Cyfnodau preswyl - i'w gadarnhau
Bydd y dyddiadau preswyl ar gyfer eich llety penodol yn cael eu cadarnhau yn eich Cynnig Llety.
Gall y cyfnodau preswyl hyn gynnwys cyfnodau lleoliad gwaith pan fyddwch yn talu ffioedd preswylfeydd er na fyddwch yn aros yn eich ystafell.
Mis Medi i fis Mehefin (40 wythnos)
- Dydd Mercher 22 Medi 2021 hyd at ddydd Mercher 29 Mehefin 2022, gan gynnwys yr holl wyliau.
Mis Medi i fis Mehefin (39 wythnos)
- Dydd Mercher 22 Medi 2021 hyd at ddydd Llun 20 Mehefin 2022, gan gynnwys yr holl wyliau.
Mis Medi i fis Gorffennaf (41 wythnos) - Tŷ Clodien
- Dydd Mercher 22 Medi 2021 hyd at ddydd Mercher 6 Gorffennaf 2022, gan gynnwys yr holl wyliau.
Cyfnod preswyl ansafonol
- Mae'r cyfnodau hyn yn unol â dyddiadau tymor cyrsiau unigol ac yn berthnasol yn gyffredinol i fyfyrwyr sy'n astudio:
- Hylendid Deintyddol / Therapi
- Bydwreigiaeth
- Nyrsio
- Ymarfer Gofal Llawdriniaethol
- Radiograffeg / Radiotherapi
- Bydd dyddiadau pendant eich cyfnod preswyl yn cael eu cadarnhau yn eich Cynnig Llety.
Cyfnod preswyl am flwyddyn gyfan
- Dydd Mercher 22 Medi 2021 hyd at ddydd Gwener 16 Medi 2022.
Dylech nodi:
- Efallai y bydd gofyn i fyfyrwyr a chanddynt gyfnod preswyl am flwyddyn gyfan symud o'u hystafell wely astudio wreiddiol i ystafell wely astudio arall sydd mor agos â phosibl o fewn yr un ardal breswyl. Bydd hyn yn sicrhau y byddwch yn parhau i fod yn agos at fyfyrwyr eraill ac yn lleihau'r amhariad a achosir pan fydd gwaith cynnal a chadw angenrheidiol yn mynd rhagddo ar y safle. Disgwylir y bydd hyn yn digwydd yn ystod mis Mehefin/Gorffennaf. Cewch eich hysbysu o fanylion yr ystafell y byddwch yn symud iddi gan y Rheolwr Preswylfeydd.
- Nid yw'n bosibl i chi aros yn eich preswylfeydd ar ôl diwedd y cyfnod preswyl.
Cyrraedd yn gynnar o wlad dramor
Os ydych yn bwriadu cyrraedd Caerdydd cyn dechrau'r cyfnod preswyl a nodir yn eich cytundeb preswylfeydd, byddwch cystal â nodi'r canlynol:
- Os ydych yn bwriadu cyrraedd cyn dydd Llun 20 Medi, ni fydd eich ystafell yn barod a bydd angen i chi wneud eich trefniadau llety dros dro eich hunan nes dechrau'r cyfnod preswyl.
- Os ydych yn bwriadu cyrraedd rhwng dydd Llun 20 Medi a dechrau eich cyfnod preswyl, mae'n bosibl y bydd eich ystafell ar gael. Bydd angen i chi gysylltu â'ch Rheolwr Preswylfeydd ymhell ymlaen llaw cyn i chi gyrraedd er mwyn gwirio hyn. Os nad yw eich ystafell yn barod ar eich cyfer tan ddechrau'r cyfnod preswyl, bydd angen i chi wneud eich trefniadau eich hunan ar gyfer llety dros dro, tan ddechrau'r cyfnod preswyl.