Ewch i’r prif gynnwys

Gwefan Baledi Cymru

Mae’r wefan yn cynnwys erthyglau gan Dr James ar wahanol agweddau ar y faled yng Nghymru, llyfryddiaeth helaeth a dolennau i rychwant eang o ddeunyddiau electronig, ynghyd â delweddau digidol o groestoriad cynrychioliadol o 50 o faledi o gasgliad Llyfrgell Salisbury.

Bydd y wefan hon yn adnodd tra gwerthfawr ar gyfer ymchwil i bob agwedd ar fywyd a diwylliant Cymru yn y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ar bymtheg. Archwiliwch Wefan Baledi Cymru.

Manylion

Roedd cynhyrchu taflenni baledi yn ei anterth yng Nghymru yn y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gan mwyaf, pamffledi wyth-ochr oedd taflenni baledi’r ddeunawfed ganrif, ond rhai pedair-ochr oeddynt yn arferol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae ychydig o dan 1,000 o daflenni baledi’r ddeunawfed ganrif wedi goroesi mewn llyfrgelloedd, a thros 8,000 o rai’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Gogledd-ddwyrain Cymru a’r Gororau oedd canolbwynt y fasnach mewn taflenni baledi yn y ddeunawfed ganrif, ond yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, symudodd y canolbwynt i’r De diwydiannol yn bennaf, er bod taflenni baledi yn llifo allan o argraffweisg ar hyd ac ar led Cymru yn ystod y ganrif honno. Ffenomen Gymraeg oedd y taflenni baledi hyn i raddau helaeth, ond cafwyd rhai Saesneg a dwyieithog, yn enwedig wrth i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg fynd yn ei blaen.

Mae’r taflenni hyn yn cynnwys cerddi poblogaidd ar amrywiaeth eang o bynciau. I’r sawl sy’n ymddiddori yn iaith, llenyddiaeth, hanes, crefydd a cherddoriaeth y Cymry, maent yn fwynglawdd dihafal o ffynonellau cynradd. Maent hefyd yn ddrych pwysig i arferion, diddordebau a byd-olwg pobl gyffredin Cymru.

Mae gan Lyfrgell Salisbury – sef llyfrgell Gymreig a Cheltaidd nodedig Prifysgol Caerdydd – un o’r casgliadau gorau o daflenni baledi Cymreig. Yn 2006 creodd Llyfrgell Prifysgol Caerdydd ‘Wefan Baledi Cymru’ dan olygyddiaeth Dr E. Wyn James o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, sy’n cael ei gydnabod yn awdurdod blaenllaw ar y faled a chanu gwerin.


Tîm y prosiect

Principal investigator

E. Wyn James

Yr Athro E. James

Athro Emeritws