Hanes a Theori
Uwchganolbwynt ymchwil y dyniaethau yn Ysgol Pensaerniaeth Cymru.
Gyda hanes a theori bensaernïol yn fan cychwyn, mae ein gwaith yn cynnwys astudiaethau diwylliannol a gweledol, hanes trefol, estheteg, ieithyddiaeth wybyddol, a theori gymdeithasol a gwleidyddol.
Cryfder y grŵp yw ei ymchwil ysgolheigaidd, ei arbenigedd eang, ei bersbectif beirniadol a'i ffocws trefol. Mae ein pynciau ymchwil allweddol yn cynnwys:
- hanes Chicago
- defnyddio delweddau gweledol mewn datblygu trefol
- yr ysblander trefol
- y symbolaidd
- contractio
- effaith bensaernïol
- perthynas ffurf ofodol a ffurf gymdeithasol.
Rydym i gyd yn ymwneud â rhwydweithiau rhyngwladol ac yn cyfrannu at gynnal ein maes trwy adolygu papurau i gyfnodolion a llawysgrifau i gyhoeddwyr.
Amcanion
Ein nod yw:
- datblygu ymchwil flaenllaw yn y maes a'i lledaenu trwy lyfrau ac erthyglau cyfnodolion uchel eu safon
- trefnu digwyddiadau yn y ddisgyblaeth
- darparu cyd-destun yn yr Ysgol ar gyfer trafodaethau ar ymchwil hanes a theori gyfredol,
Rydym ni'n cynnal ymchwil ar:
- hanes Chicago
- Berlin '68 a phensaernïaeth
- defnyddio delweddau gweledol mewn datblygu trefol
- adfeilion a dadfeilio
- yr ysblander trefol
- pensaernïaeth a'r symbolaidd
- contractio
- effaith bensaernïol
- pensaernïaeth a Marcsiaeth.
Cyhoeddiadau dethol
- Lupton, S. 2017. Guide to JCT Design and Build Contract 2016. Newcastle upon Tyne: RIBA Publishing.
- Bowie, L. 2016. Protest and marginalised urban space: 1968 in West Berlin. Studies in History and Theory of Architecture: Marginalia; Architectures of Uncertain Margins 4 , pp.225-240.
- Kaminer, T. 2016. The efficacy of architecture: Political contestation and agency. Abingdon and New York: Routledge. (10.4324/9781315693750)
- Aelbrecht, W. 2015. Decline and renaissance: Photographing Detroit in the 1940s and 1980s. Journal of Urban History 41 (2), pp.307-325. (10.1177/0096144214563500)
- Ntzani, D. 2015. Under the spell of metaphors: Investigating the effects of conduit and container metaphors on museum experience. Curator: The Museum Journal 58 (1), pp.59-76. (10.1111/cura.12098)
- Iyer, A. G. and Roberts, A. S. 2014. A phenomenographic study in understanding architecture students’ approaches to learning the coursework of architectural design. Journal for Education in the Built Environment 9 , pp.89-109. (10.11120/jebe.2014.00010)
Prif ymchwilydd
Staff academaidd

Dr Wesley Aelbrecht
Lecturer in the History and Theory of Architecture
- aelbrechtw@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 5962

Yr Athro Andrew Roberts
College Dean for Education and Students.
- robertsas@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 4602
Myfyrwyr Ôl-raddedig
Precision in Architecture, 15 Rhagfyr 2020
Bydd Dr Mhairi McVicar yn cyflwyno ar bennod o'i chyfrol ddiweddar, Precision in Architecture: Certainty, Ambiguity and Deviation (Routledge, 2019) sy'n edrych ar yr ymdrech i sicrhau ansawdd adeiladu ym mhroffesiwn pensaernïaeth o safbwynt uniad nenfwd yng Nghanolfan Campws McCormick Tribune IIT OMA, Chicago.
'Mae'r pictiwrésg bellach wedi'i dynnu o'r homogenaidd, yr unigol wedi'i ryddhau o'r safonedig', ysgrifennodd Rem Koolhaas yn 2001, pan oedd manyleb saith tudalen yn cael ei datblygu ar gyfer nenfwd bwrdd gwyrdd yng Nghanolfan Campws McCormick Tribune ITT OMA. Roedd defnydd OMA o gynnyrch parod yn ymgadw rhag y gorffeniad safonol o baent, ac yn lle hynny'n dangos y bwrdd gwyrdd anorffenedig ac uniadau a sgriwiau wedi'u llenwi. 'Mae'r gosodiad', dywedodd Cais am Wybodaeth, 'yn groes i argymhellion y gwneuthurwr. Cynghorwch.'
Mewn ymateb, pennodd y tîm y bylchau, dimensiynau, offer a symudiadau llaw ar gyfer gosod pob uniad a sgriw llenwedig, gan newid rolau'r gosodwyr o grefftwyr 'garw' i 'gorffen'.
Gan graffu ar y dogfennau manwl sy'n cyd-fynd ag un manylyn yn nenfwd OMA dros gyfnod o bymtheng mis, mae'r ymchwil yn edrych ar y gofal rhyfeddol a ddefnyddiwyd rhwng y tîm wrth iddynt geisio 'tynnu'r pictiwrésg o'r homogenaidd' wrth wyro o safon.
Seminar Ymchwil H&T, 25 Mehefin 2020
Bydd gennym ddau siaradwr yn rhannu eu gwaith presennol:
Yr Athro Isabelle Doucet -Chalmers: fydd yn cyflwyno papur sydd ar waith, a'n Dr Juliet Davis ni fydd yn cyflwyno pennod o'i chyfrol arfaethedig sydd hefyd ar y gweill.
Darlith Ymchwil Ysgol Pensaernïaeth Cymru: Edward Denison (UCL)
‘Planetary Modernisms in the Age of the Anthropocene’, 27 Chwefror 2020