Grŵp Ymchwil ac Ysgoloriaeth Ynni, yr Amgylchedd a Phobl
Mae angen i'r amgylchedd adeiledig a'r rhai sy'n ei feddiannu wneud y mwyaf o gyfleoedd sy'n cyfyngu ar effeithiau newid yn yr hinsawdd wrth ddarparu lleoedd diogel ac iach i bobl fyw a gweithio ynddynt.
Mae ansawdd bywyd a lles pawb yn dibynnu ar amgylchedd adeiledig o ansawdd da, o dai i weithleoedd, ysgolion a'r amgylcheddau naturiol o'u cwmpas.
Mae ynni, ei ddefnydd a'r broses o’i gyflenwi yn cael effaith sylweddol ar ofod mewnol, a all ddarparu lleoedd cyfforddus i fyw a gweithio ynddynt, ac allanol, gydag effaith ar newid yn yr hinsawdd ac ansawdd aer. Nod y grŵp YAP yw lleihau'r defnydd o ynni wrth gefnogi systemau ynni priodol i gefnogi amgylchedd, cymdeithas ac economi well.
Amcanion
Nod y Grŵp Ymchwil ac Ysgoloriaeth Ynni, yr Amgylchedd a Phobl yw gwella cynaliadwyedd yr amgylchedd adeiledig a ffyrdd o fyw pobl sy'n gweithio ar draws graddfeydd amgylchedd adeiledig, o gydrannau i adeiladau, o gymdogaethau i lefel genedlaethol.
Bydd ymchwil yn darparu tystiolaeth o ddylunio a chynllunio hyd at weithredu a gwerthuso perfformiad a dymchwel i sbarduno gwelliannau cynaliadwy hirdymor.
Mae ymchwil Grŵp Ymchwil ac Ysgoloriaeth YAP wedi bod yn amrywiol iawn ers 2014. Mae pynciau ymchwil yn amrywio o wella cydrannau adeiladau fel ffasadau a systemau gwresogi, cyfuno technolegau i leihau'r defnydd cyffredinol o ynni a datblygu offer a dulliau i gynorthwyo gyda'r broses o wneud penderfyniadau, i werthuso newid ymddygiad a chanfyddiadau o newid.
Mae’r grŵp YAP wedi sicrhau dros £5 miliwn o incwm ymchwil gan gyrff cyllido a gwaith ymgynghori gydag ystod eang o werthoedd prosiect.
Derbyniwyd 21 o grantiau ymchwil - mae gan 2 o'r rhain, LCBE SPECIFIC 2 ac EnergyREV, werth o dros £500,000. Mae gan chwe phrosiect werth rhwng £100,000 - £500,000, gyda'r prosiectau sy'n weddill yn llai na £100,000.
Lead researcher
Staff academaidd

Dr Tania Sharmin
Senior Lecturer Sustainable Environmental Design
- sharmint@caerdydd.ac.uk
- 02920870798

Dr Vicki Stevenson
Reader, Course Director for MSc Environmental Design of Buildings, Director of Postgraduate Research
- stevensonv@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 0927

Dr Marianna Marchesi
Lecturer in Architectural Design & Technology
- marchesim@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)7470742033

Yr Athro Phillip Jones
Cadeirydd Gwyddoniaeth Pensaernïol a Chadeirydd y Sefydliad Ymchwil Carbon isel (LCRI)
- jonesp@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 4078

Yr Athro Wouter Poortinga
Professor, Director of Research, Welsh School of Architecture
- poortingaw@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 4755

Yr Athro Chris Tweed
Pennaeth yr Ysgol, Cadair Dylunio Cynaliadwy
- tweedac@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 6207
Myfyrwyr Ôl-raddedig
Mae'r grŵp wedi ymgymryd ag ystod eang o weithgareddau ymgysylltu gan gynnwys darparu tystiolaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau polisi cenedlaethol, gweithgareddau hyfforddi CBD a gweithdai i sicrhau canlyniadau i ystod eang o randdeiliaid.