Ewch i’r prif gynnwys

Rhoi gwerth cyhoeddus wrth wraidd ymchwil

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Photograph of Martin Kitchener and Laura Tenison
Professor Martin Kitchener and Laura Tenison

Yn 2015, ymrwymodd Ysgol Busnes Caerdydd i fod yr ysgol busnes gyntaf yn y byd i
ganolbwyntio ar werth cyhoeddus. Bydd y model gwerth cyhoeddus newydd yn golygu bod yr Ysgol yn rhannu ei harbenigedd ac yn meithrin cysylltiadau cryfach â disgyblaethau eraill, megis meddygaeth a pheirianneg. Y nod yw datblygu atebion arloesol i'r materion mwyaf dybryd sy'n wynebu diwydiant a chymdeithas.

Siaradodd yr arloeswr moesegol a sylfaenydd JoJo Maman Bébé, Laura Tenison, â Deon Ysgol Busnes Caerdydd, yr Athro Martin Kitchener ynghylch beth mae dull gwerth cyhoeddus o fynd ati i wneud gwaith ymchwil ac addysgu yn ei olygu yn ymarferol, a sut y bydd yn effeithio ar gymdeithas a busnesau.

Laura Tenison: Yn 2015, ymrwymodd Ysgol Busnes Caerdydd yn gyhoeddus i fod yr ysgol busnes gyntaf yn y byd i ganolbwyntio ar werth cyhoeddus. Beth yw ystyr hyn?

Martin Kitchener: Yn wahanol i’r rhan fwyaf o’r 25,000 o ysgolion busnes eraill yn y byd, mae gennym strategaeth glir, fentrus a blaengar sy’n seiliedig ar werth cyhoeddus.

Mae’r strategaeth yn llywio’n holl weithgareddau. Rwy’n ymwybodol iawn bod ysgolion busnes wedi’u beirniadu am o leiaf ddau beth. Yn gyntaf, mae rhai wedi dadlau bod perthnasedd ein gwaith yn gyfyngedig oherwydd bod
academyddion yn tueddu i wneud gwaith ymchwil mewn meysydd disgyblaethol cul; meysydd nad ydynt yn adlewyrchu cymhlethdod materion yn y byd go iawn.

Mae rhai yn credu bod hyn yn esbonio pam y gwnaeth cyn lleied o’r economegwyr ddarogan yr argyfwng ariannol diweddar. Yn ail, oherwydd bod ysgolion busnes blaenllaw wedi hyfforddi llawer o’r rhai a oedd ynghlwm â’r sgandalau a ddenodd lawer o sylw, mae rhai yn cwestiynu moeseg addysg sy’n ymwneud â busnes a rheolaeth.

Mewn ymateb i’r heriau hyn, mae ein strategaeth gwerth cyhoeddus yn arwain yr Ysgol at wella’r economi a’r gymdeithas drwy ysgolheictod rhyngddisgyblaethol, a hyrwyddo hyn. Mae’r ysgolheictod yn mynd i’r afael â phroblemau mawr ein hoes, ac yn gweithredu dull blaengar o fynd ati i wneud ein gwaith llywodraethu. Pan fyddwn yn defnyddio’r term “ysgolheictod a arweinir gan her,” rydym yn cyfeirio’n benodol at waith ymchwil ac addysgu sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â phrif broblemau economaidd a chymdeithasol ein hoes, megis arloesedd ac anghydraddoldeb.

Beth mae gwneud gwaith ymchwil mewn ysgol busnes sy’n cael ei arwain gan werth cymdeithasol yn ei olygu?

Mae llawer o ymchwilwyr yr Ysgol yn mynd i’r afael a materion cymdeithasol sy’n anodd eu trin, megis tlodi, cael gafael ar swyddi parchus ac anghydraddoldeb. Mae’r Ysgol yn cefnogi diddordebau ymchwil sy’n mynd i’r afael a heriau cymdeithasol ac economaidd, gan dargedu arian o gronfeydd yr Ysgol at y gweithgareddau hyn.

Yr Athro Martin Kitchener Athro Rheolaeth a Pholisi’r Sector Cyhoeddus

Mae llawer o ymchwilwyr yr Ysgol yn mynd i’r afael â materion cymdeithasol sy’n anodd eu trin, megis tlodi, cael gafael ar swyddi parchus ac anghydraddoldeb. Mae’r Ysgol yn cefnogi diddordebau ymchwil sy’n mynd i’r afael â heriau cymdeithasol ac economaidd, gan dargedu arian o gronfeydd yr Ysgol at y gweithgareddau hyn.

Mae’r Athro Tim Edwards yn gweithio gydag elusen yn Eritrea drwy’r Rhwydwaith Arloesedd Cyfrifol. Maent yn adeiladu rhaglen ymchwil gyda choleg lleol sy’n edrych ar systemau amaethyddol sy’n gallu gwrthsefyll yr hinsawdd a sut maent yn effeithio ar gymdeithas. Bydd yr ymdrechion hyn yn cefnogi microfusnesau sy’n cael eu rhedeg gan fenywod ym maes amaethyddiaeth.

Mae’r Athro Victoria Wass, yr Athro Melanie Jones a Dr Deborah Foster yn canolbwyntio ar anabledd yn y gwaith ac yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau a wynebir gan bobl anabl.

Mae datblygu’r Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol cyntaf yn y byd (SPARK) yn brosiect arloesedd mawr yn y Brifysgol fydd yn ein galluogi i ddatblygu ein huchelgeisiau ymchwil gwerth cyhoeddus. Bydd hyn yn ein galluogi i ymgysylltu â’r cyhoedd, ymarferwyr a llunwyr polisïau o wahanol ddisgyblaethau, sectorau, rhanbarthau a’r cenhedloedd yn ein gwaith ymchwil.

A fydd y math hwn o ymchwil ac addysgu yn annog mwy o fusnesau i fynd ati i ddefnyddio dull gwerth cyhoeddus?

Ein huchelgais yw annog ein myfyrwyr a’n graddedigion i beidio â derbyn y ’status quo,’ i feddwl yn wahanol ac i deimlo fel bod ganddynt yr awdurdod i wneud gwahaniaeth mewn busnes er lles cymdeithas. Rydym yn annog ein myfyrwyr i gydymdeimlo, ac ystyried effaith eu cyfraniadau a’u hymyriadau ar gymdeithas yn ogystal â’u budd economaidd yn y byd corfforaethol. Mae hyn yn dechrau yn ystod eu hwythnos sefydlu yn y Brifysgol, wrth iddynt gwblhau arolwg sy’n asesu eu safbwyntiau tuag at wella cymdeithas.

Erbyn iddynt gyrraedd blwyddyn olaf eu hastudiaethau a gwneud yr arolwg unwaith eto, gobeithio y gallwn ddangos bod gan Ysgol Busnes Caerdydd effaith gadarnhaol wrth feithrin eu hymrwymiad i wella cymdeithas a’r economi drwy eu gwaith; boed hynny’n rheolwr buddsoddiadau neu’n arweinydd ar fenter gymdeithasol yn Affrica.

Mae hyn yn newid sylweddol i fusnes ac addysg rheoli, ac rydym yn falch o’r gefnogaeth yr ydym wedi ei chael gan sefydliadau eraill, fel Cymdeithas Siartredig yr Ysgolion Busnes. Rydym yn cydnabod ei fod yn mynd i gymryd amser i osod egwyddorion y strategaeth gwerth cyhoeddus ym mhopeth yr ydym yn ei wneud.

Rydym yn ymroi’n llwyr i wella a newid cymdeithas er gwell, ac yn gobeithio ysbrydoli eraill i ddefnyddio dull gwerth cyhoeddus a chymdeithasol o fynd at eu gwaith. Pe byddai eraill yn mabwysiadu egwyddorion tebyg, gall yr effaith ar y cyd y gellir ei chynhyrchu fod yn sylweddol. Rydym yn croesawu’r cyfle i weithio gyda’n partneriaid byd-eang i’r perwyl hwnnw.

Darllenwch y cyfweliad llawn

Fersiwn fyrrach yw hon o'r cyfweliad llawn a oedd yn rhifyn haf 2017 o Herio Caerdydd, ein cylchgrawn ymchwil.

Welsh - Challenge Cardiff Summer 2017

Chweched rhifyn ein cylchgrawn ymchwil, sy’n rhoi gwybodaeth am effaith ein gwaith ymchwil.

Yr ymchwilydd

Yr Athro Martin Kitchener

Yr Athro Martin Kitchener

Athro Rheolaeth a Pholisi’r Sector Cyhoeddus

Email
kitchenermj@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 208 76951

Ysgol Academaidd

Ysgol Busnes Caerdydd