Ewch i’r prif gynnwys

ASSIST: Arbrawf rhoi'r gorau i ysmygu mewn ysgolion

Nod cyffredinol ein rhaglen DECIPHer ASSIST yw mynd i'r afael â'r nifer sy'n dechrau ysmygu yn ysgolion y DU.

Teenager smoking

Ysmygu yw'r achos unigol mwyaf o salwch ataliadwy yn y DU. Dros y degawd diwethaf, mae nifer yr ysmygwyr wedi gostwng - tra bod nifer yr ysmygwyr yn eu harddegau wedi cynyddu.

Nid oes unrhyw dystiolaeth gref wedi'i chyflwyno i ddangos effeithiolrwydd y rhaglenni gwrth-ysmygu yn ysgolion y DU. Mae ysgolion mewn llawer o wledydd yn cynnal rhaglenni atal ysmygu, ond cymysg fu'r dystiolaeth o'u heffeithiolrwydd. Yn y gorffennol, yn y dosbarth y cynhaliwyd y rhan fwyaf o ddulliau o dan arweiniad cyfoedion, a phrin yw'r asesiadau trylwyr. Mewn ymateb i'r her hon, aeth yr Athro Laurence Moore (gynt o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol a DECIPHer, a Phrifysgol Glasgow erbyn hyn) a'r Athro Rona Campbell (Prifysgol Bryste) ati i ddatblygu a gwerthuso rhaglen ASSIST, a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Feddygol.

Mae'r rhaglen wedi bod yn ffordd werth chweil o ymgysylltu â phobl ifanc mewn modd hwyliog, addysgiadol ac arloesol.

Cydlynydd Addysg Cyfoedion Tower Hamlets

Dull y cyfoedion cefnogol

Cafodd myfyrwyr 12-13 oed a enwebwyd gan eu cyfoedion eu recriwtio fel 'cyfoedion cefnogol' ar gyfer yr arbrawf. Cawsant eu haddysgu sut i annog eu cyfoedion ym Mlwyddyn 8 i beidio ag ysmygu mewn sefyllfaoedd bob dydd. Rhoddwyd hyfforddiant y tu allan i'r ysgol.

Cafodd 59 o ysgolion yn ne Cymru a Bryste eu dewis ar hap naill ai i barhau â'u rhaglenni addysg arferol am ysmygu, neu i wneud hynny gyda hyfforddiant ychwanegol i gyfoedion cefnogol. Dilynodd yr arbrawf y myfyrwyr am ddwy flynedd i weld a oedd ysmygu'n llai cyffredin yn yr ysgolion hyn o gymharu â'r ysgolion na chafodd yr hyfforddiant. Dangosodd fod 10% yn llai o ysmygu o ganlyniad i'r rhaglen, a'i bod yn gost-effeithiol.

Ffeithiau am ysmygu

  1. Mae tua 10 miliwn o oedolion yn ysmygu yn y DU.
  2. Mae sigaréts yn gyfrifol am dros 11,000 o farwolaethau ledled y byd bob dydd.
  3. Mae plant sy'n dechrau ysmygu cyn eu bod yn 16 oed ddwywaith yn fwy tebygol o barhau i ysmygu fel oedolion (o'i gymharu â'r rhai sy'n dechrau ysmygu'n ddiweddarach).

Lleihau defnydd

Oherwydd llwyddiant y treial, sefydlwyd cwmni nid-er-elw newydd, DECIPHer IMPACT ym mis Mawrth 2010 i drwyddedu rhaglen ASSIST. Mae'r cwmni'n rhoi hyfforddiant, deunyddiau, cymorth a sicrwydd ansawdd parhaus i Ymddiriedolaethau Gofal Iechyd Sylfaenol yn Lloegr ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ers 2010, mae dros 60,000 o fyfyrwyr Blwyddyn 8 wedi cymryd rhan yn ASSIST. Mae'r ymchwil sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn awgrymu na fydd tua 1,650 o bobl ifanc yn dechrau ysmygu o ganlyniad i'r rhaglen.

Fe wnaeth trin canser yr ysgyfaint yn Lloegr gostio £260.8 miliwn i'r GIG yn ystod 2009/10. Os caiff ei chyflwyno ledled y DU, tybir y bydd rhaglen ASSIST yn atal 20,000 o bobl ifanc rhag dechrau ysmygu pob blwyddyn.

Y cwmni a sefydlwyd i drwyddedu rhaglen DECIPHer IMPACT oedd prif enillydd Gwobr Arloesedd Iechyd Bristol Research and Innovation Group for Health (BRIG-H) 2011. Mae'r wobr yn cydnabod rhaglenni arloesol rhagorol ym maes iechyd.



Galluogwyd y gwaith ymchwil hwn gyda chydweithrediad a chefnogaeth: