Ewch i’r prif gynnwys

Menywod yn Ychwanegu Gwerth at yr Economi (WAVE)

Mynd i'r afael â materion sylfaenol sy'n cyfrannu at anghydraddoldebau cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru mewn cyflogaeth a hunangyflogaeth.

Ariannwyd Rhaglen Menywod yn Ychwanegu Gwerth at yr Economi (WAVE) ganGronfa Gymdeithasol Ewrop, drwy Lywodraeth Cymru a phartneriaid allweddol:Prifysgol De Cymru, Gweithdy'r Menywod @ BAWSO a Phrifysgol Caerdydd.Cynhaliwyd cam cyntaf WAVE rhwng 2012 a 2015. Ei nod oedd deall ac 'atal' yffyrdd y mae cyflogau dynion a menywod yn amrywio dro ar ôl tro oherwyddgwahanu galwedigaethol mewn cyflogaeth a hunangyflogaeth, drwy'r ffyrdd y mae'gwaith menywod' yn cael ei gontractio a'r gwerth a roddir arno, a thrwy'rffyrdd y caiff systemau cyflogau eu gweithredu.

Bydd ail gam WAVE yn parhau yn 2016. Yn y cyfamser, gallwch ddefnyddio'r Baromedr Cyflog Cyfartal a darllen ein hadroddiadau ymchwil.

Adroddiadau

Amcanion

Nod prosiect WAVE oedddeall ac 'atal' y ffyrdd y mae cyflogau dynion a menywod yn amrywio dro ar ôltro oherwydd gwahanu galwedigaethol mewn cyflogaeth a hunangyflogaeth, drwy'rffyrdd y mae 'gwaith menywod' yn cael ei gontractio, a thrwy'r ffyrdd y caiffsystemau cyflogau eu gweithredu. 

Roedd Tîm WAVE ym Mhrifysgol Caerdydd yn ceisiocefnogi cyflogwyr i ymgymryd â'r gwaith dadansoddi a'r camau gweithredu sy'nofynnol yn ôl y 'ddyletswydd cyflog cyfartal'. Roedd am wneud yn siŵr bod yddyletswydd yn effeithiol, ac am gael effaith barhaol ar y gwahaniaethau mewncyflogau rhwng dynion a menywod yng Nghymru.

Ymchwil a Gweithredu ar Fylchau Cyflog rhwng Dynion a Menywod

Maellawer o gamau wedi'u cymryd yng Nghymru i fynd i'r afael â bylchau cyflogrhwng dynion a menywod, ac mae hyn i'w ganmol. Nod yr ymgyrch Close the Pay Gap gan y Comisiwn CyfleCyfartal a TUC Cymru, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru rhwng 2001 a 2007, oeddcodi ymwybyddiaeth am fylchau cyflog rhwng dynion a menywod, ac am y camaugweithredu i fynd i'r afael â nhw.

Maeewyllys gwleidyddol, cytundebau cenedlaethol ar y cyd yn y sector cyhoeddus aphecynnau cymorth cyflog cyfartal i gyd wedi cyfrannu at ymwybyddiaeth oegwyddorion cyflog cyfartal yng Nghymru, ac ymrwymiad atynt.

Fodd bynnag, maetystiolaeth yn dangos bod gwahanu galwedigaethol rhwng dynion a menywod ynparhau, ac mae hyn yn drysu hyd yn oed yr arfer gorau o ran archwiliadau acarfarniadau cyflog rhwng y rhywiau, wrth iddynt ganolbwyntio ar gymharu cyflogaudynion a menywod yn yr un swyddi neu mewn swyddi a graddfeydd tebyg.

Mae gwahaniaethau yn y ffyrdd y caiff dynion a menywod eu cyflogi -dosbarthiad anghyson rhwng dynion a menywod yn ôl sector, swydd, graddfa ynhierarchaeth y gweithle, math o gontract (parhaol / dros dro, tymor penodol /achlysurol) ac oriau amser llawn neu ran-amser - yn creu gwahaniaethau cyflogrhwng dynion a menywod. Gelwir y patrymau gwaith hyn ar sail rhyw yn wahanugalwedigaethol.

 Dyma rai o'r rhesymau pam ycyflwynodd Llywodraeth Cymru ddyletswydd cydraddoldeb penodol i fynd i'r afaelâ gwahaniaethau cyflog rhwng dynion a menywod. Y 'Ddyletswydd Cyflog Cyfartal'yw ei henw, a'i diben yw mynd i'r afael ag anghydraddoldebau systemig fesulsefydliad drwy fynnu bod cyflogwyr yn y sector cyhoeddus yn deall sut maebylchau cyflog rhwng dynion a menywod yn codi yn eu sefydliadau nhw, ac yngweithredu i fynd i'r afael â'r bylchau hyn.

Nodwch bod yr adnoddau isod ar gael yn Saesneg yn unig.

Cyhoeddiadau dethol

Dull Dadansoddi Cyflogaeth a Chyflog Dynion a Menywod (GEPA)

Mae'r hyn yr ydym wedi'i ddysgu yn yr astudiaethau achos, wedi llywio Dull Dadansoddi Cyflogaeth a Chyflog Dynion a Menywod (GEPA). Gall gyflogwyr wneud defnydd o hwn i ddadansoddi os mae gwahaniaethau rhwng cyflogau y rhywiau yn eu gweithluoedd. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi Dull GEPA fel mecanwaith i gyflogwyr gasglu tystiolaeth a chreu cynlluniau gweithredu i fodloni eu gofynion statudol i adrodd yn erbyn 'Dyletswydd Cyflog Cyfartal' Cymru (Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2014, Llywodraeth Cymru).

Gallai defnyddio GEPA, yn ogystal â chamau gan gyflogwyr ar sail y dystiolaeth a gynhyrchir ganddo, gael effaith arwyddocaol ar anghydraddoleb rhwng cyflogau dynion a menywod.

Y Baromedr Cyflog Cyfartal

Ar sail ein gwaith ymchwil i'r farchnad lafur, mae'r Baromedr Cyflog Cyfartal (EPB), yn fecanwaith chwilio i weld cyflog cyfartalog, patrymau gwaith a chyfansoddiad rhyw swyddi yng Nghymru.  

Byddyr adnodd hwn yn ddefnyddiol i bobl ifanc sy'n ystyried swyddi a gyrfaoedd yn ydyfodol, cynghorwyr gyrfaoedd, ac unrhyw un sy'n ystyried newid swydd neu yrfai ennill mwy o gyflog. Mae hefyd yn dangos y swyddi sydd â'r bylchau cyflogmwyaf a lleiaf rhwng dynion a menywod.

Lansiwyd y Baromedr yng nghwmni Trenau Arriva Cymru, lle bu menywodifanc o Ysgol Gyfun Treorci yn rhoi cynnig ar yr Efelychwr Gyrrwr Trên.

Lead researcher

Staff academaidd

Yr Athro Sin Yi Cheung

Yr Athro Sin Yi Cheung

Reader in Sociology, Director for International and Engagement

Email
cheungsy@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5446
Yr Athro Luke Sloan

Yr Athro Luke Sloan

Lecturer in Quantitative Methods

Email
sloanls@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44(0) 29 208 70262

Y Rhwydwaith Rhyw, Cyflogaeth a Chyflog (GEPN)

Crëwyd y rhwydwaith hwn ar gyfer gweithwyrproffesiynol ym meysydd datblygu sefydliadol, cynllunio gweithlu, adnoddaudynol a chydraddoldeb. Mae ganddo oddeutu 40 o aelodau sy'n cynrychioli mwy na30 o sefydliadau. Mae'r rhwydwaith wedi cyfarfod yn chwarterol ers 2 flynedd idrafod canfyddiadau'r gwaith ymchwil i astudiaethau achos cyflogwyr, ac i newidcynlluniau gweithredu rheoli a chymryd rhan mewn gweithdy sy'n ystyried tueddanymwybodol.

Yn ogystal, mae'r rhwydwaith wedi derbyn cyflwyniadaugan gynrychiolwyr cyflogwyr yr astudiaethau achos a fu'n cydweithredu, a fu'ntrafod pam eu bod wedi cymryd rhan mewn ymchwil i gyflog cyfartal, beth yroeddent wedi'i ddysgu, a'r camau maent am eu cymryd i sicrhau newid.

Mae aelodau GEPN yn debygol o fod ymysg y grŵp cyntafo sefydliadau i roi cynnig ar Ddull GEPAyn eu sefydliadau eu hunain.

Seminar Menywod mewn Arweinyddiaeth (WAVE)

Daeth dros 100 i'r seminar hwn a gynhaliwyd fin nos ymMhrifysgol Caerdydd. Cyflwynwyd y gwaith ymchwil diweddaraf am brinder menywodmewn swyddi arwain. Cynhaliwyd y digwyddiad ar y cyd gan CU WAVE, Gweithdy'rMenywod @Bawso a Chwarae Teg. Y Fonesig Rosemary Butler, Llywydd CynulliadCenedlaethol Cymru, agorodd y digwyddiad, a chafwyd anerchiad ganddi.

Cyflwynodd yr Athro Michelle Ryan o Brifysgol Caerwysgei gwaith ymchwil 'the glass cliff'.Trafododd Dr Johanne Grosvold, Prifysgol Caerfaddon, ei gwaith ymchwil ar ycysylltiadau rhwng darpariaeth lles datblygedig a phresenoldeb cynyddol menywodar fyrddau cwmnïau, a thynnodd Dr Amanda Kidd o Brifysgol Caerdydd sylw atbwysigrwydd ymgorffori materion rhyw mewn rhaglenni datblygu arweinyddiaeth.

Ar ddiwedd y noswaith, ymunodd Joy Kent, Chwarae Teg,a Jane Butcher, Gweithdy'r Menywod @ BAWSO (TWW), â'r siaradwyr eraill mewndadl panel fywiog. Cododd y digwyddiad gryn sylw yn y cyfryngau ar y materionhyn.