Ewch i’r prif gynnwys

Hunaniaeth newidiol ymfudwyr o Gymru

Mae gwaith ymchwil yn datgelu sut y newidiodd hunaniaeth ymfudwyr o Gymru wrth iddynt addasu i ddiwylliannau newydd.

Welsh flag painted on face

Cafodd ymfudwyr o Gymru effaith benodol yn y gwledydd lle gwnaethant ymsefydlu ynddynt. Fodd bynnag, nid yw hanes academaidd na phoblogaidd wedi cydnabod eu cyfraniad yn gyffredinol.

Wrth geisio creu trosolwg ystyrlon o hyd a lled ac amrywiaeth profiadau Cymry dramor, mae'n bosibl mynd y tu hwnt i'r darlun sefydlog ac artiffisial o gymuned gynnil o fewnfudwyr. Yn lle hynny, dylid mynd ati i ddeall sut y plethodd cyd-destunau lleol, rhanbarthol a chyfandirol â thrawsgenedlaetholdeb Gymreig ansicr neu wrth gefn.

Roedd gwaith ymchwil yr Athro Jones yn hollbwysig wrth benderfynu ar thema a chynnwys arddangosfa Cymru yn America...a gyrhaeddodd gynulleidfaoedd ledled yr Unol Daleithiau drwy gynnig cofnod cywir ac atyniadol o rôl y Cymry yn America … gwelwyd cynnydd amlwg mewn ymwybyddiaeth o Gymru a gwybodaeth amdani ar ôl yr arddangosfa

Catrin Brace Llywodraeth Cymru, Swyddfa Efrog Newydd

Hunaniaeth newidiol

Y Cymry yn America oedd man cychwyn gwaith ymchwil gan yr Athro William Jones, ond mae wedi ehangu i fod yn astudiaeth o ddeinameg ymfudo gan Gymry yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif, gan gynnwys astudiaethau achos o'r Ariannin (Patagonia), Awstralia, Chile a Mecsico.

Canolbwyntiodd y gwaith ymchwil ar y wasg Gymreig yn America ac Awstralia, llythyrau gan ymfudwyr, rhyw, a'r berthynas rhwng cymunedau o Gymry yn Awstralia ac America Ladin.

Drwy ddangos sut roedd allfudo'r Cymry yn brofiad a gafodd effaith ddiwylliannol, ddemograffig, economaidd a chymdeithasol, mae ymchwil Jones yn datgelu sut y newidiodd hunaniaeth Gymreig wrth i ymfudwyr addasu i ddiwylliannau newydd.

Y Cymry yng Ngogledd America

Mae 2 filiwn o bobl o dras Gymreig yng Ngogledd America. Mae llawer ohonynt yn falch o'u cefndir ac yn awyddus i wybod mwy am eu hanes.

Dylanwadu ar ddealltwriaeth

Mae gwaith ymchwil Jones wedi dylanwadu ar ddealltwriaeth gyhoeddus a phroffesiynol o'r Cymry, yn enwedig yng Ngogledd America, trwy gyfarwyddo cynnwys arddangosfeydd ac arferion proffesiynol yn y sector treftadaeth. Mae hefyd yn ymgysylltu'n uniongyrchol ag amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd a gweithwyr proffesiynol i wella eu dealltwriaeth o'r Cymry alltud.

Fel cynghorydd/cydweithiwr gydag amrywiaeth o gwmnïau cyfryngau sy'n gweithredu yn y Gymraeg a'r Saesneg, mae ymchwil yr Athro Jones wedi cyfoethogi cynyrchiadau ar draws llwyfannau cyfryngau traddodiadol a digidol. Mae ei arbenigedd yn ganolog er mwyn llywio dealltwriaeth fodern o gymunedau o Gymry dramor, a'r Cymry fel pobl â gorwelion byd-eang.


Dyma’n harbenigwyr

Yr Athro Bill Jones

Yr Athro Bill Jones

Professor in Modern Welsh History

Email
joneswd@caerdydd.ac.uk