Ewch i’r prif gynnwys

Gwella'r ymateb i ddioddefwyr trais

Mae ein gwaith ymchwil wedi cyfrannu at weddnewid y gwasanaethau a gynigir i ddioddefwyr trais domestig a rhywiol.

Vulnerable woman sitting alone

Bob blwyddyn, mae tua 1.2 miliwn o ddioddefwyr benywaidd a 700,000 o ddioddefwyr gwrywaidd yn datgelu eu bod yn profi trais yn y cartref bob blwyddyn, yn ôl ffigurau blynyddol o Arolwg Troseddau Cymru a Lloegr (CSEW). Serch hynny, cyn 2002, prin iawn oedd sylfaen y dystiolaeth o ran 'beth sy'n effeithiol' i ddioddefwyr trais domestig a rhywiol.

Mae angen ymyrraeth gynnar mewn achosion o drais domestig a rhywiol i amddiffyn dioddefwyr a lleihau'r baich ariannol ar wasanaethau cyhoeddus.

Dr Amanda Robinson Darllenydd mewn Troseddeg

Ffyrdd newydd o weithio

Cynhaliodd Dr Amanda Robinson gyfres o brosiectau ymchwil rhyng-gysylltiedig, oedd yn defnyddio dulliau ansoddol a meintiol, i nodi arferion gwaith effeithiol a mesur canlyniadau. Rhoddodd yr ymchwil ganfyddiadau pwysig am sut i ymateb orau i ddioddefwyr trais domestig a rhywiol:

Mae partneriaethau aml-asiantaeth yn hanfodol er mwyn rhoi gwasanaeth gwell. Nododd yr ymchwil fod Llysoedd Trais Domestig Arbenigol yn cynnig ffordd o fynd i'r afael â thrais domestig yn rhan o fframwaith aml-asiantaeth a ddyluniwyd drwy ystyried anghenion diogelwch a chymorth dioddefwyr a phlant.

Mae angen cymorth annibynnol gan ddarparwyr arbenigol ar ddioddefwyr. Cyfrannodd yr ymchwil at sail dystiolaeth gadarn ynglŷn â gwerth y gwasanaethau hyn i ddioddefwyr unigol ac asiantaethau partner fel yr heddlu.

Mae angen math penodol o wasanaeth ar ddioddefwyr risg uchel. Dangosodd yr ymchwil fod cynadleddau aml-asiantaeth sy'n asesu risg yn enghraifft effeithiol o sut i helpu'r rheini sydd fwyaf mewn perygl o gam-drin difrifol neu ddynladdiad yn ôl pob golwg.

Ymateb i drais: arloesedd Caerdydd

Cynhaliwyd y gynhadledd asesu risg aml-asiantaeth gyntaf (MARAC) yng Nghaerdydd. Erbyn hyn, mae dros 280 o gynadleddau o'r fath ar waith ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac maent yn ymateb i dros 74,000 o achosion risg uchel o drais domestig gyda 94,000 o blant o dan sylw.

Newid y cyd-destun ar gyfer cyflwyno gwasanaethau

Mae'r gwasanaethau a gyflwynir i ddioddefwyr trais domestig a rhywiol wedi newid yn sylweddol yng Nghymru, y DU a'r UE yn ystod y degawd diwethaf, ac mae'r dystiolaeth a gynhyrchwyd gan ymchwil Dr Robinson wedi bod yn hollbwysig yn y datblygiadau hyn. Roedd tri o'r saith amcan polisi yn yr adroddiad 'Saving Lives, Reducing Harm, Protecting the Public' gan Lywodraeth y DU yn 2008, wedi defnyddio tystiolaeth o waith ymchwil Dr Robinson. 

Erbyn hyn, mae llwyfan o ymyriadau ar gael yn y DU nad oedd yn bodoli cyn y gwaith ymchwil hwn. Mae'r gwasanaethau ar gyfer dioddefwyr trais domestig a rhywiol yn cael eu cyflwyno mewn ffyrdd mwy cyfannol, effeithlon ac effeithiol yn y DU a thu hwnt.

Mae Tasglu Cyngor Ewrop ar Drais yn erbyn Menywod 2008 yn gwneud defnydd amlwg o waith ymchwil Dr Robinson. Fe'i gwahoddwyd hefyd i gymryd rhan mewn dau brosiect oedd wedi'u hariannu gan Gyngor Ewrop ynghylch diogelu dioddefwyr rhag trais sy'n seiliedig ar ryw.

Mae effaith gwaith ymchwil Dr Robinson i'w gweld hefyd yn y ddogfen bolisi Ewropeaidd bwysicaf am y pwnc ers degawdau: Convention for Preventing and Combating Violence Against Women and Domestic Violence gan Gyngor Ewrop yn 2011.


Dyma’n harbenigwyr

Yr Athro Amanda L Robinson

Yr Athro Amanda L Robinson

Darllenydd mewn Troseddeg

Email
robinsona@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44(0) 29 2087 5401

Cysylltau cysylltiedig

Darllenwch am ein rhaglenni troseddeg israddedig a chael gwybod beth sydd mor arbennig am astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.