Ewch i’r prif gynnwys

Llyfrgell Cerddoriaeth y BBC

Cerddoriaeth argraffedig y 18fed a’r 19eg ganrif, wedi’i chasglu yn y 1950au ar gyfer cynhyrchwyr yn paratoi deunydd darlledu ar gyfer BBC Radio 3.

Llyfrgell Cerddoriaeth y BBC

Richard Wagner, Die walküre. Mainz: B. Schott’s Söhne, 1899. Copi unigryw gyda sawl hysbysiad perfformiad wedi’u rhwymo gyda’r sgôr.
Richard Wagner, Die walküre. Mainz: B. Schott’s Söhne, 1899. Copi unigryw gyda sawl hysbysiad perfformiad wedi’u rhwymo gyda’r sgôr.

Cerddoriaeth argraffedig y 18fed a’r 19eg ganrif, wedi’i chasglu yn y 1950au ar gyfer cynhyrchwyr yn paratoi deunydd darlledu ar gyfer BBC Radio 3.

Prynwyd y casgliad gan Lyfrgell Cerddoriaeth y BBC er mwyn cyd-fynd â deunydd yng nghasgliadau Mackworth a Aylward ym Mhrifysgol Caerdydd.

Y papurau erwydd i’w nodi yn y casgliad yw:

  • 'Sechs romanzen mit pianoforte-begleitung' gan Giuseppe Verdi (tua. 1877) mewn argraffiad Almaeneg prin yn llawn darluniau.
  • 'Thomas and Sally' gan Thomas A. Arne (1784), sef yr opera gomedi cyntaf Saesneg i’w chanu heb ddeialog.
  • Copi o'r 'Snegourotchka suite' (c. 1899) gan Rimsky-Korsakov wedi’i arwyddo gan y cyfansoddwr
  • 'A Selection of Welsh melodies' (1809) gan John Parry
  • Die walküre (1899) gan Richard Wagner - copi unigryw sydd â sawl hysbysiad perfformio wedi’u rhwymo gyda’r sgôr.

Mae rhai  o ddylanwadau pwysig ond llai adnabyddus opera’r 18fed ganrif yn cael cynrychiolaeth yn y casgliad. Mae rhain yn cynnwys y cyfansoddwyr opera digrif Ffrenig D. F. Auber (1782-1871), Niccolò Jommeli (1714-1774), ac Antonion Sacchini (1730-1786).

Ceir sawl darn hefyd yn y casgliad gan y cyfansoddwr Fenisaidd Baldassare Gallupi, (1706-1785), gan gynnwys copi o'r flwyddyn 1761 o ganeuon o’i opera 'Il filosofo di campagna' (1754), gwaith a ystyrir yn gyfraniad pwysig i ddatblygiad yr 'Opera buffa' (opera digrif).

About this collection

Collection type: Print

Dates: 18 century, 19 century

Size: c. 700 o eitemau

Formats: Books

Subjects: Art and music

Contact Us

Our professional team is here to help you to make the most out of our collections.