Uned Asesu 28: Ieithoedd Modern ac Ieithyddiaeth
Mae ein cyfuniad dylanwadol o ysgoloriaethau’r dyniaethau a gwyddorau cymdeithasol a’n ffocws ar geisiadau polisi, wedi sicrhau sgôr GPA o 3.21 ac yn golygu ein bod yn y 7fed safle yn y DU. Nodwedd arbennig o’r uned yw bod 100% o’r ymchwil a wnaed gennym wedi cael ei ystyried yn ‘rhagorol’ o safbwynt cyrhaeddiad ac arwyddocâd. O ryddiaith a barddoniaeth ganoloesol i ieithyddiaeth gymdeithasegol y Gymraeg; i ymchwilio i gynrychiolaeth ymfudo ac i ddeall sut mae ffilmiau neu gyfieithu yn siapio diwylliannau cyfoes, mae ein hymchwil yn archwilio ystod amrywiol a chyffrous o bynciau sy'n ymwneud â’r byd o’n cwmpas.
Quality level | 4 | 3 | 2 | 1 | UC |
---|---|---|---|---|---|
Overall | 37.0% | 47.0% | 16.0% | 0.0% | 0.0% |
Outputs | 0% | 0% | 0% | 0% | 0% |
Impact | 0% | 0% | 0% | 0% | 0% |
Environment | 0% | 0% | 0% | 0% | 0% | About the REF |
Mae ein grwpiau ymchwil yn cyfuno ysgolheictod deallusol craidd yn y dyniaethau (Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Astudiaethau Sbaenaidd, Astudiaethau Cyfieithu, y Gymraeg) gydag ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol a gwaith yn ymwneud â pholisi (y Gymraeg).
Rydym ni'n mabwysiadu agwedd gydweithredol at ein hymchwil gan weithio gyda Sefydliadau Addysg Uwch (SAU) rhanbarthol a chenedlaethol a phartneriaethau nad ydynt yn SAUau, fel Canolfan Hyfforddi Doethurol Cymru-gyfan yr ESRC ar gyfer Astudiaethau Ardal yn Seiliedig ar Iaith, canolbwynt economi greadigol REACT yr AHRC, Partneriaeth Hyfforddi Doethurol De a Gorllewin Lloegr a Chymru'r AHRC; a gyda partneriaid rhyngwladol drwy gyfrwng cymrodoriaethau, rhwydweithiau cydweithredol a chynadleddau.
Ers 2008, mae naw penodiad strategol wedi cryfhau arbenigedd mewn astudiaethau cyfieithu, astudiaethau beirniadaeth lenyddol, caffael ail iaith, TG a datblygu meddalwedd, a chynllunio a pholisi iaith.
Mae grantiau wedi cynyddu i £882k, gan gyllidwyr megis AHRC, yr Undeb Ewropeaidd, ESRC, Llywodraethau Cymru ac Iwerddon, yr Academi Brydeinig, Llysgenadaethau'r Eidal a Ffrainc a Llywodraeth Canada.
Rydym ni wedi datblygu cymuned PhD fywiog ac rydym ni'n lledaenu ein hymchwil yn systematig drwy gynadleddau, symposia, darlithoedd cyhoeddus, seminarau a digwyddiadau'r rhwydweithiau cyfnewid gwybodaeth. Cyhoeddwyd 41 monograff/cyfnodolyn golygedig a 96 o bapurau mewn cyfnodolion cyfeiriedig.
Gan edrych i'r dyfodol, rydym ni'n anelu at ehangu a dyfnhau ymchwil rhyngddisgyblaethol drwy bartneriaethau cydweithredol, gan edrych ar bynciau fel dialog rhyng-ddiwylliannol, diwylliant y byddar a chyfieithu a diwylliant print Cymreig yn Ne a Gogledd America.
Astudiaethau achos
Unedau ymchwil
Uned | Manylion |
---|---|
Canolfan Uwchefrydiau Cymry America (CCWAS) | Hybu astudio diwylliant, iaith, llên a hanes y Cymry ar gyfandiroedd America. |
Rhwydwaith ymchwil Naratifau Troseddu yn eu Cyd-destun | Yn dod ag amrywiaeth o ysgolheigion at ei gilydd y mae eu diddordebau ymchwil yn ymwneud â chynhyrchu, trosglwyddo a dehongli naratifau troseddu. |
Uned Ymchwil Iaith, Polisi a Chynllunio | Diddordebau ym maes dadansoddi polisi iaith, datblygu methodoleg ac astudiaethau ymddygiad. |
Grŵp Ymchwil Gwleidyddiaeth Cyfieithu | Diddordeb yn nimensiynau moesegol a chymdeithasol-hanesyddol cyfieithu a sut maen nhw'n cysylltu â systemau ieithyddol a diwylliannol. |
Rhwydwaith ymchwil Delweddu Symudoledd ac Ymfudo | Yn ymchwilio i ddelweddau gweledol a thestunol o symudoledd ac ymfudo, yn ogystal â'u cydberthynas, o fewn diwylliannau Ewropeaidd a'u diasporâu. |
Y Sefydliad er Astudio Diwylliannau Gweledol | Yn dod â gweithgareddau at ei gilydd yn seiliedig ar ymchwil ar ffilm Ewropeaidd a byd-eang, ffotograffiaeth a mewnosodiadau fideo, astudiaethau testun a delwedd, astudiaethau diwylliant gweledol ac ideoleg. |
Canolfan Žižek er Trafod Ideoleg | Hybu dadansoddiad o fframweithiau seicdreiddiol, ôl-strwythurol ac ôl-farcsaidd gyda golwg ar eu dilysrwydd cysyniadol, defnyddioldeb empirig a goblygiadau gwleidyddol. |
Overall ranking
Pos. | Institution | GPA |
---|---|---|
1 | Queen Mary University of London A | 3.58 |
2 | University of Edinburgh B | 3.29 |
3 | Queen Margaret University, Edinburgh | 3.24 |
3 | University of Kent | 3.24 |
5 | University of Southampton | 3.23 |
5 | Queen's University, Belfast | 3.23 |
7 | Cardiff University | 3.21 |
8 | University of Essex | 3.20 |
8 | University of Cambridge | 3.20 |
10 | University of Glasgow B | 3.19 |
Table continues to 57