Ewch i’r prif gynnwys

CircuBED – Cymhwyso’r economi gylchol i gynllun tai cymdeithasol

Mae’r prosiect hwn yn archwilio sut gall cymunedau tai cymdeithasol gyfrannu at roi economi gylchol ar waith mewn dinasoedd, a sut gallan nhw gael eu hymgysylltu wrth ddychmygu sefyllfaoedd posib ar gyfer trosglwyddo i economi gylchol.

Mae effeithlonrwydd o ran adnoddau mewn dinasoedd yn dibynnu ar batrymau defnyddio a chynhyrchu sy’n gysylltiedig â newidiadau mewn ymddygiad pobl. Mae ôl-troed ecolegol Caerdydd yn dangos bod effaith dinasyddion ar yr amgylchedd o ran defnyddio adnoddau yn dibynnu i raddau helaeth ar y defnydd o fwyd a diod, ynni, symudedd a nwyddau traul. Gwelwyd data tebyg mewn sawl dinas yn y DU. Felly, yn seiliedig ar y data hwn, mae ymchwil wedi cydnabod bod cysylltiad cryf rhwng effaith dinasoedd ar y blaned â ffyrdd o fyw a phatrymau dinasyddion.

This diagram shows Cardiff residents’ Footprint and highlights how contemporary lifestyles and consumption patterns have major implications on resource use. This is split: 2% holiday activities, 23% food and drink, 18% mobility, 17% energy, 13% capital investment, 12% consumables, 7% government, 5% services, 3% housing.
A pie chart representing the ecological footprint of Cardiff’s residents

Mae'r economi gylchol yn cynnig ffyrdd i ail-lunio arferion cynhyrchu a defnyddio presennol mewn systemau trefol (bwyd, cynnyrch, symudedd ac adeiladu) i wella effeithlonrwydd adnoddau wrth alluogi cymdeithas, yr economi a'r amgylchedd i ffynnu'n gynaliadwy.

This diagram represents the circular economy approach to production and consumption aiming at resource reduction, reuse, recycling, and closed-loop flows.
Diagram of a circular economy in the product system

Fodd bynnag, hyd yn hyn, mae'r economi gylchol wedi canolbwyntio'n bennaf ar ddatblygiadau technolegol newydd, a phrin yw’r sylw ar arferion cymdeithasol a newid ymddygiad. Ar y llaw arall, dangoswyd bod newid ymddygiad ar gyfer byw'n gynaliadwy yn cael ei annog yn effeithiol trwy fentrau arloesedd cymdeithasol sy'n cynnwys pobl mewn arferion cymdeithasol amgen trwy gynhyrchion, gwasanaethau, prosesau, marchnadoedd, llwyfannau neu ffurfiau sefydliadol newydd.

Maen nhw’n fentrau sy'n ennyn diddordeb pobl mewn ymyriadau ar y cyd, ac yn hyrwyddo newidiadau mewn arferion cymdeithasol trwy greu rolau a pherthnasoedd newydd, datblygu asedau a galluoedd newydd a gwell mynediad at bŵer a defnyddio adnoddau. Felly, tynnodd yr astudiaeth hon sylw at ddeall ffenomen arloesedd cymdeithasol ar gyfer economi gylchol mewn cymunedau trefol a grwpiau o ddiddordeb, er mwyn diffinio cyfraniad posibl cymunedau tai cymdeithasol trwy hyrwyddo arferion cynhyrchu a defnyddio amgen.

This study explored social innovation interventions implemented in cities and aimed at promoting changes in production and consumption practices.
Social innovation and the circular economy

Trwy ddethol a dadansoddi 56 astudiaeth achos, datblygodd y prosiect gronfa ddata i gynnig trosolwg o fentrau arloesedd cymdeithasol cyfoes a roddwyd ar waith gan gymunedau trefol a grwpiau o ddiddordeb ymhlith dinasyddion, gan ganolbwyntio ar hyrwyddo arferion cynhyrchu a defnyddio amgen.

This table shows an excerpt of the case study database implemented by the selection and analysis of 56 social innovation initiatives.
A case study database implemented by the selection and analysis of 56 social innovation initiatives.

Dilynwyd proses o gymharu a grwpio ar ôl dadansoddi, ac roedd modd categoreiddio'r gronfa ddata hon yn ôl gwybodaeth ddamcaniaethol a dadansoddiad empirig, a nodi tri phrif gategori a saith math o arloesedd cymdeithasol ar gyfer economi gylchol mewn cymunedau trefol a grwpiau o ddiddordeb.

This picture represents the three main categories and seven types of social innovation for a circular economy identified through the study.
Social innovation types for a circular economy in urban communities

Yn seiliedig ar y deipoleg hon, diffiniodd yr astudiaeth gyfraniad posibl cymunedau tai cymdeithasol at drawsnewid i economi gylchol mewn dinasoedd trwy arloesedd cymdeithasol trwy nodi cyfleoedd, manteision a rhwystrau.

Math o arloeseddCyfleoeddManteision
cymunedau neu le o ddiddordebarferion cynhyrchio a defnyddio ar y cyd yn y systemau adeiladu a bwydlleihau gwastraff, sgiliau newydd, cydlyniant, perchnogaeth gymunedol
grwpiau o ddiddordebdefnydd amgen (rhannu a chyfnewid) cynhyrchion, mannau adeiladu a dulliau symudeddlleihau gwastraff ac adnoddau, arbed arian ac arbed lle
grwpiau tymor byrcynhyrchu (cyd-greu) a defnydd tymor byr o dir cyhoeddus/trefolymwybyddiaeth, gan ddatblygu grwpiau o ddiddordeb
dinasyddionhunan-gynhyrchu a defnydd amgen (estyn oes cynnyrch)lleihau gwastraff, sgiliau newydd, arbed arian
dinasyddioncynhyrchu gwybodaeth yn y systemau adeiladu, bwyd a symudeddcodi ymwybyddiaeth, dylanwadu ar ymddygiad
grwpiau a busnesau dielwcynhyrchu cynhyrchion a bwyd amgendefnyddio adnoddau a lleihau gwastraff, cydlyniant a hunanddibyniaeth
grwpiau a busnesau dielwdefnydd amgen (rhentu a gosod) lleoedd adeiladu a chynhyrchiondefnyddio adnoddau a lleihau gwastraff, arbed arian, elw defnyddwyr

Amlinellodd y dadansoddiad hwn hefyd ddealltwriaeth ragarweiniol o'r cysyniad o gymuned gylchol. Dangosodd grwpiau o ddinasyddion wedi'u trefnu'n grwpiau preswyl, grwpiau o ddiddordeb, busnesau a mentrau cymdeithasol sy'n hyrwyddo arferion cynhyrchu a defnyddio cylchol mewn systemau trefol trwy flaenoriaethu strategaethau ailfeddwl, gwrthod, lleihau, atgyweirio, dadleoli, democrateiddio ac ailddosbarthu a thrwy eu defnyddio’n ymarferol mewn datblygiadau cymdeithasol-dechnegol i sicrhau lles pawb o fewn ffiniau'r blaned.

At hynny, amlygodd y canfyddiadau rôl ategol posibl arloesedd cymdeithasol wrth roi economi gylchol ar waith mewn gwahanol systemau trefol gan gynnwys: cynnyrch, bwyd, symudedd ac adeiladau ar y cyd â'r diwydiant, llywodraethau a sefydliadau.

This diagram displays social innovation opportunities for a circular economy implemented in the product system in cities and selected through the study.
Social innovations for a circular product system

Gan nad yw'r dulliau presennol o ymdrin ag economi gylchol yn cynnwys arloesedd cymdeithasol, awgrymodd y prosiect y dylid cyflwyno cysyniadau arloesedd cymdeithasol sy'n dod i'r amlwg yn fframwaith ReSOLVE, sef fframwaith economi gylchol sydd wedi'i hen sefydlu i gefnogi’r gwaith o nodi mentrau arloesedd cymdeithasol ar gyfer economi gylchol. Yn benodol, mae'r strategaeth “ymgysylltu a grymuso” wedi'i chynnwys i'w chyfuno â chamau gweithredu economi gylchol i nodi cyfleoedd.

Strategaethau ReSOLVE Cyfleoedd arloesedd cymdeithasol ar gyfer economi gylchol

Arloesedd cymdeithasol/economi gylchol (Social innovation/circular economy)Adfywio (Regenerate)Rhannu (Share)Optimeiddio
ymgysylltu a grymusogarddio cymunedol/tyfu/compostio, ffermio trefol, amaethyddiaeth a gefnogir gan y gymunedmentrau cymunedol a rennir fel cyd-gartrefu, canolbwynt cymunedol, cyfleusterau a rennir fel cynlluniau rhannu ceircymunedau hunan-adeiladu, cyfleusterau hunan-gynhyrchu (gweithdai, llwyfannau); grwpiau prynu ar y cyd
 dolen (loop)ymateb yn rhithwir (virtualise)cyfnewid (exchange)
ymgysylltu a grymusoatgyweirio caffis a llwyfannau, canolfannau ailddefnyddio a llwyfannau, mentrau uwchgylchu a mentrau bwyd/bioddeunyddiaullwyfannau ar gyfer ailddefnyddio adnoddau, cynhyrchu gwybodaeth, cadwyn gyflenwi rhwydwaithdefnyddio ffynonellau adnewyddadwy (ynni cymunedol), modelau busnes newydd (beiciau cymunedol), technolegau uwch

Nododd yr astudiaeth hefyd heriau mewnol ac allanol sy'n effeithio ar dwf mentrau arloesedd cymdeithasol ar gyfer economi gylchol ac yn cyfyngu arnynt: y ddibyniaeth ar gronfeydd ffynhonnell allanol/cyhoeddus neu waith gwirfoddolwyr a diffyg modelau busnes cynaliadwy; yr angen i feithrin gallu a sgiliau dynol; anawsterau wrth ehangu oherwydd diffyg mynediad at seilwaith, cefnogaeth economaidd a chefnogaeth gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau; diffyg dealltwriaeth o'u heffeithiau go iawn gan gyfyngu ar gefnogaeth ar draws y sector; a diffyg cydweithio ar draws y gymdeithas ehangach.

  • mynediad at isadeileddau a chefnogaeth gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau
  • cefnogaeth economaidd a modelau busnes cynaliadwy
  • meithrin gallu a sgiliau dynol
  • rhwydweithiau lleol ar gyfer cylchredeg adnoddau
  • dealltwriaeth o effeithiau go iawn

Yn seiliedig ar ganfyddiadau’r ymchwil, mae'r prosiect yn archwilio gallu arferion chwareus i hwyluso cymunedau trefol i ddehongli cysyniadau a strategaethau economi gylchol a chreu sefyllfaoedd ar gyfer trosglwyddo i gymuned gylchol. Bydd gêm ddifrifol ar arloesedd cymdeithasol ar gyfer economi gylchol mewn cymunedau trefol yn cael ei datblygu a'i phrofi gyda chymuned tai cymdeithasol yn Llundain. Yn olaf, bydd argymhellion cychwynnol o ran strategaethau a mesurau cymorth i’w cyflwyno i waith llunio polisi er mwyn hwyluso mentrau arloesedd cymdeithasol newydd yn y maes yn cael eu ffurfio.

Cyhoeddiadau

Mae'r prosiect hwn wedi cael arian gan raglen ymchwil ac arloesedd Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd o dan gytundeb grant rhif 793021.

Faint o arian grant gewch chi195,454.80 ewro
Hyd y prosiectMehefin 2018 – Chwefror 2021
PartneriaidArup Foresight London (Dr David Gerber)
Clarion Housing Group (Paul Quinn)
EU flag

Arweinydd y prosiect

Dr Marianna Marchesi

Dr Marianna Marchesi

Lecturer in Architectural Design & Technology

Email
marchesim@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)7470742033

Goruchwyliwr y prosiect

Yr Athro Chris Tweed

Yr Athro Chris Tweed

Pennaeth yr Ysgol, Cadair Dylunio Cynaliadwy

Email
tweedac@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6207