Prentisiaeth gradd
Mae’r BSc mewn Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol yn rhaglen dair blynedd arloesol sy’n galluogi unigolion i gael gradd tra’u bod mewn cyflogaeth.
Dim ond gweithwyr cwmnïau a sefydliadau sy’n gweithio yng Nghymru sy’n cael astudio prentisiaeth gradd.

Roedd y cwrs, sef BSc Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol, yn uniongyrchol berthnasol i sut a pham roeddwn am uwchsgilio yn fy swydd gydag Admiral yng Nghymru. Roedd wedi dilyn ac yn cyfeirio at yr holl newidiadau roeddwn yn eu gweld yn y gweithle – er enghraifft, y gwaith roeddem yn ei wneud ar brosesu cyflymach, gweithredu mwy ystwyth, a rheoli côd yn well.Teimlad gwych yw graddio â phrofiad gwaith i’ch enw, a gallaf weld y manteision i’m dyfodol ...
Strwythur y cwrs
Mae strwythur Prentisiaeth Gradd BSc Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol yn cyfateb i’n gradd bresennol BSc Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol (ASE). Dyluniwyd y radd ASE mewn cydweithrediad agos â’r diwydiant i wneud yn siŵr ei bod yn diwallu anghenion cyflogwyr. Mae’r brentisiaeth wedi ei mapio’n unol â Fframwaith Prentisiaeth Gradd Digidol Cymru.
Semester yr hydref
Blwyddyn 1 | Blwyddyn 2 | Blwyddyn 3 |
---|---|---|
Meddwl cyfrifiadurol | Ceisiadau masnachol gyda Java | Fframweithiau masnachol, ieithoedd ac offer |
Cyflwyniad i ddatblygu gwefannau | Diogelwch | Technolegau sy’n dod i’r amlwg |
Sgiliau datblygu meddalwedd 1 | Rheoli prosiectau’n hyblyg | Mabwysiadu technoleg |
Semester y gwanwyn
Blwyddyn 1 | Blwyddyn 2 | Blwyddyn 3 |
---|---|---|
Hanfodion cyfrifiadura gyda Java | DevOps | Rheoli newid |
Systemau cronfa ddata | Datblygu symudol gydag Android | Prosiect peirianneg meddalwedd |
Sgiliau datblygu meddalwedd 2 | Perfformiad a graddoli | Prosiect peirianneg meddalwedd |
Addysgu
Mae pob semester yn cael ei rannu’n gyfnod addysgu a chyfnod dysgu ar sail gwaith.
Cynhelir y cyfnod addysgu 6-7 wythnos o hyd gyda phwyslais ar sgiliau academaidd a damcaniaethol, sy’n cael eu hymarfer mewn ystafell ddosbarth. Bydd disgwyl i’r prentisiaid fod yn yr Academi Meddalwedd Genedlaethol (NSA) dri diwrnod yr wythnos, ac yn y gweithle ddau ddiwrnod yr wythnos.
Cynhelir y cyfnod dysgu ar sail gwaith am 7-8 wythnos, gyda’r sgiliau hyn yn cael eu rhoi ar waith yn y gweithle, lle bydd y prentisiaid yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser. Fodd bynnag, bydd rhai sesiynau’n cael eu cyflwyno yn yr NSA, ac mae croeso i’r prentisiaid ddod iddynt.
Yn ystod gwyliau’r Brifysgol byddai’r prentis yn eu gweithle’n amser llawn. Hefyd, efallai bydd rhaid dod i’r Brifysgol ar gyfer profion dosbarth, arholiadau, cyflwyniadau.
Bydd y Brifysgol yn enwebu tiwtor i ymweld â phrentisiaid yn y gweithle, monitro cynnydd o ran dysgu ar sail gwaith, a chyfathrebu â’r cyflogwyr.
Asesu
Mae bron dau draean o’r rhaglen yn cael ei asesu ar sail gwaith. Bob semester, bydd staff NSA yn cydweithio’n agos â phob cyflogwr i wneud yn siŵr bod gan bob prentis brosiect addas seiliedig ar waith i fodloni’r deilliannau dysgu priodol, ynghyd â chyflawni anghenion busnes eu cyflogwr.
Ffioedd y cwrs
Telir ffioedd y cwrs gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), ar ran Llywodraeth Cymru. Rhaid i’r holl brentisiaid fod yn gweithio i sefydliad sydd â swyddfa yng Nghymru, a rhaid eu bod yn treulio o leiaf 51% o’u horiau gwaith yn gweithio yng Nghymru. Bydd disgwyl i gyflogwyr dalu’r holl gostau cyflog a chysylltiedig ar gyfer prentisiaid.
Sut i ymgeisio
Os ydych chi'n gwmni neu'n sefydliad ac yn dymuno cael mwy o wybodaeth, neu drafod cymhwysedd gweithwyr ar gyfer y rhaglen prentisiaeth gradd, cysylltwch â ni. Noder, i fod yn gymwys ar gyfer y rhaglen hon, rhaid i chi fod yn weithiwr i sefydliad partner.

Justin James
Executive Officer (National Software Academy)
- jamesj20@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2068 8695
Crwydrwch o gwmpas yr Academi Feddalwedd Genedlaethol gyda’n taith banoramig o gwmpas yr adeilad, gan ddefnyddio’r allweddi saeth i lywio.