Cwrs Adolygu Systematig
Cwrs dwys i'ch cyflwyno i'r sgiliau angenrheidiol i gwblhau adolygiad systematig.
Datblygwch ddealltwriaeth o'r broses adolygu'n systematig drwy'r cwrs ymarferol a rhyngweithiol iawn hwn, gydag amrywiaeth o sesiynau trafod, grŵp ac ymarferol. Rhagwelir y bydd y cyfranogwyr yn dod i’r cwrs â phwnc ymchwil ac yn mynd â phrotocol drafft ar gyfer eu hadolygiad systematig.
Dyddiadau'r cwrs
Cynhelir cwrs nesaf Adolygu Systematig ar 15 – 18 Ebrill 2024.
Cwrs rhithwir yw hwn a fydd yn cynnwys 5 sesiwn hanner diwrnod (boreau) a fydd yn cael eu harwain gan diwtor. Bydd llawer o seibiannau wedi'u hamserlennu a digon o gyfleoedd ar gyfer astudio annibynnol yn ystod y prynhawniau.
Rhagor o wybodaeth am y cwrs
Gellir cyflwyno'r cwrs hwn yn rhithwir neu wyneb yn wyneb dros 4 neu 5 diwrnod. Arweinir y sesiynau gan diwtor gyda chyfleoedd i astudio'n annibynnol a chefnogaeth tiwtor un i un.
Ar gyfer pwy mae’r rhaglen?
- Gweithwyr gofal iechyd
- Ymchwilwyr gofal iechyd ôl-raddedig
- Llunwyr polisïau
- Llyfrgellwyr a gweithwyr gwybodaeth proffesiynol
Cynnwys y cwrs
Bydd cyfranogwyr yn dod i’r cwrs â phwnc ymchwil ac yn mynd â phrotocol drafft ar gyfer eu hadolygiad systematig.
Mae’r cwrs hwn yn cynnwys:
- cyflwyniad i adolygiadau systematig a mathau eraill o synthesis tystiolaeth
- datblygu protocol
- chwilio am lenyddiaeth a dewis astudiaethau
- arfarnu beirniadol o ymchwil meintiol ac ansoddol
- echdynnu data - datblygu ac addasu ffurflenni
- meda-ddadansoddi neu syntheseiddio naratif
- adrodd a lledaenu syntheses tystiolaeth.
Manteision
- datblygu sgiliau rhyngweithiol
- dod gyda phwnc
- gadael gydag amlinelliad o brotocol
- tiwtoriaid â phrofiad helaeth o adolygiadau systematig
Arweinydd cwrs
Dewch i wybod rhagor am raglen y cwrs ac ymrestru ar gwrs nesaf Adolygu Systematig.