Ewch i’r prif gynnwys

Beiblau

Nicholaus Brylinger, Bibell. Das ist alle bücher allts vn[d] neüws Testaments, auß Hebreischer vnd Griechischer jhren vrsprünglichen sprachen mit allem fleiß vnd auffs aller treüwlichest verteütschet (Basel, 1552)

Casgliad nodedig o Feiblau argraffedig cynnar Cymraeg, Saesneg a Chyfandirol.

Mae Llyfrgell Salisbury, yn cadw'r mwyafrif o argraffiadau o'r Beibl a gyhoeddwyd yn y Gymraeg neu yng Nghymru a rhai o'r Beiblau cynharaf mewn ieithoedd Celtaidd eraill. Defnyddiwyd nifer o lyfrau fel beiblau teuluol gyda rhestrau manwl o enedigaethau, marwolaethau a phriodasau o fewn teulu penodol.

Y gwaith hynaf yw copi gwreiddiol ond anghyflawn o gyfieithiad gan William Salesbury o'r Testament Newydd yn 1567. Mae'n bwysig nid yn unig oherwydd dyma'r fersiwn Gymraeg gyntaf o'r Ysgrythur, ond oherwydd ei orgraff idiosyncratig a llythyr rhagarweiniol sylweddol Richard Davies at bobl Cymru.

Yn ei gyflwyniad, mae Davies, Archesgob Tyddewi, yn dadlau y bydd y grefydd Brotestannaidd yn adfer hen Eglwys hynafol y Cymry, heb ei difetha gan Rufain. Mae atgynhyrchiad o'r Llyfr Gweddi Gyffredin a'r Sallwyr, a gyfrannodd Salesbury ato'n ogystal, hefyd ar gael. Ceir copi gwreiddiol ac atgynhyrchiad o gyfieithiad Cymraeg hynod ddylanwadol William Morgan o'r Beibl a gyhoeddwyd yn 1588 yn ei gyfanrwydd hefyd.

Mae'r fersiynau eraill o'r Beibl Cymraeg yn cynnwys:

  • Diwygiad Richard Parry a Dr John Davies o Feibl Morgan yn 1620.
  • ‘Beibl Bach’ 1630, argraffiad poblogaidd cyntaf y Beibl Cymraeg.
  • Testament Newydd 1647, a ystyriwyd yn gyfeithiad cyntaf ar gyfer Anghydffurfwyr.
  • Beibl Moses Williams 1717, y Beibl Cymraeg cyntaf a gyhoeddwyd gan y S.P.C.K. (Cymdeithas Hyrwyddo Gwybodaeth Gristnogol).
  • Beibl Peter Williams,1770 , y Beibl Cymraeg cyntaf i'w gyhoeddi gyda sylwebaeth a'r cyntaf i'w gyhoeddi yng Nghymru.
  • Testament Newydd dwyieithog a gyhoeddwyd yn 1831 sy'n cynnwys y testun yn Gymraeg a Saesneg mewn colofnau ochr yn ochr â'i gilydd.

Mae'r fersiynau modern yn cynnwys:

  • Adolygiad o Feibl 1620 a gyhoeddwyd yn 1955.
  • Testament Newydd 1975 oedd yn cynnig cyfieithiad newydd sbon o'r testun Groeg yn hytrach na diwygiad o gyfeithiadau blaenorol.
  • Beibl Cymraeg Newydd 1988, wnaeth droi at y testunau Hebraeg, Arameaidd a Groegaidd i greu cyfeithiad newydd o'r Beibl yn ei gyfranrwydd mewn iaith fodern.

Mae copi o'r casgliad o arwyddocâd sylweddol sef y Cyd-gordiad egqyddorawl o’r scrythurau (1730). Dyma'r cydgordiad cynharaf i'w argraffu yn Gymraeg, a'r ail lyfr Cymraeg a argraffwyd yn yr U.D. Mae'r copi yn gyflawn ac yn ei rwymiad croen llo gwreiddiol.

Ceir amrywiaeth o Feiblau wedi'u cyhoeddi mewn ieithoedd Celtaidd eraill. Mae'r casgliad yn cynnwys:

  • copi o'r Beibl Cernyweg a gyhoeddwyd yn 2011
  • sawl argraffiad o'r Testament Newydd a'r Beibl Llydaweg, yn cynnwys argraffiad cyntaf y Testament Newydd yn Llydaweg gan Le Gonidec, ag addaswyd gan y Parch Rev. T. Price (Carnhuanawc o Grug Hywel)
  • argraffiad 1819 o'r Beibl Manaweg a Beibl Teuluol Manaweg o ddiwedd y 20g
  • Testamentau Newydd a Beiblau Gaeleg yr Alban, yn cynnwys cyfeithiad o 1783 o'r Hen Destament o'r Hebraeg a baratowyd gan y Cymdeithas Hyrwyddo Gwybodaeth Gristnogol Albanaidd.
  • Hen Destament Gwyddelig yn y Casgliad gyda nodyn hir gan E.C. Quiggin sy'n disgrifio tarddiad y copi hwn. Mae'r arysgrif  yn honni bod hwn yn un o 200 o gopïau a anfonwyd i'r Alban gan yr Anrh. Robert Boyle, mab Iarll Cork, yn 1688 at ddefnydd clerigwyr yr Ucheldiroedd (dim ond rhyw 80 copi a ddosbarthwyd mae'n debyg a dim ond nifer fechan sydd wedi goroesi).

Mae'r Casgliad Llyfrau Prin yn cynnwys y rhan fwyaf o argraffiadau allweddol Saesneg o'r Beibl dros dair canrif. Yn eu plith mae yna weithiau sydd wedi achosi dadleuon crefyddol yn eu dydd; o gyfieithiad cynnar Coverdale i'r Beibl awdurdodedig diweddarach.

Mae'r argraffiadau Saesneg pwysig yn cynnwys:

  • Beibl Genefa, sy'n cael ei adnabod yn aml yn Saesneg fel y ‘Breeches Bible' oherwydd defnydd y term hwn yn Saesneg yn Genesis, Pennod 3, a gyhoeddwyd yn gyntaf yn 1560 gan alltudion Protestannaidd yn Genefa Calfinaidd.
  • Argraffiad cyntaf Beibl yr Archesgobion (hefyd yn cael ei adnabod fel y 'Treacle Bible' neu 'The Gentlemen's Bible') o 1658, adolygiad o Feibl Mawr Coverdale gan Archesgobion ac ysgolheigion Beiblaidd oedd yn erbyn cyfeithiad Genefa.
  • o ochr arall y gwahaniad crefyddol, 4ydd argraffiad y Rheims New Testament (1633), a baratowyd gan ddiwynyddion yng Ngholeg Rheims, canolfan Catholigiaeth yn ystod adferiad brotestannaidd y Frenhines Elizabeth. Y cyfieithiad mwy diweddar hwn oedd y fersiwn Catholigaidd Rhufeinig cyntaf yn Saesneg.

Mae nifer o eitemau gwerthfawr yn Adran y Cyfandir sef:

  • Beibl Lladin a gyhoeddwyd yn Nuremberg yn 1478 gan yr argraffwr Almaenaidd nodedig, Anton Koberger ac a oedd yn eiddo i William Morris
  • ailargraffiad o Destament Newydd Groeg Bebel o 1524 sydd wedi ei anodi'n gynhwysfawr. Cafodd ei olygu gan Conrad Pellican ac mae'r rhagair gan Oecolampadius, y diwygiwr Almaenaidd
  • copi o'r 17g cynnar o Feibl Hebraeg-Lladin rhyng-linellol Xantis Pagnini a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1528. Roedd cyfieithiad Pagnini a'i waith geirfaol a gramadegol Hebraeg yn ddylanwadol iawn ym maes ysgolheictod Beiblaidd am nifer o flynyddoedd.

Yn ogystal â thestunau Lladin, Groeg a Hebraeg, mae yna fersiynau Iseldireg, (fel Henrik Peetersen van Middelborch's Den Bibel, a gyhoeddwyd yn Antwerp yn 1541); Ffrangeg (e.e. Pierre Robert Olivetan, La Bible, a gyhoeddwyd yn Amsterdam, 1635); Almaeneg (e.e. cyfieithiad Johann Dietenberger's a gyhoeddwyd yn 1550 yn Cologne); Eidalaidd (e.e. La Biblia gan Antonio Brucioli, Fenis, 1538); ac argraffiad cyntaf prin o'r Beibl yn ei gyfanrwydd yn Romansch a gyhoeddwyd ym Masel yn 1552.

Mae nifer o'r eitemau yn y casgliad yn cynnwys darluniau torluniau pren caen neu ysgythriadau copr.  Yn ogystal mae yna sawl argraffiad o'r Beibl sydd â chanllawiau astudio. Yn eu plith ceir nifer o Feiblau o'r 18g diweddar a'r 19g cynnar gyda chyfieithiadau Saesneg o nodiadau esboniadol gan y diwinydd o'r Swistir, Jean Frederic Ostervald a sylwebaethau gan y difinydd Saesneg fythol boblogaidd, Matthew Henry.

About this collection

Collection type: Print

Dates: Pre 1600, 17 century, 18 century, 19 century

Size: c. 1000 o Feiblau Saesneg a Chyfandirol, c.400 Cymraeg a Cheltaidd

Formats: Books

Subjects: Religion

Contact Us

Our professional team is here to help you to make the most out of our collections.