Ewch i’r prif gynnwys

Beth ddeffrodd fy chwilfrydedd? Yr Athro Paul Milbourne

Yr Athro Paul Milbourne
Yr Athro Paul Milbourne

Bu'r awdur, y darlledwr a'r daearyddwr, Nicholas Crane yn siarad â'r Athro Paul Milbourne am yr hyn a ysgogodd ei gariad at ddaearyddiaeth ddynol...

Nicholas Crane: Ble cawsoch chi eich magu?

Paul Milbourne: Cefais fy magu yn Whitefield, tref ddiwydiannol fechan tua phum milltir i'r gogledd o Fanceinion. Dyma le llawn gwrthgyferbyniadau cymdeithasol, sy'n cynnwys tair ystâd tai cyngor fawr ac un o faestrefi mwyaf cefnog gogledd orllewin Lloegr. Roedd hefyd yn lle o newidiadau sylweddol; roedd ystadau tai cyngor yn llyncu erwau o dir glas gan ddod â miloedd o bobl gyda nhw, ac adeiladwyd traffyrdd chwe lôn drwy dir fferm brin 400 llath o'n tˆy ni.

Hyd yn oed gyda'r fath newid, roedd natur yn parhau yn rhan bwysig o fywyd, gyda bryniau garw'n cynnig cefnlen bwysig, llwybrau troed oedd yn dal i'n harwain drwy dir fferm agored, a pharc trefol mwyaf Ewrop ddim ond pymtheg munud o gerdded i ffwrdd.

Sut datblygodd eich diddordeb mewn daearyddiaeth?

O'r profiadau cynnar hyn o le a thirwedd mae'n debyg, a hefyd roedd gen i athro daearyddiaeth gwych yn yr ysgol, oedd yn gallu dod â'r pwnc yn fyw. Drwy symud i ffwrdd I astudio daearyddiaeth ddynol ym Mhrifysgol Aberystwyth, datblygodd fy nychymyg daearyddol mewn ffyrdd eraill. Ehangodd a dyfnhaodd cynnwys academaidd y cwrs fy nealltwriaeth o'r pwnc, gan fy ngalluogi i wneud cysylltiadau rhwng themâu academaidd a phrofiad personol: roedd daearyddiaeth drefol a chymdeithasol yn pwysleisio natur gydgysylltiedig anghydraddoldeb ac anghyfiawnder cymdeithasol a gofodol yn yr amgylchedd trefol, ac agorodd modiwl ar dirwedd a natur fy llygaid i'r modd mae mannau 'naturiol' yn cael eu llunio'n gymdeithasol ac yn wleidyddol i adlewyrchu buddiannau grwpiau (pwerus) penodol.

Hefyd, drwy symud i ffwrdd o Fanceinion des i i sylweddoli sut mae rhanbarthau a lleoedd yn bwysig i'n synnwyr o hunaniaeth. Drwy fyw mewn tref fach Gymraeg yng Nghymru wledig ehangodd fy nealltwriaeth o'r modd mae tirwedd, diwylliant ac iaith yn ffurfio ymdeimlad pobl o le a hunaniaeth.

Nick Crane, cyflwynydd rhaglen BBC 2: Coast
Nick Crane, cyflwynydd rhaglen BBC 2: Coast

Felly pam ydych chi'n credu bod daearyddiaeth ddynol yn bwysig?

Mae'n ffurfio ein bywydau mewn amrywiaeth o ffyrdd – drwy ryngweithio bob dydd gyda lle a'r amgylchedd, symudiadau drwy ofod ffisegol a rhithiol, a dylanwad y prosesau economaidd, diwylliannol-gymdeithasol ac amgylcheddol byd-eang ar ein bywydau. Mae daearyddiaeth yn ymwneud â sut rydym ni'n gwneud synnwyr o'n lle mewn byd sy'n newid.

Mae'n edrych ar y ffyrdd mae'r amgylcheddau ffisegol a dynol yn dibynnu ar ei gilydd – sut rydym yn parhau i lywio ein bydoedd naturiol, a sut mae natur yn effeithio ar ein bywydau bob dydd. Mae gan ddaearyddiaeth hefyd ran bwysig i'w chwarae o ran mynd i'r afael â'r hyn y gallwn ni eu galw yn 'heriau mawr' ein hoes, gan gynnig dealltwriaeth gymdeithasol-naturiol o newid yn yr hinsawdd a diogelwch adnoddau naturiol, megis dˆwr, bwyd ac ynni yn y dyfodol.

Mewn ffyrdd eraill, mae daearyddiaeth yn ymwneud â gwahaniaethau a phrosesau gofodol: dosbarthiad anghyfartal pobl, swyddi, cyfoeth, tlodi, gwasanaethau ac adnoddau naturiol ar draws gofod. Mae'n ceisio deall beth sydd i'w gyfrif am y gwahaniaethau a'r prosesau hyn ar lefelau gofodol sy'n amrywio o lefel fyd-eang I lefel leol.

Wrth edrych y tu hwnt i'r academi, ydych chi'n meddwl bod daearyddiaeth ddynol yn berthnasol yn ehangach?

Mae daearyddiaeth yn arbennig o berthnasol i rai o'r materion gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol mawr sy'n ein hwynebu heddiw. Mae'r nifer fawr o bobl sy'n mudo o wledydd parth rhyfel i Ewrop yn codi cwestiynau pwysig am ffiniau cenedlaethol ac integreiddio diwylliannol o fewn dinasoedd Ewrop. Mae datganoli gwleidyddol o fewn y DU wedi cyflwyno gwahaniaethau polisi pwysig rhwng pedair gwlad yr Undeb, yn enwedig o ran lles, iechyd ac addysg. Mae dadleuon gwleidyddol ynghylch dyfodol ynni, adnoddau naturiol a'r amgylchedd yn cysylltu â diddordeb daearyddiaeth yn natur gydgysylltiedig y byd naturiol a chymdeithasol.

Mae daearyddiaeth yn arbennig o berthnasol i rai o'r materion gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol mawr sy'n ein hwynebu heddiw.

Yr Athro Paul Milbourne Yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio

Allwch chi sôn ychydig am y newid o ran galwadau myfyrwyr am ddaearyddiaeth ddynol?

Mae daearyddiaeth yn dod yn bwnc academaidd mwy poblogaidd. Ym mis Awst y llynedd, cyfeiriodd erthygl olygyddol The Guardian at ddaearyddiaeth fel 'y lefel A sydd rhaid i ti ei gael'. Gyda 13 y cant yn fwy o fyfyrwyr yn astudio'r pwnc hyd at lefel A yn 2015 o'i gymharu â'r flflwyddyn flflaenorol – y cynnydd mwyaf o unrhyw un o'r prif bynciau – roedd yr erthygl yn honni bod daearyddiaeth wedi llwyddo i golli'r ddelwedd draddodiadol fel 'pwnc Sinderela' a daearyddiaeth bellach yw pwnc poblogaidd yr oes. Roedd yr erthygl yn cyfeirio at berthnasedd daearyddiaeth wrth ddeall yr heriau allweddol sy'n wynebu'r byd heddiw, gan helpu myfyrwyr i wneud synnwyr o'r cydgysylltiadau rhwng y bydoedd ffifisegol a chymdeithasol.

A beth am ddaearyddiaeth ddynol ym Mhrifysgol Caerdydd?

Mae'r cynnydd yn nifer ein myfyrwyr daearyddiaeth wedi bod yn arbennig o drawiadol. Ers lansio ein cwrs gradd israddedig newydd mewn Daearyddiaeth Ddynol yn 2013, mae nifer y myfyrwyr sy'n astudio daearyddiaeth wedi cynyddu o 90 i 255. Un rheswm allweddol am y twf hwn yw ansawdd uchel ein gwaith ymchwil. Mae'r ysgol ar hyn o bryd ar saflfle 44 yng Nghynghrair Prifysgolion QS y Byd.

Rwyf i'n falch fod mesur QS o gyfeiriadau fesul papur yn ein gosod ni'n drydydd o blith y 50 prifysgol uchaf ym maes daearyddiaeth, o flflaen Rhydychen a Chaergrawnt. Mae'r Ysgol yn cyflflogi'r nifer mwyaf o staff daearyddiaeth ddynol o unrhyw brifysgol yn y DU gydag effaith ymchwil sy'n ymestyn i bedwar cyfandir ac sy'n cwmpasu'r ystod lawn o ddaearyddiaeth ddynol.

Rheswm arall am boblogrwydd daearyddiaeth yng Nghaerdydd yw'r ffordd rydyn ni'n addysgu'r pwnc, gan annog meddwl beirniadol a datblygu sgiliau dadansoddi, a'u defnyddio mewn sefyllfaoedd yn y byd real.

Darllenwch y cyfweliad llawn

Fersiwn fyrrach yw hon o'r cyfweliad llawn a oedd yn rhifyn haf 2016 o Herio Caerdydd, ein cylchgrawn ymchwil.

Welsh - Challenge Cardiff Summer 2016

Y pedwerydd rhifyn o'n cylchgrawn ymchwil, sy'n darparu mewnwelediad i effaith ein hymchwil.

Yr ymchwilydd

Yr Athro Paul Milbourne

Yr Athro Paul Milbourne

Head of the School of Planning and Geography

Email
milbournep@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5791

Ysgol Academaidd

City skyline and park

Ysgol Cynllunio a Daearyddiaeth

Rydym yn Ysgol Daearyddiaeth ddynol gymhwysol ac Astudiaethau Trefol aml-ddisgyblaeth.