel arfer (ac heb symud yno at ddibenion addysg) yn ystod y tair blynedd ddiwethaf. Diffinnir preswylio fel arfer fel ‘wedi preswylio fel arfer ac yn gyfreithlon yn yr ardal honno o ddewis’. Ni fydd absenoldebau dros dro yn cael eu cynnwys;
  • Mae'n rhaid i ymgeiswyr ymgymryd â Chwrs STEMM Ôl-raddedig a Addysgir ym Mhrifysgol Caerdydd. (Gweler y rhestr o’r cyrsiau cymwys)
  • Nid yw ymgeiswyr a ddechreuodd gwrs cyn mis Medi 2022 yn gymwys ar gyfer bwrsariaeth.
  • Mae bwrsariaethau ar gael i ymgeiswyr sy’n ymgeisio am raglenni astudio amser llawn (blwyddyn fel arfer) a rhan-amser (dwy flynedd fel arfer).
  • Bydd myfyrwyr rhan-amser yn cael y fwrsariaeth dros gyfnod o ddwy flynedd o astudio.
  • Nid yw’r bwrsariaethau’n amodol ar brawf modd h.y. ni fyddan nhw’n dibynnu ar incwm teulu’r ymgeisydd a bydd ar ffurf hepgor y ffioedd dysgu.
  • Mae'r rhai sy'n cael bwrsariaeth hefyd yn gymwys i wneud cais am becyn cymorth gradd meistr ôl-raddedig ar gyfer myfyrwyr o Gymru (mae’r amodau a’r telerau’n berthnasol).
  • Os ydych chi'n cael eich ariannu gan gyllid arall gan y llywodraeth megis Gofal Cymdeithasol Cymru, y GIG/AaGIC, DHSSPS neu’r Cynghorau Ymchwil (KESS II) ni fyddwch chi’n gymwys i gael un o fwrsariaethau STEMM. Fodd bynnag, mae modd ystyried dyfarniadau ôl-raddedig eraill nad ydynt wedi’u hariannu gan y llywodraeth (yn amodol ar fodloni’r meini prawf cymhwystra), gan gynnwys Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Meistr Prifysgol Caerdydd.
  • Bydd y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn cadarnhau a yw ymgeiswyr sy’n ymgeisio am Fenthyciad Ôl-raddedig Cymru yn gymwys.
  • Bydd y Tîm Bwrsariaethau, Ysgoloriaethau a Chefnogaeth Ariannol yn gofyn i ymgeiswyr nad ydyn nhw’n ymgeisio am Fenthyciad Ôl-raddedig Cymru lenwi profforma a rhoi gwybodaeth ychwanegol er mwyn profi eu bod yn gymwys

Rhaglenni cymwys

Ar gyfer 2022/23 mae'r rhaglenni meistr canlynol yn gymwys ar gyfer bwrsariaethau STEMM:

Mathau eraill o gyllid

Rydych chi’n gymwys am fwrsariaeth STEMM hyd yn oed os byddwch chi’n derbyn y canlynol:

Sut i wneud cais

Nid oes proses ymgeisio ffurfiol ar gyfer bwrsariaeth STEMM. Caiff y bwrsariaethau eu dyfarnu'n awtomatig ar sail 'y cyntaf i'r felin' yn seiliedig ar pryd y byddwch chi’n derbyn eich cynnig i astudio rhaglen gymwys ym Mhrifysgol Caerdydd. Efallai y byddwn ni’n cysylltu â chi i ofyn i chi ddarparu rhywfaint o dystiolaeth i gadarnhau eich bod yn gymwys.

Er mwyn sicrhau y cewch fwrsariaeth, mae'n rhaid ichi gymryd y camau canlynol:

  • Gwneud cais am raglen gymwys sy'n dechrau ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2022/23
  • Derbyn eich cynnig astudio yn ffurfiol.
  • Os dyfarnwyd bwrsariaeth STEMM ichi byddwch chi’n cael gwybod erbyn diwedd mis Medi 2022.

Caiff y bwrsariaethau eu talu yn ystod semester dau a'u dyfarnu fel gostyngiad yn eich ffioedd dysgu.

Amodau a thelerau

  • Ni ellir gohirio bwrsariaethau. Mae’n rhaid i ymgeiswyr dderbyn y fwrsariaeth erbyn y dyddiad a nodir yn y llythyr dyfarnu. Collir y fwrsariaeth os yw ymgeiswyr yn dewis dechrau ar ddyddiad arall. Caiff y fwrsariaeth ei diddymu os bydd ymgeisydd yn trosglwyddo i gwrs nad yw'n un STEMM.
  • Os nad ydych chi’n gwneud cais am fenthyciad i ôl-raddedigion ac mae’r Brifysgol o’r farn nad ydych chi’n gymwys i gael bwrsariaeth, yn seiliedig ar y ddogfennaeth rydych chi wedi ei rhoi, yna mae gennych chi 14 diwrnod i gyflwyno dogfennaeth newydd i’w hadolygu fel eich apêl yn erbyn y penderfyniad.
  • Caiff deiliaid bwrsariaethau eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau cysylltiadau cyhoeddus a llysgenhadol ar sail wirfoddol yn ystod eich amser ym Mhrifysgol Caerdydd. Efallai y bydd y rhain yn cynnwys cyfweliadau, sesiynau tynnu llun a chymryd rhan mewn digwyddiadau (ond heb fod yn gyfyngedig i’r rhain), ond ni fyddan nhw’n tarfu ar eich astudiaethau. Ni ddisgwylir y bydd mwy na 50 awr o weithgareddau gwirfoddol drwy gydol cyfnod eich astudiaethau.
  • Ar ôl derbyn dyfarniad, ni chaiff deiliad bwrsariaeth dynnu'n ôl o'r cynllun, ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol, a bydd hyn yn amodol ar gymeradwyaeth y Pwyllgor a Phennaeth/Penaethiaid y Coleg(au)/Cadeirydd y Bwrdd Astudiaethau. Gall methu â dilyn y rheoliad hwn olygu bod yn rhaid i’r myfyriwr ad-dalu unrhyw ddyfarniad i'r Brifysgol a wnaed yn gyfan gwbl neu'n rhannol yn unol â phenderfyniad y Pwyllgor Derbyn a Recriwtio.
  • Os tybir bod angen i ddeiliad bwrsariaeth ohirio ei (h)astudiaethau, ni chaiff y fwrsariaeth ei chadw ar gyfrif y Brifysgol a chaiff ei bwrw ymlaen i’r flwyddyn pan fydd y deiliad yn ailgydio yn ei (h)astudiaethau. Bydd y myfyriwr yn gyfrifol yn bersonol am y ffioedd dysgu sy’n weddill.
  • Yn ôl barn y Pennaeth Ysgol priodol, os tybir bod cynnydd deiliad y fwrsariaeth yn anfoddhaol, gellir tynnu'r fwrsariaeth yn ôl. Gellir tynnu bwrsariaeth yn ôl ar sail methu â chydymffurfio ag unrhyw un o’r amodau sy’n gysylltiedig â’r dyfarniad. Yn y naill achos neu’r llall, bydd Ysgrifennydd y Grŵp Recriwtio a Derbyn yn rhoi gwybod i'r myfyriwr am y rhesymau ar gyfer tynnu'r fwrsariaeth yn ôl. Hwyrach y bydd angen i'r ymgeisydd ad-dalu unrhyw ddyfarniad a wnaed i'r Brifysgol, naill ai'n gyfan gwbl neu'n rhannol, fel y pennwyd gan y Pwyllgor. Os bydd y myfyriwr yn teimlo nad oes modd cyfiawnhau’r weithred o dynnu’r fwrsariaeth yn ôl, gall apelio’n ysgrifenedig at Gadeirydd y Grŵp Recriwtio a Derbyn cyn pen 15 niwrnod gwaith o’r dyddiad hysbysu. Mae'r Senedd yn cadw'r hawl i wneud y rheoliadau hyn, eu haddasu, eu tynnu'n ôl, eu hatal neu eu canslo heb rybudd, ar y cyd ag unrhyw reoliadau eraill sydd mewn grym o bryd i'w gilydd a bydd penderfyniadau o'r fath yn derfynol.

Cysylltwch

Os ydych yn ansicr a ydych yn gymwys neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Chyswllt Myfyrwyr i gael rhagor o wybodaeth.

Student Connect