Ewch i’r prif gynnwys

Parth A: Gwybodaeth a galluoedd deallusol

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Y wybodaeth a’r galluoedd deallusol sydd eu hangen i allu cyflawni ymchwil ardderchog.

Rheoli gwybodaeth

Nod y cwrs hwn yw eich cyflwyno i’r technegau a fydd yn helpu ymchwilwyr i ddatblygu strategaeth chwilio fwy systematig ar gyfer adolygiadau o lenyddiaeth ac adolygiadau systematig. Bydd y gweithdy hwn yn fwyaf defnyddiol i’r rhai sy’n ymchwilio i bynciau biofeddygol ac iechyd neu’r gwyddorau cymdeithasol.

Cynulleidfa

Dylai’r cwrs hwn fod o ddiddordeb arbennig i’r canlynol:

  • staff a gyflogir ar brosiectau ymchwil gofal iechyd
  • staff sy’n ymwneud â’r gwaith o wneud cais am grantiau
  • staff sy’n goruchwylio ymgeiswyr doethurol

Cynnwys

Mae cynnwys y cwrs fel a ganlyn:

  • llunio cwestiwn â ffocws
  • nodi cysyniadau pwysig o fewn y cwestiwn
  • nodi termau chwilio i ddisgrifio’r cysyniadau hynny
  • ‘sensitifrwydd’ a ‘phenodoldeb’
  • Defnyddio gweithredwyr Boolean, cwtogiadau a nodweddion allweddol eraill dulliau datblygu strategaeth i baratoi strategaeth chwilio
  • methodoleg chwilio am lenyddiaeth
  • dulliau o ddilysu sut mae’r strategaeth yn perfformio;

Caiff y dysgwyr eu hannog i nodi cysylltiadau uniongyrchol rhwng y technegau a’u pwnc ymchwil a bydd cyfle i drafod materion penodol a nodir.

Deilliannau dysgu

Ar ddiwedd y cwrs hwn, disgwylir y bydd dysgwyr yn gallu:

  • deall y gwahaniaeth rhwng cwestiynau cefndir a chwestiynau blaendir
  • troi’r angen am wybodaeth yn gwestiwn y gellir ei ateb
  • nodi cysyniadau pwysig o fewn cwestiwn ymchwil a chasglu termau chwilio i ddisgrifio’r cysyniadau hynny
  • nodi adnoddau gwybodaeth priodol y gellir chwilio drwyddynt
  • chwilio’n effeithiol gan ddefnyddio uwch dechnegau chwilio
  • dogfennu’r broses chwilio.

Gofynion mynediad

Byddai’n ddefnyddiol pe bai gan y cyfranogwyr rywfaint o brofiad o chwilio drwy gronfeydd data llyfryddol.

Dyddiadau'r cwrs

DyddiadAmserLleoliad
I’w gadarnhauI’w gadarnhauI’w gadarnhau

Mae’r gweithdy hwn ar gyfer y sawl sydd ag arbenigedd a gwybodaeth ymarferol eisoes o’r fersiwn bwrdd gwaith o EndNote, y fersiwn EndNote sydd ar gael ar rwydwaith y Brifysgol (felly, nid yw’r gweithdy hwn ar gyfer myfyrwyr nad ydynt wedi defnyddio EndNote o’r blaen na’r rhai heb fawr ddim profiad o EndNote). Bydd y gweithdy yn canolbwyntio’n bennaf ar y fersiwn bwrdd gwaith o EndNote yn hytrach na’r fersiwn ar y we, sef EndNote Online. Mae hefyd wedi’i deilwra ar gyfer y sawl sy’n defnyddio rhaglen EndNote Windows yn hytrach na’r rhaglen ar gyfer Mac. Bydd y gweithdy hefyd yn cynnig cyngor ar ddatrys problemau er mwyn ateb eich ymholiadau penodol. Er mwyn sicrhau bod yr hyfforddwr wedi paratoi’n briodol, cysylltir â chi cyn y sesiwn i ofyn a oes gennych unrhyw gwestiynau cyn y gweithdy.

Cynulleidfa

Mae’r gweithdy hwn ar gyfer y sawl sydd ag arbenigedd a phrofiad ymarferol eisoes o’r fersiwn bwrdd gwaith o EndNote ac yr hoffent ehangu eu gwybodaeth am y feddalwedd.

Cynnwys

Ar y cyfan, bydd y rhai sy’n mynychu’r gweithdy yn gweithio drwy ymarferion ar gyfer y fersiwn bwrdd gwaith o EndNote sy’n berthnasol i’w haddysgu ac ymchwil ac sydd o ddiddordeb iddynt. Bydd y gweithdy hefyd yn cynnig cyngor ar ddatrys problemau er mwyn ateb ymholiadau penodol gan y rhai sy’n mynychu ynghylch y fersiwn bwrdd gwaith o EndNote.

Deilliannau dysgu

Ar ddiwedd y cwrs hwn, disgwylir y bydd dysgwyr yn meddu ar fwy o wybodaeth am y fersiwn bwrdd gwaith o’r feddalwedd EndNote a’i swyddogaethau.

Dyddiad y cwrs

DyddiadAmserLleoliad
I’w gadarnhauI’w gadarnhauI’w gadarnhau

Sgiliau technegol ac ymchwil Cyfrifiadura Ymchwil Uwch

Mae Cyfrifiadura Ymchwil Uwch yn dechneg hynod bwerus, sydd eisoes yn galluogi ac yn trawsnewid ymchwil mewn mwy na hanner o'r ysgolion ar draws y Brifysgol. Mae'r technegau hyn yn defnyddio adnoddau TG ac offer blaengar i ymgymryd ag ymchwil, gan gynnwys efelychu a modelu cyfrifiadurol, trin a storio setiau data mawr, a llawer o ddulliau eraill i ddatrys problemau ymchwil a fyddai fel arall yn anodd iawn, os nad yn amhosibl.

Os oes gan eich gwaith ymchwil y potensial i ddefnyddio'r technegau hyn, neu hyd yn oed os ydych yn chwilfrydig i ddarganfod mwy, bydd cymryd rhan yn y sesiwn ar-lein awr o hyd yn cynnig cipolwg ar beth mae cyfrifiadura ar gyfer ymchwil yn ei olygu a sut y gallwch ei ddefnyddio.

Bydd hefyd yn esbonio sut gallai Cyfrifiadura Ymchwil Uwch yng Nghaerdydd (ARCCA) eich helpu i wneud eich ymchwil sy’n seiliedig ar brosesu cyfrifiadurol yn llawer mwy effeithiol.

Rhagofynion

Dim.

Dyddiadau'r cwrs

DyddiadAmserDull cyflwyno
I’w gadarnhauI’w gadarnhauManylion pellach i'w rhyddhau ar ôl cadw lle

Defnyddir rhyngwyneb llinell orchymyn Linux i gopïo ffeiliau, rhedeg rhaglenni, a chyflawni llawer o swyddogaethau rhyngweithio, ond mae hefyd yn darparu llawer o’r nodweddion sy’n gysylltiedig ag ieithoedd rhaglennu soffistigedig a chanddynt ddiben cyffredinol, fel rheoli llif, newidynnau ac is-reolweithiau. Bydd gwneud defnydd o'r swyddogaeth estynedig hon yn galluogi’r defnyddiwr i awtomeiddio tasgau ailadroddus, rhoi gweithrediadau mewn cadwyn gyda'i gilydd mewn sgriptiau cyflwyno tasgau, a rhyngweithio gydag amrywiaeth o offer llinell orchymyn.

Bydd y cwrs ar-lein hwn yn dangos sut i greu a rhedeg sgript, yn manylu ar y gystrawen a strwythur, ac yn dangos sut i ddefnyddio offer prosesu testun cyffredin fel ‘sed’ ac ‘awk’ i ehangu swyddogaethau prosesu testun, gyda’r nod cyffredinol o gynyddu cynhyrchiant mewn amgylchedd ymchwil drwy leihau’r amser a dreulir ar weithrediadau cynnal a chadw rheolaidd.

Rhagofynion

Wedi mynychu ARC: Cyflwyniad i Linux gyda Llinell Orchymyn (a Windows).

Dyddiadau'r cwrs

DyddiadAmserDull cyflwyno
16 Chwefror  2022 (Rhan 1)
17 Chwefror  2022 (Rhan 2)
11.00-13.00
11.00-13.00
Manylion pellach i'w rhyddhau ar ôl cadw lle

Hyd

Cwrs ar-lein 4 awr, wedi'i rannu ar draws 4 diwrnod, gyda sesiwn awr o hyd ym mhob un.

Mae Linux ac, yn benodol, y defnydd o'r llinell orchymyn, wastad wedi bod yn angen hyfforddiant pan fod defnyddwyr wedi dod o gefndir Windows er mwyn defnyddio Uwchgyfrifiadur Prifysgol Caerdydd (Hawk). Bydd y cwrs ymarferol hwn yn canolbwyntio ar y defnydd o dechnegau i wella dealltwriaeth ymchwilwyr o'r llinell orchymyn, yn defnyddio offer golygu cyffredin, ac yn ateb unrhyw ymholiadau a allai fod gan ddefnyddwyr o ran defnyddio rhyngwyneb Linux.

Bydd y cwrs hwn hefyd yn cynnwys sut i ryngweithio â’r Uwchgyfrifiadur o amgylchedd Windows. Bydd hyn yn cynnwys gwneud y gorau o PuTTy, sut i ddefnyddio WinSCP i gopïo ffeiliau i Hawk ac oddi yno a sut i ddefnyddio Xming i ddod â rhyngwynebau graffigol yn ôl o’r uwchgyfrifiadur. Er bod y cwrs hwn wedi’i deilwra i helpu defnyddwyr i gyflawni tasgau ar yr uwchgyfrifiadur yn gyflym ac yn hawdd, mae llawer o'r gorchmynion Linux hyn yn ddefnyddiol ar gyfer systemau cyffredinol Linux.

Rhagofynion

Dim.

Dyddiadau'r cwrs

DyddiadAmserDull cyflwyno
9 Chwefror 2022  (Rhan 1)
10 Chwefror 2022 (Rhan 2)
11.00-13.00
11.00-13.00
Manylion pellach i'w rhyddhau ar ôl cadw lle

Hyd

Cwrs ar-lein 4 awr, wedi'i rannu ar draws 4 diwrnod, gyda sesiwn awr o hyd ym mhob un.

Mae defnyddio technoleg cynwysyddion (fel Docker neu Singularity) yn un dechneg a ddefnyddir i atgynhyrchu allbynnau ymchwil ac i symleiddio amgylcheddau meddalwedd â dibyniaethau cymhleth ar draws llawer o systemau.  Nid yw Docker yn addas ar gyfer amgylchedd HPC gan fod angen caniatâd arbennig i gael mynediad at y system. Un ateb yw defnyddio technoleg arall o'r enw Singularity sy'n symleiddio'r cynhwysydd i'r system ffeiliau yn unig a'i gwneud yn gydnaws â'r system westeiwr (i gael mynediad at galedwedd arbenigol. megis Infiniband a GPUs).  Gall MPI hefyd weithio gyda chynwysyddion os yw'r MPI sydd y tu mewn i'r cynhwysydd yn gydnaws â'r llyfrgell MPI ar system y gwesteiwr.

Bydd y cwrs hwn yn ymdrin â sefydlu'r amgylchedd, lawrlwytho cynwysyddion presennol a’u rhedeg, adeiladu eich cynhwysydd eich hun a sut i wneud iddo weithio gyda thechnolegau HPC pwysig fel GPUs ac MPI.

Rhagofynion

Wedi mynychu ARC: Uwchgyfrifiadura i Ddechreuwyr neu’n defnyddio’r uwchgyfrifiadur Hawk yn weithredol cyn y gweithdy hwn.

Dyddiadau'r cwrs

DyddiadAmserDull cyflwyno
I’w gadarnhauI’w gadarnhauManylion pellach i'w rhyddhau ar ôl cadw lle

Hyd

Cwrs ar-lein 4 awr, wedi'i rannu ar draws 4 diwrnod, gyda sesiwn awr o hyd ym mhob un.

Mae Deallusrwydd Artiffisial, Dysgu Peiriannol a thechnegau Dysgu Dwfn yn dod yn fwy perthnasol i sawl maes ymchwil lle mae gwyddonwyr yn dibynnu ar fframweithiau dysgu dwfn fel TensorFlow, PyTorch ac eraill. Mae'r rhain fel arfer eisoes wedi'u cyflymu gan GPU, felly gall ymchwilwyr fod yn gynhyrchiol o fewn cyfnod cymharol fach o amser heb unrhyw raglennu GPU. Fodd bynnag, gall cael mewnwelediad sylfaenol i sut y defnyddir CUDA I elwa ar nodweddion caledwedd penodol a sut mae hyn yn effeithio ar berfformiad Dysgu Peiriannol gynorthwyo i optimeiddio llifoedd gwaith ymchwil.

Bydd y cwrs hwn yn cyflwyno'r prif gysyniadau craidd y tu ôl i fodel rhaglennu CUDA a Dysgu Peiriannol ac effaith caledwedd ar raglenni sy'n seiliedig ar Ddysgu Peiriannol

Rhagofynion

Mae angen profiad o iaith rhaglennu; mae gwybodaeth am Python, C, neu C++ a gwybodaeth ymarferol o Linux yn hanfodol

Dyddiadau'r cwrs

DyddiadAmserDull cyflwyno
30 Mawrth 2022 (Rhan 1)
31 Mawrth 2022 (Rhan 2)
11.00-13.00
11.00-13.00
Manylion pellach i'w rhyddhau ar ôl cadw lle

Hyd

Cwrs ar-lein 4 awr, wedi'i rannu ar draws 4 diwrnod, gyda sesiwn awr o hyd ym mhob un.

Ar ei symlaf, gellir ystyried uwchgyfrifiadur modern yn gasgliad o gyfrifiaduron unigol (a elwir yn ‘nodau’), y mae gan bob un ohonynt eu cof eu hunain, sydd wedi’u cysylltu â’i gilydd drwy rwydwaith soffistigedig cyflym iawn. Caiff rhaglenni confensiynol eu cyfyngu gan y ffaith y gallant ond gyrraedd maint nod unigol, lle y gall fod cannoedd os nad miloedd o nodau ar gael. Mae cymryd mantais llawn o bŵer uwchgyfrifiaduron modern yn gofyn am y gallu i ddosbarthu gwaith yn effeithlon ar draws nodau lluosog drwy brotocol cyfathrebu sy’n cael ei adnabod fel y Rhyngwyneb Trosglwyddo Negeseuon (MPI).

Mae’r cwrs hwn yn disgrifio hanfodion rhaglennu MPI, yn dangos sut i rannu darn unigol o waith yn flociau maint nod, ac yn galluogi’r defnyddiwr i greu a rhedeg rhaglenni MPI syml gan ddefnyddio cyfres gyffredin o swyddogaethau cyfathrebu.

Rhagofynion

Mae angen profiad o iaith rhaglennu; mae gwybodaeth am Fortran, Python neu C, a gwybodaeth ymarferol o Linux yn hanfodol.

Dyddiadau'r cwrs

DyddiadAmserDull cyflwyno
I’w gadarnhauI’w gadarnhauManylion pellach i'w rhyddhau ar ôl cadw lle

Hyd

Cwrs ar-lein 4 awr, wedi'i rannu ar draws 4 diwrnod, gyda sesiwn awr o hyd ym mhob un.

Mae'r cwrs hwn yn cyflwyno rhaglenwyr i hanfodion rhaglennu cyfochrog. Mae OpenMP yn ddull safonol o rannu gwaith ymhlith edeifion o fewn yr un cyfrifiadur; mae hyn wedi dod yn gyffredin yn ddiweddar oherwydd ei fod yn hawdd i’w wneud ac yn cael ei gefnogi gan y casglwyr mwyaf cyffredin. Mae OpenMP yn defnyddio cof wedi’i rannu o fewn y cyfrifiadur i gyfathrebu rhwng edeifion ac mae nifer o ddulliau ar gael i ddosbarthu’r gwaith. Caiff OpenMP ei ysgrifennu gan ddefnyddio cyfarwyddebau/pragmas casglwyr i ddweud wrth y casglwr sut i ddosbarthu darnau o'r cod ar draws edeifion lluosog.

Rhagofynion

Mae angen profiad o iaith rhaglennu; mae gwybodaeth am Fortran, Python neu C, a gwybodaeth ymarferol o Linux yn hanfodol.

Dyddiadau'r cwrs

DyddiadAmserDull cyflwyno
9 Mawrth 2022 (Rhan 1)
10 Mawrth 2022 (Rhan 2)
11.00-13.00
11.00-13.00
Manylion pellach i'w rhyddhau ar ôl cadw lle

Hyd

Cwrs ar-lein 4 awr, wedi'i rannu ar draws 4 diwrnod, gyda sesiwn awr o hyd ym mhob un.

Mae NextFlow yn dod yn ddull poblogaidd o ddylunio llifoedd gwaith pan mae angen llawer o gamau i gynhyrchu eich allbynnau ymchwil.  Mae NextFlow wedi'i ysgrifennu yn Python ac yn gydnaws ag atodlenni swyddi (SLURM) ac mae wedi'i ysgrifennu ar ffurf ffeil i fynegi dibyniaethau.  Mae rhannu a throsglwyddo'ch llifoedd gwaith NextFlow yn egwyddor ddylunio allweddol a dylai fod yn bosibl ysgrifennu unwaith a rhedeg yn unrhyw le.

Bydd y cwrs hwn yn ymdrin â gosod NextFlow, ei ffurfweddu i ddefnyddio SLURM, rhedeg rhai llifoedd gwaith syml, a sut i ysgrifennu eich cyfluniad eich hun ar gyfer eich llifoedd gwaith eich hun.

Rhagofynion

Wedi mynychu ARC: Uwchgyfrifiadura i Ddechreuwyr neu’n defnyddio’r uwchgyfrifiadur Hawk yn weithredol cyn y gweithdy hwn.

Dyddiadau'r cwrs

DyddiadAmserDull cyflwyno
I’w gadarnhauI’w gadarnhauManylion pellach i'w rhyddhau ar ôl cadw lle

Hyd

Cwrs ar-lein 4 awr, wedi'i rannu ar draws 4 diwrnod, gyda sesiwn awr o hyd ym mhob un.

Gellir defnyddio’r uwchgyfrifiadur Hawk mewn llawer o wahanol ffyrdd - nod y cwrs hwn yw adolygu rhai o’r technegau a ddylai helpu defnyddwyr i gael y gorau o’r clwstwr ar gyfer eu hymchwil eu hunain.

Byddwn yn cwmpasu nifer o nodweddion y system i helpu i wella perfformiad tasgau a gyflwynir i’r clwstwr, gan gynnwys:

  • defnyddio nodweddion datblygedig yn nhrefnydd tasgau Slurn (gan gynnwys trefnu tasgau)
  • dysgu sut i broffilio eich tasg a dadfygio eich tasg yn Slurm, yn ogystal â phennu’r gofynion adnoddau cywir er mwyn gorffen y dasg ynghynt ar yr uwchgyfrifiadur
  • datblygu sgriptiau tasgau mwy effeithlon er mwyn rhedeg eich meddalwedd
  • rhoi trosolwg o system ffeiliau Luster perfformiad uchel i gael perfformiad gwell mewn tasgau Slurm ac arferion gorau cysylltiedig wrth ddefnyddio'r system ffeiliau hon; defnyddio rhaniad GPU
  • ac, os gofynnir amdano, rheoli sgriptiau Slurm gyda throsolwg o feddalwedd rheoli adolygu fel Git a phwysigrwydd dogfennaeth a sylwadau wrth ddatblygu codau.

Rhagofynion

Wedi mynychu ARC: Uwchgyfrifiadura i Ddechreuwyr neu’n defnyddio’r uwchgyfrifiadur Hawk yn weithredol cyn y gweithdy hwn.

Dyddiadau'r cwrs

DyddiadAmserDull cyflwyno
28 Chwefror 2022 (Rhan 1)
1 Mawrth 2022 (Rhan 2)
11.00-13.00
11.00-13.00
Manylion pellach i'w rhyddhau ar ôl cadw lle

Hyd

Cwrs ar-lein 4 awr, wedi'i rannu ar draws 4 diwrnod, gyda sesiwn awr o hyd ym mhob un.

Hawk yw uwchgyfrifiadur Prifysgol Caerdydd - caiff ei letya, ei gynnal a’i ddatblygu gan ARCCA/Supercomputing Wales. Mae'r cwrs ar-lein hwn yn rhoi trosolwg o’r clwstwr ac yn esbonio sut i ddefnyddio'r system. Mae’n gymysgedd o ddeunydd cyflwyniad ac enghreifftiau gweithio, sy’n rhoi cyfle i ddefnyddwyr ofyn cwestiynau a chyflawni tasgau mewn amgylchedd cyfeillgar a gaiff ei reoli. Erbyn diwedd y cwrs, dylech fod yn gallu cael mynediad i Hawk o gyfrifiadur Windows. Bydd gennych ddealltwriaeth well o’r amgylchedd meddalwedd hefyd (y casglwyr, y proffilwyr a’r offer dadfygio sydd ar gael ar y clwstwr) ac yn deall sut i ddefnyddio’r amgylchedd modiwlau (i lwytho meddalwedd) a gallu cyflwyno tasgau i’r system (drwy drefnydd tasgau Slurm). Bydd y cwrs hwn hefyd yn darparu trosolwg o rai o’r cyrsiau a’r gwasanaethau eraill a ddarperir a fydd yn galluogi defnyddwyr i wella'r defnydd o gyfleusterau uwchgyfrifiadura ar gyfer ymchwil (y ddau yn gyfleusterau ARCCA, ond maent hefyd yn berthnasol i glystyrau Linux yn gyffredinol).

Mae’r cwrs hwn ar gael i bob un o staff a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd sydd â diddordeb mewn defnyddio system uwchgyfrifiadur y Brifysgol.

Rhagofynion

Wedi mynychu ARC: Cyflwyniad i Linux gyda Llinell Orchymyn (a Windows) neu brofiad cyfatebol.

Dyddiadau'r cwrs

DyddiadAmserDull cyflwyno
23 Chwefror 2022 (Rhan 1)
24 Chwefror 2022 (Rhan 2)
11.00-13.00
11.00-13.00
Manylion pellach i'w rhyddhau ar ôl cadw lle

Hyd

Cwrs ar-lein 4 awr, wedi'i rannu ar draws 4 diwrnod, gyda sesiwn awr o hyd ym mhob un.

Sgiliau technegol ac ymchwil Sgiliau TG

Rhaglennu Java ar gyfer dechreuwyr, nid oes angen unrhyw brofiad ym maes rhaglennu. Yn addas i rywun sydd am ddechrau rhaglennu neu sydd wedi bod yn rhaglennu mewn iaith arall. Cwrs ymarferol y caiff llawer ohono ei dreulio yn ceisio datrys posau rhaglennu gyda’r nod o wella hyder pobl cyn iddynt ymgymryd â gweithgarwch hunanddysgu yn y dyfodol (deunydd rhaglennu).

Cynulleidfa

Dylai’r cwrs hwn fod o ddiddordeb arbennig i’r canlynol:

  • y rhai sydd eisiau dysgu am raglennu ond nad ydynt yn siŵr sut i ddechrau
  • y rhai sydd â rhywfaint o brofiad mewn iaith arall a hoffent newid i Java.

Cynnwys

Java primer sy’n cwmpasu’r hanfodion o fathau o ddata i ddolennu a chyflwyniad byr i raglennu sy’n canolbwyntio ar wrthrychau

Deilliannau dysgu

Ar ddiwedd y cwrs hwn, disgwylir y bydd dysgwyr yn gallu:

  • Gosod platfform Java ar eu peiriant eu hunain.
  • Ysgrifennu, crynhoi a rhedeg rhaglen Java syml.
  • Dadfygio rhaglen Java.
  • Bod yn ddigon hyderus i hunanddysgu pynciau eraill yn Java.

Dyddiadau'r cwrs

DyddiadAmserLleoliad
I’w gadarnhauI’w gadarnhauI’w gadarnhau

Bydd y sesiwn hon yn eich cyflwyno i system weithredu UNIX/LINUX. Ymhlith y pynciau a gwmpesir mae:

  • hierarchaeth ffeiliau
  • gorchmynion UNIX
  • diogelu ffeiliau a chyfeirlyfrau
  • ailgyfeirio mewnbwn ac allbwn
  • addasu newidynnau’r amgylchedd
  • gosod nodweddion y derfynell
  • cragen bash
  • camau dehongli cragen
  • defnyddio grep a sed ac ysgrifennu sgriptiau sylfaenol.

Dylai myfyrwyr heb unrhyw wybodaeth flaenorol o UNIX/LINUX gwblhau’r cwrs hwn cyn mynychu’r cwrs ‘Cyflwyniad i Java’.

Dyddiadau'r cwrs

DyddiadAmserLleoliad
I’w gadarnhauI’w gadarnhauI’w gadarnhau

Sgiliau technegol ac ymchwil Pecynnau

Mae’r gweithdy ymarferol undydd hwn wedi’i gynllunio ar gyfer dechreuwyr yn ogystal â’r rhai sydd wedi addysgu eu hunain ac sydd am ddechrau eto. Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio NVivo i reoli eich data ymchwil, creu prosiect newydd sbon, cyflwyno data, cod a datblygu eich fframwaith codio thematig, cwestiynu eich data a defnyddio mapiau, siartiau a diagramau i’w harchwilio.

Cynulleidfa

Dylai’r cwrs hwn fod o ddiddordeb arbennig i’r canlynol:

  • y rhai sydd ar fin mynd ati i gasglu data cyfweliad/ansoddol.
  • y rhai sydd wedi casglu data ansoddol eisoes ac sy’n barod i ddefnyddio NVivo i drefnu, codio, archwilio, dadansoddi ac adrodd.
  • ymchwilwyr PhD; ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa, ar ganol eu gyrfa ac ymchwilwyr profiadol.

Cynnwys

  • Bydd y cwrs yn dechrau gyda chyflwyniad cyflym i NVivo gan ddefnyddio prosiect sampl sy’n dod gyda’r feddalwedd.
  • Byddwch yn datblygu prosiect dysgu newydd sbon, gan ddefnyddio trawsgrifiadau sampl a ddarperir.
  • Byddwch yn adeiladu ‘sgaffaldiau’ eich prosiect eich hun – yn creu ffolderi storio data, yn mewnforio trawsgrifiadau/ffeiliau, yn archwilio, yn codio, yn anodi, yn ysgrifennu nodiadau ‘memo’ ac yn dadansoddi.

Deilliannau dysgu

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, bydd y cyfranogwyr yn gallu gwneud y canlynol:

  • Creu prosiect NVivo i reoli llif yr holl ddata ymchwil sydd ganddynt – gan gynnwys cyfweliadau, nodiadau cyfarfodydd goruchwylio, myfyrdodau’r ymchwilydd ei hun, nodiadau maes, nodiadau ‘memo’, anodiadau ac ati.
  • Trefnu’r fframwaith codio thematig ac ymgymryd â rhywfaint o waith codio.
  • Archwilio’r swyddogaethau ymholi ar gyfer dadansoddi.
  • Llunio mapiau, siartiau a diagramau.

Rhagor o gymorth

Ar ôl iddynt fynychu’r gweithdy hwn, caiff y cyfranogwyr gyfle i fanteisio ar sesiwn clinig galw heibio yn seiliedig ar weminar gyda’r hwylusydd. Caiff manylion y clinig hwn eu dosbarthu i’r rhai a fydd yn cwblhau’r diwrnod llawn o hyfforddiant.

Dyddiad y cwrs

DyddiadAmserLleoliad
09 Mai 20229.30-12.30I’w gadarnhau

Diben y gweithdy hwn yw helpu’r rhai sy’n defnyddio iaith raglennu “R” am y tro cyntaf, yn enwedig y rhai sy’n bwriadu defnyddio’r iaith ar gyfer gwaith dadansoddi ystadegol cymhwysol fel rhan o brosiectau ymchwil sylweddol.

Prif fuddiolwyr y gweithdy hwn fydd y rhai sydd wedi cael hyfforddiant elfennol yn unig yn yr iaith, os o gwbl, ond sy’n barod i ymdrechu i ddysgu sgil newydd. Bydd y gweithdy hwn yn rhoi sylfaen i ddefnyddwyr ddatblygu eu gwybodaeth am yr iaith raglennu hon a dod yn rhugl mewn R er mwyn gallu ei defnyddio ar brosiectau ymchwil yn y dyfodol.

Cynulleidfa

Dylai’r cwrs hwn fod o ddiddordeb arbennig i’r canlynol:

  • Staff ymchwil sy’n ei chael hi’n anodd gweithio gyda rhaglenni ystadegol eraill
  • Ymchwilwyr ôl-raddedig sy’n gweithio ar eu traethodau hir
  • Myfyrwyr a staff sy’n awyddus i ddysgu sgil newydd
  • Staff gwasanaethau proffesiynol sy’n ymwneud â’r gwaith o reoli a dadansoddi cronfeydd data

Cynnwys

Ar ddiwedd y gweithdy hwn, bydd cyfranogwyr yn gallu darllen R a’i defnyddio i greu, trin, dadansoddi, delweddu ac arbed data. Byddant yn cael trosolwg o becynnau R, y broses sgriptio, sut y caiff gwrthrychau eu storio a’u darllen gan R, pa enwau a berfau y gellir eu defnyddio yn R, a phecynnau datblygedig fel dplyr neu tidyverse.

Deilliannau dysgu

Ar ddiwedd y cwrs hwn, disgwylir y bydd dysgwyr yn gallu:

  • Darllen cronfeydd data neu greu eu cronfeydd data eu hunain
  • Trin y set ddata honno drwy greu newidynnau newydd a chyfuno setiau data
  • Defnyddio amrywiaeth o dechnegau ystadegol i ddadansoddi eu data
  • Defnyddio tablau a graffeg i ddangos eu dadansoddiad
  • Allbynnu eu gwaith dadansoddi a delweddu fel y gellir ei ddefnyddio mewn papurau ymchwil academaidd, papurau gwyn, neu femos swyddfa.
  • Parhau i ddysgu R yn annibynnol

Dyddiad y cwrs

Cyflwynir y cwrs hwn dros dair sesiwn hanner diwrnod.

DyddiadAmserLleoliad
I’w gadarnhau
I’w gadarnhauI’w gadarnhau

Sgiliau technegol ac ymchwil Technegau

Y nod yw ystyried y mythau a’r camsyniadau sy’n gysylltiedig ag adolygiadau systematig ac addysgu cyfranogwyr i’r broses o gynllunio a chynnal adolygiad systematig a chyfathrebu canlyniadau’r adolygiad hwnnw.

Cynulleidfa

Dylai’r cwrs hwn fod o ddiddordeb arbennig i ymchwilwyr:

  • sy’n gweithio ar ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol
  • sy’n ymwneud â’r gwaith o wneud cais am grantiau
  • sy’n goruchwylio ymgeiswyr doethurol.

Cynnwys

Mae cynnwys y cwrs fel a ganlyn:

  • cefndir i adolygiadau systematig ac adolygiadau tystiolaeth eraill
  • ystyried mythau a chamsyniadau sy’n ymwneud ag adolygiadau systematig
  • manteision ac anfanteision cynnal adolygiadau systematig
  • y camau sy’n gysylltiedig â chynnal adolygiad systematig.

Deilliannau dysgu

Ar ddiwedd y cwrs hwn, disgwylir y bydd dysgwyr yn gallu:

  • deall rôl adolygiad systematig a’i arwyddocâd
  • deall y camau sy’n gysylltiedig â chynnal adolygiad systematig.
  • deall pwysigrwydd protocol adolygiad systematig wrth ddeall sut i lunio cwestiwn ymchwil a datblygu strategaeth chwilio, meini prawf cynnwys a hepgor, arfarniad beirniadol, echdynnu data a’u lledaenu.

Dyddiadau'r cwrs

DyddiadAmserLleoliad
6 Mai 2022 9.30-12.30Zoom