Prosiect DRUM
Gan ddefnyddio ap DRUM, ymchwilio i sut y gall cerddoriaeth ac offerynnau taro helpu o ran problemau symud a chanolbwyntio mewn pobl â chyflyrau niwrolegol.
Gwybodaeth am y prosiect
Rydyn ni’n recriwtio gwirfoddolwyr i'n helpu i brofi ap hyfforddi symudiadau newydd i bobl ag anhwylderau symud. Hwyrach bod hyn yn digwydd o ganlyniad i glefyd Parkinson, clefyd Huntington neu gyflyrau niwrolegol eraill, gan gynnwys strôc.
Mae DRUM yn seiliedig ar ymchwil sy'n awgrymu ei bod yn bosibl bod cerddoriaeth ac offerynnau taro yn helpu o ran problemau symud a chanolbwyntio, gan gynnwys ein hastudiaethau ein hunain sydd hefyd wedi canfod bod cysylltiadau’r ymennydd yn ymgryfhau.
Pan fydd pobl yn defnyddio DRUM byddan nhw’n gwrando ar recordiadau sain cerddor, Jimi Cantera, sy'n esbonio sut i ddrymio ar ddau ddrwm rhithwir ar lechen. Gwneir hyn yn gyntaf heb gerddoriaeth gefndirol ac wedyn gyda cherddoriaeth gefndirol. Wrth i bobl symud ymlaen drwy'r rhaglen, mae'r patrymau hyn yn mynd yn raddol hirach a chyflymach. Bydd y sawl sy’n cymryd rhan yn ymarfer nes eu bod yn cyrraedd lefel o gymhwysedd cyn y gallan nhw ddatgloi'r lefel nesaf.
Ein hamcanion
Ein nod yw casglu data yn DRUM i ddatblygu system yn DRUM sy'n defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI), yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn addasu'r hyfforddiant i anghenion y defnyddiwr unigol. Mae hyn yn golygu bod gan bawb yr amodau hyfforddi gorau posibl, gan osgoi rhwystredigaeth oherwydd gormod o heriau neu ddiflastod oherwydd diffyg heriau.
Ein gobaith yw darganfod a yw pobl yn mwynhau hyfforddiant DRUM ac yn ei gael yn fuddiol.
Cyllid
Mae'r prosiect hwn, sef Cymrodoriaeth Uwch Claudia Metzler-Baddeley (cyllid Parkinson's UK yn yr arfaeth), yn cael ei ariannu gan ySefydliad Cenedlaethol er Ymchwil Iechyd (NIHR) ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (HCRW) .
Sut i gael gafael ar DRUM
I gyrchu'r ap, e-bostiwch Dr Claudia Metzler-Baddeley yn uniongyrchol. Yna bydd ymgynghoriad byr i gasglu gwybodaeth fel oedran a chyfnod y clefyd.
Gallwch chi lawrlwytho ap DRUM ar lechen Android sy'n rhedeg Android 21 neu uwch drwy ddilyn y cyfarwyddiadau isod.
Os nad oes gennych chi lechen Android ond hoffech chi gymryd rhan, cysylltwch â Dr Metzler-Baddeley.
Gosod ap DRUM a’r canllaw i ddefnyddwyr
Cyfarwyddiadau ar sut i lawrlwytho'r ap DRUM ar dabled Android a chanllawiau hyfforddiant.
Enw Cyswllt
Arweinir y prosiect hwn gan Dr Claudia Metzler-Baddeley, Niwrowyddonydd Gwybyddol sy'n gweithio yng Nghanolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC) yn yr Ysgol Seicoleg ac yn arbenigo ym maes datblygu a gwerthuso ymyraethau nad ydyn nhw’n defnyddio cyffuriau, a hynny i bobl â phroblemau gwybyddol ac echddygol.
Dr Claudia Metzler-Baddeley
Darllenydd, Cymrawd Ymchwil Uwch NIHR/HCRW, Arweinydd Niwrowyddoniaeth Wybyddol
Helpwch ni i brofi ap hyfforddi symudedd newydd ar gyfer pobl ag anhwylderau symud.