Ewch i’r prif gynnwys

Rôl ganolog cynsail pensaernïol mewn dylunio pensaernïol cynaliadwy

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Sustainability and design quality
Sustainability and design quality

Hyrwyddo esblygiad critigol drwy integreiddio iaith cynaliadwyedd ac ansawdd dylunio.

Ystyrir mai cael cydnabyddiaeth cyfoedion am ragoriaeth o ran dylunio pensaernïol yw'r llwyddiant mwyaf i unrhyw Bensaer. Yn wir, wrth wraidd deilliannau dysgu unrhyw addysg bensaernïol mae cysyniad newydd o beth yw rhagoriaeth Bensaernïol, ac yn nodedig, mae hyn yn cynnwys gwybod sut i siarad am y peth. Felly, cyfleu'r sgil broffesiynol o ddeall a gwybod am iaith dylunio pensaernïol. Ochr yn ochr â hyn mae'r angen cydnabyddedig i'r amgylchedd adeiledig eang ac adeiladau'n benodol i ymateb i ofynion amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol cynaliadwyedd. Mae hyn wedi achosi newid mewn ymarferion dylunio, lle mae adeiladau cynaliadwy'n cael eu hystyried yn deilwng ac yn bragmatig, ond efallai ychydig yn ddi-enaid, tra bod pensaernïaeth ragorol yn rhywbeth arall.

Nod y gwaith hwn yw ymgysylltu ag ymchwil drawsnewidiol i hyrwyddo newid i batrymau dylunio pensaernïol fel bod modd uno bydoedd gwahanol rhagoriaeth dylunio pensaernïol a pherfformiad cynaliadwy er mwyn llywio iaith fwy cyflawn, critigol a chadarn ar gyfer cynsail pensaernïol, gydag effeithiau pellgyrhaeddol. Yn ystod y gwaith hwn byddwn yn ceisio annog ymgysylltiad â'r broses dylunio pensaernïol a rhyngddisgyblaethol, mewn ffordd ystyrlon a hygyrch, er mwyn ei thrawsnewid i fod yn werthusiad mwy cyflawn o ansawdd dylunio, cynaliadwyedd a pherfformiad na'r hyn sy'n bodoli ar hyn o bryd.

Cyhoeddiadau

  • Gwilliam JA ac O’Dwyer, S (2018). Architectural Design and / or Sustainable Building: A Question of Language?”. Pumed Gynhadledd Pensaernïaeth Gynaliadwy Ryngwladol, Fenis, 22-24 Mai 2018.
  • Gwilliam JA ac O’Dwyer, S (2018). Delivering Sustainable Design Excellence: The potential role of architectural precedent. Wedi'i gyflwyno i PLEA 2018, Deallusol ac Iachus o fewn y terfyn 2 radd, Hong Kong, 10-12 Rhagfyr 2018
  • Gwilliam JA ac O’Dwyer, S. 2020. Delivering sustainable design excellence: the potential role of holistic building performance evaluation. Architectural Science Review (10.1080/00038628.2020.1825319)

Partneriaid

Sarah O’Dwyer

Cyswllt

Dr Julie Gwilliam

Dr Julie Gwilliam

Dean of Postgraduate Studies College of Physical Sciences & Engineering

Email
gwilliamja@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5977