Ewch i’r prif gynnwys

Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth 2017

Mae'r Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth (2017) yn casglu data am beth mae pobl yn ei wneud yn y gwaith, pa sgiliau maen nhw'n eu defnyddio a sut maen nhw'n gweithio.

Arolwg 2017 yw'r seithfed mewn cyfres o arolygon a ddechreuodd ym 1986. Rhagwelir y bydd dros 3,000 o bobl yn ymateb i’r arolwg diweddaraf.  Mae'r arolygon trawstoriadol hyn yn cynnig ffordd o gofnodi ac egluro'r newidiadau ym mhatrymau ansawdd swyddi a sgiliau dros amser. Mae'r gyfres o arolygon yn rhan hanfodol o ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol, ac maen nhw wedi bod yn sail i nifer o gyhoeddiadau, fel y rhai a restrir yn Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth (2012).

Cyhoeddir canlyniadau penodol o arolwg 2017 yn Hydref 2018.

Tîm y Prosiect

Yr Athro Alan Felstead (Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd) sy’n arwain y prosiect. Dyma aelodau eraill y tîm ymchwil:

  • Yr Athro Duncan Gallie (Coleg Nuffield, Rhydychen)
  • Yr Athro Francis Green (Athrofa Addysg Coleg Prifysgol Llundain)
  • Dr Golo Henseke (LLAKES, Athrofa Addysg Coleg Prifysgol Llundain).

Arianwyr

Ariennir y prosiect gan gonsortiwm o arianwyr:

Asiantaeth Gwaith Maes

GfK sy’n cynnal y gwaith maes ar gyfer arolwg 2017. Mae GfK yn rhan o sefydliad ymchwil farchnata byd-eang. Maen nhw’n gweithio mewn dros 100 o wledydd ac yn cyflogi dros 13,000 o aelodau o staff.

Tîm y prosiect


Tîm y prosiect

Prif Ymchwilydd