Ewch i’r prif gynnwys

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Mae’n rhoi gostyngiad o 20% mewn ffioedd dysgu i fyfyrwyr cartref, myfyrwyr rhyngwladol a myfyrwyr Ewropeaidd. Os ydych chi’n gymwys, bydd y gostyngiad yn cael ei gymhwyso’n awtomatig wrth i chi gychwyn eich astudiaethau.

Cymhwysedd

Mae’r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i unrhyw un o raddedigion Prifysgol Caerdydd sy’n symud ymlaen i un o’r rhaglenni cymwys ac sydd wedi cwblhau un o’r canlynol:

  • gradd israddedig a ddyfarnwyd gan Brifysgol Caerdydd
  • cynllun Erasmus neu astudio dramor oedd yn dod â nhw i Brifysgol Caerdydd
  • ysgol Haf Ryngwladol oedd yn cynnwys credydau ym Mhrifysgol Caerdydd
  • Cymhwyster Cenedlaethol i fod un diwtor Cymraeg i Oedolion.

I fod yn gymwys mae’n rhaid eich bod yn symud ymlaen i gymhwyster ar lefel uwch na’r un sydd gennych eisoes.

Bydd angen bod gennych gynnig i’ch derbyn i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd ar un o’r rhaglenni cymwys canlynol, yn llawn amser neu’n rhan amser.

Rhaglenni cymwys

Dim ond rhaglenni amser llawn a rhan-amser ôl-raddedig a addysgir sy’n arwain at radd feistr sydd wedi'u cynnwys yn rhan o’r cynllun gostyngiad i gynfyfyrwyr:

  • Rhaglen amser llawn yn arwain at radd Meistr a addysgir
  • Rhaglen ran amser yn arwain ar radd Meistr a addysgir
  • MRes Biowyddorau
  • MRes Niwrofioleg Bôn-gelloedd

Os ydych yn astudio eich rhaglen yn rhan-amser, byddwch yn cael y gostyngiad llawn ym mlwyddyn gyntaf eich astudiaethau.

Rhaglenni sydd heb eu cynnwys

Nid yw'r rhaglenni canlynol wedi'u cynnwys felly nid ydynt yn gymwys i gael gostyngiad i gynfyfyrwyr:

  • Rhaglenni dysgu o bell
  • Rhaglenni a addysgir yn arwain at ddiploma graddedig (GDip), tystysgrif ôl-raddedig (PgCert) neu ddiploma ôl-raddedig (PgDip)
  • Graddau ymchwil sy'n arwain ar radd Meistr mewn Athroniaeth (MPhil).
  • Cyrsiau deintyddol clinigol
  • Cyrsiau sy'n caniatáu cronni credydau, gan gynnwys yr MSc rhan-amser mewn Optometreg Glinigol

Ni fyddwch yn gymwys chwaith os oes gennych eisoes Dystysgrif neu Ddiploma Ôl-raddedig a'ch bod yn mynd ymlaen i gam Meistr y radd ar hyn o bryd.

Ar wahân i'r MRes yn y Biowyddorau neu Niwrofioleg Bôn-gelloedd, ni chewch hawlio arian ysgoloriaeth ar gyfer rhaglenni ymchwil ôl-raddedig sy’n arwain at MPhil.

Mathau eraill o gyllid

Byddwch yn gymwys i gael gostyngiad cynfyfyrwyr hyd yn oed os byddwch yn derbyn:

Ni fyddwch chi’n gymwys i gael y gostyngiad i gyn-fyfyrwyr os oes gennych chi gyllid (sy'n cynnwys naill ai ffioedd dysgu neu gostau byw) gan gorff allanol a fydd yn cael ei anfonebu gan y Brifysgol ar gyfer ffioedd (megis y Llywodraeth, elusen neu sefydliad preifat). Mae myfyrwyr sy'n cael benthyciadau addysgol yn gymwys i gael y cyllid.

Os ydych chi'n fyfyriwr Rhyngwladol neu Ewropeaidd yna dim ond os nad yw'r gwerth cyfun yn fwy na £5000 y byddwch chi'n gymwys i gael y gostyngiad cyn-fyfyrwyr yn ychwanegol at ysgoloriaethau eraill a ariennir gan brifysgol.

Sut i wneud cais

Nid oes proses ffurfiol o wneud cais am gynllun peilot y gostyngiad i gynfyfyrwyr. Byddwn ni’n asesu a ydych yn gymwys i gael y gostyngiad fel rhan o’ch cais i astudio cwrs ôl-raddedig a addysgir ym Mhrifysgol Caerdydd.  Os ydych chi’n gymwys, bydd y gostyngiad priodol i’r ffioedd dysgu yn digwydd yn awtomatig, a chewch eich hysbysu ynghylch hynny unwaith y byddwch wedi ymrestru ar eich rhaglen ddewisol. Sylwch y bydd eich llythyr cynnig yn dangos swm y ffioedd dysgu yn llawn.

Telerau ac amodau

Bydd y cynllun gostyngiad i gyn-fyfyrwyr a fydd ar gael ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025/26 yn cael ei gadarnhau ym mis Hydref 2024.

  1. Bydd y gostyngiad i gynfyfyrwyr ar ffurf gostyngiad mewn ffioedd dysgu ac ni fydd unrhyw arian yn cael ei dalu i chi yn uniongyrchol. Bydd hyn yn lleihau'r swm sy'n daladwy i'r Brifysgol. Yna bydd gweddill y ffioedd dysgu'n daladwy yn unol â’n polisi ffioedd dysgu.
  2. Mae’r gostyngiad i gyn-fyfyrwyr yn ostyngiad o 20% mewn ffioedd dysgu i fyfyrwyr cartref, myfyrwyr rhyngwladol a myfyrwyr Ewropeaidd, ac mae ar gael ar gyfer un o’r rhaglenni cymwys ôl-raddedig a addysgir sydd wedi’u rhestru.
  3. Mae disgwyl i chi dalu am weddill cost eich astudiaethau o ffynonellau eraill
  4. Dim ond myfyrwyr sy’n ariannu eu hunain sy’n gymwys i gael y gostyngiad i gynfyfyrwyr
  5. Os ydych yn fyfyriwr yn y DU sy'n derbyn Ysgoloriaeth Meistr Prifysgol Caerdydd gwerth £3,000, ni allwch dderbyn y gostyngiad cyn-fyfyrwyr yn ogystal â hynny.
  6. Os ydych yn cael cyllid (sy'n cynnwys naill ai ffioedd dysgu neu ffioedd dysgu a chostau byw) gan gorff allanol a fydd yn cael eu hanfonebu gan y Brifysgol ar gyfer ffioedd (megis y Llywodraeth, elusen neu sefydliad preifat) ni fyddwch yn gymwys i gael y gostyngiad i gynfyfyrwyr. Mae myfyrwyr sy'n cael benthyciadau addysgol yn gymwys i gael y dyfarniad.
  7. Os ydych chi'n derbyn cyllid (sy'n cynnwys naill ai ysgoloriaethau neu ostyngiadau) gan y brifysgol ni all y gwerth cyfun uchaf fod yn fwy na £5000.
  8. Ar gyfer rhaglenni sy'n para dwy flynedd neu ragor (gan gynnwys astudiaethau rhan-amser), byddwch yn cael y gostyngiad llawn yn eich blwyddyn gyntaf. Os na fyddwch yn cwblhau eich rhaglen, efallai y bydd angen i chi ad-dalu swm o'r gostyngiad a ddyfarnwyd. Ar gyfer llwybr rhan-amser MSc Optometreg Glinigol, dim ond os byddwch yn nodi eich bwriad i gwblhau'r MSc llawn pan fyddwch yn dechrau eich astudiaethau y bydd gennych hawl i’r gostyngiad.
  9. Nid oes modd cael arian yn lle’r gostyngiad ar y ffi dysgu, trosglwyddo’r arian nac unrhyw amrywiad arall.
  10. Chi sy’n atebol am yr holl gostau eraill cysylltiedig â’ch astudiaethau
  11. Disgwylir i chi ddechrau eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd ym mlwyddyn academaidd 2024/25.
  12. Bydd rhaid i chi ddilyn a chydymffurfio’n llwyr â rheolau a rheoliadau Prifysgol Caerdydd, ynghyd â’r holl amodau a thelerau academaidd a'r amodau a thelerau eraill sy’n gysylltiedig â’ch rhaglen astudio.
  13. Bydd angen i chi dalu gweddill eich ffioedd dysgu yn unol â’n polisi ffioedd dysgu.
  14. Gofynnir i chi gymryd rhan mewn gweithgareddau cysylltiadau cyhoeddus a llysgenhadol, ar sail wirfoddol, yn ystod eich amser ym Mhrifysgol Caerdydd. Efallai y bydd y rhain yn cynnwys cyfweliadau, sesiynau tynnu llun a chymryd rhan mewn digwyddiadau (ond heb fod yn gyfyngedig i’r rhain), ond ni fyddan nhw’n tarfu ar eich astudiaethau.

Cysylltu

Os ydych yn ansicr a ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun gostyngiad i gynfyfyrwyr, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.