Bwrsariaethau ar gyfer myfyrwyr gradd meistr o Gymru
Mae’r bwrsariaethau ar gyfer myfyrwyr meistr Cymraeg bellach wedi’u cadarnhau ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24. Gweler y manylion isod.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau â’i chyllid ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24 ar gyfer cynllun bwrsariaethau sydd â’r nod o annog myfyrwyr o Gymru i astudio eu graddau meistr yng Nghymru.
Mae tri math o fwrsariaeth ar gael:
- Bwrsariaethau gwerth £2,000 ar gyfer myfyrwyr STEMM
- Bwrsariaethau gwerth £4,000 i unrhyw un 60 oed neu'n hŷn sy'n astudio rhaglen feistr mewn unrhyw faes pwnc
- Bwrsariaethau gwerth £1,000 ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Bwrsariaethau ar gyfer myfyrwyr STEMM
Bwrsariaethau ar gyfer myfyrwyr 60 oed neu'n hŷn
Mae’r bwrsariaethau ar gyfer myfyrwyr 60 oed neu'n hŷn bellach wedi eu cadarnhau ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24.
£4,000 yw gwerth pob bwrsariaeth. Mae’r fwrsariaeth hon ar gael i fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru sy’n 60 oed neu’n hŷn ac sy’n astudio rhaglen gradd meistr lawn a addysgir ym Mhrifysgol Caerdydd.
os ydych chi'n gymwys ar gyfer un o'r bwrsariaethau hyn yna bydd hon yn cael ei dyfarnu'n awtomatig ichi ar ffurf gostyngiad yn eich ffioedd dysgu. Efallai y byddwn ni’n cysylltu â chi i ofyn i chi ddarparu rhywfaint o dystiolaeth i gadarnhau eich bod yn gymwys.
Bwrsariaethau ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg
Bydd bwrsariaeth hefyd ar gael gan Lywodraeth Cymru i bob myfyriwr o Gymru gwblhau ei radd meistr trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r fwrsariaeth ar gael ar gyfer astudiaethau amser llawn ar y rhaglen Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd (MA) yn 2023/24.
Gwerth pob bwrsariaeth yw £1,000 ac os byddwch chi'n gymwys yna bydd hon yn cael ei dyfarnu'n awtomatig ichi ar ffurf gostyngiad yn eich ffioedd dysgu. Efallai y byddwn ni’n cysylltu â chi i ofyn i chi ddarparu rhywfaint o dystiolaeth i gadarnhau eich bod yn gymwys.
Cysylltwch
Os ydych yn ansicr a ydych yn gymwys neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Chyswllt Myfyrwyr i gael rhagor o wybodaeth.
Student Connect
Dewch i edrych o gwmpas ein campws, cwrdd â myfyrwyr a staff, a chael blas ar sut beth yw astudio a byw yng Nghaerdydd.