Lleihau troseddau treisgar
Rydym yn lleihau trais drwy waith ymchwil, defnyddio data mewn ffyrdd newydd, a phartneriaethau newydd rhwng meysydd meddygaeth a chyfiawnder troseddol.

Sylwodd Jonathan Shepherd, athro a llawfeddyg y genau a'r wyneb ym Mhrifysgol Caerdydd, ei fod yn trin mwy a mwy o ddioddefwyr ymosodiadau a gafodd eu gên a'u hesgyrn bochau wedi'u torri. Nid oedd yr heddlu'n cael gwybod am dros hanner yr achosion hyn (65%).Dywedodd yr Athro Shepherd: "Roedd pobl ar fy mwrdd llawdriniaeth bob wythnos wedi'u hanafu gan rywun nad oedd erioed wedi mynd o flaen y llys. Roedd y ffaith nad oedd yr heddlu'n cael gwybod am nifer fawr o droseddau treisgar yn agoriad llygad."
Mesur trais
I astudio trais yn fanylach a'i atal yn fwy effeithiol, sefydlodd yr Athro Shepherd Grŵp Ymchwil Trais a Chymdeithas a'i changen atal, Grŵp Atal Trais Caerdydd. Prototeip o Bartneriaeth Ddiogelwch oedd y grŵp olaf, ac mae wedi'i gynnwys fel enghraifft yn y Ddeddf Troseddau ac Anhrefn.
Datblygodd y Grŵp Trais a Chymdeithas Fodel Caerdydd, sef ffordd newydd sbon o atal trais lle rhennir data o ysbytai gyda'r heddlu ac awdurdodau lleol. Mae derbynyddion mewn adrannau achosion brys yn cofnodi'r lleoliad a'r arf a ddefnyddiwyd gan bobl a anafwyd mewn trais. Mae'r wybodaeth hon yn cael ei gwneud yn ddienw ac fe'i chyfunir â data'r heddlu i lywio strategaethau a thactegau atal trais.
Ein hymchwil ragorol
Mae ein gwaith ymchwil wedi cael cydnabyddiaeth ryngwladol drwy ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines 2009, Gwobr Stockholm 2008 am Droseddeg, a Gwobr Sellin-Glueck 2003 Cymdeithas Troseddeg America.
Lleihau trais yng Nghaerdydd
Drwy gyfrwng Model Caerdydd, mae'r grŵp wedi helpu i leihau trais cymunedol yn sylweddol:
- Haneru nifer y dioddefwyr trais a gafodd eu trin mewn adrannau achosion brys yng Nghaerdydd rhwng 2002 a 2013
- 39% yn llai o drais mewn adeiladau trwyddedig
- Gostyngiad o 42% yn y nifer a aeth i'r ysbyty o ganlyniad i drais a gofnodwyd gan yr heddlu (o'i gymharu â 14 o ddinasoedd tebyg yn y DU)
- Arbed tua £5m y flwyddyn ar gostau iechyd, cymdeithasol a chyfiawnder troseddol Caerdydd (arbedwyd £6.9m yn 2007).
Mae gwaith ymchwil y grŵp wedi cael effaith tu allan i Gaerdydd hefyd:
- Mae Llywodraeth y DU a'r Coleg Meddygaeth Frys wedi mabwysiadu Model Caerdydd ar draws y DU. Yn 2012, roedd dwy o bob tair Uned Achosion Brys a Phartneriaeth Diogelwch Cymunedol wedi cymryd camau i fabwysiadu'r dull hwn.
- Mae Llywodraeth yr Iseldiroedd wedi ariannu rhaglen sy'n gweithredu Model Caerdydd yn saith ysbyty Amsterdam. Mae strategaeth genedlaethol wedi'i llunio i'w roi ar waith yn fwy eang, ar sail y canfyddiadau cychwynnol.
- Y Grŵp a ddatblygodd y Rhwydwaith Goruchwylio Trais Cenedlaethol am y tro cyntaf ym 1995, ac mae'n cynnwys 117 o adrannau achosion brys yng Nghymru a Lloegr erbyn hyn. Mae'r grŵp yn cyhoeddi adroddiadau blynyddol am dueddiadau o ran trais ar sail gwybodaeth gan adrannau achosion brys. Mae'r adroddiadau hyn wedi cynnig eglurder i dueddiadau dryslyd a nodwyd mewn data arolygon troseddau a'r heddlu.
Dyma’n harbenigwyr
Detholiad o gyhoeddiadau
- Newbury-Birch, D. et al., 2014. Alcohol screening and brief interventions for offenders in the probation setting (SIPS trial): a pragmatic multicentre cluster randomised controlled trial. Alcohol and Alcoholism 49 (5), pp.540-548. (10.1093/alcalc/agu046)
- Drummond, C. et al., 2014. The effectiveness of alcohol screening and brief intervention in emergency departments: a multicentre pragmatic cluster randomized controlled trial. PLoS ONE 9 (6) e99463. (10.1371/journal.pone.0099463)
- Moore, S. C. et al. 2014. All-Wales licensed premises intervention (AWLPI): a randomised controlled trial to reduce alcohol-related violence. BMC Public Health 14 (1), pp.-. 21. (10.1186/1471-2458-14-21)
- Piquero, A. R. et al., 2014. Offending and early death in the Cambridge study in delinquent development. Justice Quarterly 31 (3), pp.445-472. (10.1080/07418825.2011.641027)
- Florence, C. et al., 2013. An economic evaluation of anonymised information sharing in a partnership between health services, police and local government for preventing violence-related injury. Injury Prevention 20 (2), pp.108-114. (10.1136/injuryprev-2012-040622)
Cysylltau cysylltiedig
This research was made possible through our close partnership with and support from: