Ewch i’r prif gynnwys

Casgliadau Arbennig ac Archifau

Dull rhad ac am ddim o gael hyd i drysorau a chasgliadau ymchwil unigryw Prifysgol Caerdydd.

Croeso i Gasgliadau Arbennig ac Archifau: dull rhad ac am ddim o gael hyd i drysorau a chasgliadau ymchwil unigryw Prifysgol Caerdydd.

Ein bwriad yw creu a diogelu adnodd cynhwysfawr cenedlaethol a rhyngwladol o wybodaeth ym meysydd hanes, y celfyddydau, y dyniaethau a gwyddoniaeth, a gwneud yr adnodd yn hygyrch i'r cyhoedd. Ein nod yw ysbrydoli eich creadigrwydd, cyfoethogi eich gwaith ymchwil a chefnogi eich dysgu.

Porwch drwy ein casgliad helaeth o lyfrau, dogfennau archif, ffotograffau, papurau newydd, darluniau, cyfnodolion a mapiau.

Dewch o hyd i'n casgliadau mewn ardal astudio tawel a gwnewch yn fawr o'n cynnwys gyda chymorth ein tîm proffesiynol.

Darllenwch ein blog bywiog i gael gwybod am uchafbwyntiau ein casgliadau, newyddion, cyfleoedd a digwyddiadau.

Mae ein cymunedau'n bwysig i ni. Dysgwch ragor am sut rydym am weithio gyda chi.