Ewch i’r prif gynnwys

Archif W. G. Collingwood

Llun dyfrlliw o Mrs Beever, gan William Gershom Collingwood (1854-1932)
Llun dyfrlliw o Mrs Beever, gan William Gershom Collingwood (1854-1932).

Papurau a chelfweithiau yn eiddo i dair cenhedlaeth o deulu Collingwood.

Roedd William Gershom Collingwood (1854-1932) yn artist proffesiynol ac yn athro celfyddydau cain ym Mhrifysgol Reading, ac efallai yn fwy adnabyddus am ei gyfeillgarwch gyda John Ruskin (1819-1900). Mae’r archif yn cynnwys dros 200 o lythyrau gan Ruskin, yn ogystal â llyfrau braslunio a chelfweithiau oedd yn eiddo i’r ddau. Cyhoeddodd W.G. Collingwood nifer o lyfrau, ac roedd yn cymryd rhan weithredol yng Nghymdeithas Artistiaid Ardal y Llynnoedd.

Mae’r archif yn cynnwys:

  • Gohebiaeth Collingwood
  • Llyfrau nodiadau
  • Drafftiau
  • Dyddiaduron
  • Mapiau llaw

Roedd Arthur Ransome (1884-1967) yn ffrind teuluol agos, a seliodd ei lyfr ‘Swallows and Amazons’ ar ei brofiadau o hwylio gydag wyrion Collingwood. Roedd ei wraig, Edith Mary Isaac, (1857-1928) yn artist uchel ei pharch, yn arbenigo mewn gwaith peintio miniaturwr. Mae ei llyfrau braslunio, a 30 o’i ddyddiaduron yn cael eu cadw yn yr archif, gan gynnwys y rheiny a gedwir yn ystod blynyddoedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r archif hefyd yn cynnwys tua 700 o lythyron i’w rhwydwaith eang o ohebwyr.

Roedd Robin George Collingwood (1889-1943), mab William a Judith, yn hanesydd ac athronydd enwog, a hefyd yn adnabyddus am ei waith ym maes archaeoleg. Mae Prifysgol Caerdydd yn gartref i’r Ganolfan Collingwood a Delfrydiaeth Prydeinig, canolfan yn ymroddedig yn rhannol i gyfraniadau ac ysgrifeniadau R.G. Collingwood. Mae’r archif yn cynnwys llythyrau a dyddiaduron, yn ogystal â llyfrau braslunio a llythyrau  ei chwaer, Dora Collingwood (1886-1964).

Fel ei rhieni, roedd Dora'n gerflunydd uchel ei pharch ac yn astudio celf ym Mharis. Mae ei llyfrau brasluniau, 50 o ddyddiaduron a thua 200 o lythyrau yn cael eu cadw yn yr archif. Priododd yr Uwch-gapten, Oscar Theodor Gnosspelius, (1878-1953), peiriannydd sifil a adeiladodd monoplanau a chynnal arbrofion awyrenneg cynnar, nifer ohonynt sydd wedi’u nodi yn ei lyfrau nodiadau ac albymau lluniau. Ganwyd merch iddynt, Janet Gnosspelius (1927-2010), pensaer a hanesydd ac mae'n rhaid i ni ddiolch iddi am ofalu a chasglu archif ei theulu.  Mae ei llyfrau brasluniau, dyddiaduron, tua 200 o lythyrau ac ymchwil hanes teuluol helaeth yn cael eu cadw yn y casgliad.

About this collection

Collection type: Archive

Dates: 19 century, Early 20 century, Late 20 century

Size: 20 metr llinol

Formats: Archives

Subjects: Literature and journalism, Art and music, Medicine and science, History, Society and law

Contact Us

Our professional team is here to help you to make the most out of our collections.