Ewch i’r prif gynnwys

Nid y dementia yn unig

https://www.youtube.com/watch?v=LWmSRRiN54k

Mae o leiaf un o bob pedwar o welyau ysbyty aciwt bellach yn cael ei neilltuo i rywun sydd â diagnosis o ddementia* ac mae miloedd yn rhago  yn dod i'r ysbyty gyda dementia sydd heb gael diagnosis neu â ryw fath o nam gwybyddol.

Yn aml caiff y bobl hyn eu derbyn i wardiau llawfeddygol cyffredinol gyda chyflyrau nad ydyn nhw'n gysylltiedig â'u dementia, a lle nad yw'r staff wedi eu hyfforddi i ddelio â chleifion o'r fath.

Mae Dr Katie Featherstone, cymdeithasegydd meddygol yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd wedi sicrhau dyfarniad o £447,000 gan Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Iechyd y GIG i gynnal ymchwil i ofal dementia mewn ysbytai. Mae hi'n canolbwyntio'n benodol ar agweddau ymddygiadol pobl sydd â dementia pan fyddan nhw yn yr ysbyty.

Mae Jackie Askey yn ymgyrchydd lleol sy'n gweithio gydag ysbytai lleol i wella gofal clei􀃀on sydd â dementia ac mae’n aelod o'r grˆwp llywio gofalwyr ar gyfer y prosiect. Bu farw ei gˆwr George ym mis Ionawr 2015 a bu'n holi Dr Featherstone am ei gwaith a beth y bydd yn ei olygu i bobl â dementia a'u gofalwyr.

Roedd gˆwr Jackie yn dioddef o ddementia a bu'n gofalu amdano am wyth mlynedd

Dr Katie Featherstone being interview by Jackie Askey
Dr Katie Featherstone being interview by Jackie Askey

JA: Mae'n bwnc sy'n agos at fy nghalon ac mae gen i ddiddordeb mawr yn eich ymchwil chi. Aeth fy ngˆwr i'r ysbyty gyda feirws a chafodd ddiagnosis anghywir o dementia cyfnod terfynol. Doedd e ddim yn bwyta, a dywedon nhw mai'r dementia oedd i gyfrif am hynny. Roeddwn i'n anghytuno, a dywedais fod rhywbeth o'i le ar ei flasbwyntiau. Mewn gwirionedd roedd y llindag arno, a sylwodd neb ar y peth am wythnos a hanner, tan i fi son amdano.

Drwy edrych ar y dementia yn unig a pheidio â gwrando arnaf i, fe fu farw. Felly mae eich ymchwil yn gwbl hanfodol, pam benderfynoch chi ei wneud?

KF: Pan fydd rhywun sydd â dementia mewn ysbyty yn aml bydd rhywbeth arall o'i le arnyn nhw hefyd, falle eu bod wedi torri eu clun, falle bydd ganddyn nhw niwmonia neu haint ar y frest.

Gall bod mewn amgylchedd gwahanol ac anarferol waethygu agweddau ymddygiadol dementia ac maen bosib y gwnân nhw waethygu'n gyflym yn y lleoliad hwnnw. Mae llawer o bobl â dementia yn marw yn yr ysbyty neu'n gorfod aros yno am gyfnod estynedig.

Rwyf i'n gymdeithasegydd meddygol. Mae gen i ddiddordeb yn y modd mae meddygaeth yn gweithio, dosbarthiad meddygaeth, diagnosis, a phrofiadau teuluol hefyd. Roedd fy ngwaith blaenorol yn edrych ar eneteg a chyflyrau genetig. Roeddwn ni'n chwilio am her newydd ac wedi darllen am y cyfraddau cynyddol o ddementia a'i fod yn ymddangos ar yr agenda polisi a cyhoeddus.

Gall dementia fwrw cysgod dros y person a phopeth arall ac mae hynny'n datblygu'n rhwystr i ofal.

JA: Pa ymchwil sydd wedi'i wneud ar ddementia yn yr ysbyty?

KF: Mae llawer o ymchwil ar ofalu am bobl â dementia mewn lleoliadau cymunedol, diagnosis, y sail enetig (sy'n faes pwysig i Brifysgol Caerdydd) a hefyd mewn lleoliadau gofal tymor hir. Beth synnodd fi yw mai ychydig iawn o ymchwil sydd wedi'i wneud i brofiad pobl sydd â dementia yn yr ysbyty. Allwn ni ddim tybio bod modd trosglwyddo ymchwil mewn meysydd eraill fel lleoliadau gofal tymor hir i ysbytai.

JA: Byddwn yn cytuno â chi. Beth wnaethoch chi nesaf?

KF: Es i i sawl cyfarfod i benderfynu pa ymchwil y gallen ei wneud a'r hyn a'm trawodd oedd bod pawb yn gofyn am ymyriad. Er fy mod yn gallu gweld y brys, does dim sail tystiolaeth eto i lywio'r mathau hyn o ymyriadau. Rwy'n credu bod gennym ni weledigaeth o'r hyn sydd angen digwydd ond mae angen inni gymryd camau penodol cyn i ni gyrraedd y man hwnnw.

Beth yw'r heriau mae staff yr ysbyty yn eu hwynebu, beth yw profiadau pobl mewn wardiau, beth yw profiad pobl yn yr ysbyty sydd â dementia? Beth yw profiad eu gofalwyr? Hyd nes y byddwn yn deall beth sy'n digwydd nawr, allwn ni ddim symud at y cam nesaf o ddatblygu ymyriadau a newid pethau. Mae angen inni gael yr hanfodion yn iawn yn gyntaf. Dyna lle penderfynais i ddechrau.

Mae Dr Featherstone wedi mabwysiadu dull ethnograf􀃀g gyda’i hymchwil ac roedd Jackie am wybod beth oedd hyn yn ei olygu.

Cyn inni ddechrau gydag unrhyw ymyriadau eraill mae angen i ni ddeall beth sy'n digwydd nawr, sut mae staff yn gofalu am gleifion, a beth yw'r diwylliant yn y wardiau. Rhaid i'r dull gyd-fynd a'r cwestiynau. Beth mae pobl yn ei wneud a pham? Rwyf yn eu gwylio yn eu lleoliadau bob dydd. Beth yw eu trefn arferol bob dydd a'u patrymau rheolaidd. Beth mae'n ei gyflawni?

Rwyf i'n mynd i ward ac yn aros am ychydig wythnosau. Rwy'n dilyn patrymau sifft. Rwy'n gwneud y boreau, prynhawniau a nosweithiau. Rwy'n gweithio dyddiau'r wythnos, penwythnosau a gwyliau banc. Rwy'n cael ymdeimlad gwirioneddol o ddiwylliant a bywyd yn y ward honno. Rwy'n ysgrifennu nodiadau manwl mewn llyfr nodiadau mawr. Mae pawb yn gwybod fy mod i yno ac yn gallu gweld beth rwyf i'n ei wneud.

Rydych chi'n gweld safbwynt pawb. Rwy'n gallu rhoi pethau mewn cyd-destun. Beth yw eu harferion bob dydd? Pan fyddwn yn gwybod hynny y gallwn feddwl am sut i'w newid nhw.

Does dim angen miliynau o bunnoedd, dim ond newid mewn agwedd, a hyfforddiant.

Jackie Askey


JA: Sut mae eich ymchwil yn mynd i helpu, yn eich barn chi?

KF: Bydd rhaid iddo gael effaith briodol. Dyna'r her. Mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen. Dydyn ni ond wedi mynd rhan o'r ffordd. Rydyn eisoes wedi llunio rhai canfyddiadau cychwynnol ac rydyn ni'n bwydo'r rhain i mewn i ysbytai ar unwaith. Rydyn ni wedi cael ymateb da. Maen nhw'n gallu gweld eu bod angen help, sail tystiolaeth a chyfeiriad. Maen nhw'n hynod o awyddus i ymgymryd â hyn ar lefel y ward a'r ysbyty ac ar lefel yr ymddiriedolaeth hefyd. Roedd hynny'n beth gwych.

Mae angen hyfforddiant a chymorth ar y wardiau llawfeddygol cyffredinol hynny er mwyn cael gweld yn y pen draw sut beth yw gofal da i rywun sydd â dementia. Gall dementia fwrw cysgod dros y person a phopeth arall ac mae hynny'n datblygu'n rhwystr i ofal.

* Cymdeithas Alzheimer (2009) Counting the cost: Caring for PWD on hospital wards. Cymdeithas Alzheimer.

Coleg Brenhinol y Seiciatryddion. Who Cares, Wins Ionawr 2005.

Goldberg, S. E., Whittamore, K. H., Harwood, R. H., Bradshaw, L. E., Gladman, J. R., & Jones, R. G. (2012). The prevalence of mental health problems among older adults admitted as an emergency to a general hospital. Age and ageing, 41(1), 80-86.

Sampson, E. L., Blanchard, M. R., Jones, L., Tookman, A., & King, M. (2009). Dementia in the acute hospital: prospective cohort study of prevalence and mortality. The British Journal of Psychiatry, 195(1), 61-66.

Darllenwch y cyfweliad llawn

Fersiwn fyrrach yw hon o'r cyfweliad llawn a oedd yn rhifyn haf 2016 o Herio Caerdydd, ein cylchgrawn ymchwil.

Welsh - Challenge Cardiff Summer 2016

Y pedwerydd rhifyn o'n cylchgrawn ymchwil, sy'n darparu mewnwelediad i effaith ein hymchwil.

Yr ymchwilydd

Ysgol Academaidd

Image of anatomical model

Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd

Rydym yn ddeinamig, yn arloesol ac yn flaengar, a chydnabyddir ein rhagoriaeth ym meysydd dysgu, addysgu ac ymchwil.