Polisi astudio dramor
Mae'r polisi astudio dramor yn cynnig arweiniad ynglŷn â rheoli, cynnal a gwerthuso gweithgareddau dysgu gyda chredydau ar leoliadau.
Mae gennym strategaeth uchelgeisiol i sicrhau bod pob myfyriwr yn cael cyfleoedd i adeiladu cysylltiadau byd-eang drwy raglenni cyfnewid a chydweithio rhyngwladol a chreu cyfleoedd i bob myfyriwr gymryd rhan mewn profiadau rhyngwladol sy’n cael effaith fel rhan annatod o'u hastudiaethau. Mae helpu myfyrwyr i fanteisio ar gyfleoedd astudio dramor o safon yn ystod eu cyfnod yn y Brifysgol yn elfen ganolog o wneud yn siŵr ein bod yn glynu wrth yr ymrwymiad hwn.
Mae'r polisi astudio dramor yn adeiladu ar y prosesau a'r gweithdrefnau a amlinellir yn y Polisi Darpariaeth Gydweithredol a’r Polisi Cymeradwyo Rhaglenni yn cymryd ymagwedd seiliedig ar risg i ddatblygu a rheoli'r holl weithgaredd astudio dramor gan nodi unrhyw ofynion ychwanegol penodol.

Study Abroad Policy Welsh
Learn how to set up and manage study abroad programmes
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Yr egwyddorion allweddol
Mae egwyddorion allweddol y polisi wedi eu dylunio i gynnal y safonau academaidd uchaf a chynnig cyfnod astudio dramor diogel sy'n cefnogi profiad rhagorol i fyfyrwyr, a hynny wrth sicrhau nad yw prosesau'n rhy fiwrocrataidd, yn anhylaw i'w gweithredu, neu'n rhwystro ein huchelgais strategol.
Mae'r polisi'n amlinellu'r egwyddorion arweiniol ar gyfer staff o ran elfennau allweddol o gymeradwyo, rheoli a monitro gweithgarwch ar gyfnodau astudio dramor sy'n rhoi credydau, sef:
- datblygu rhaglenni sy’n cynnwys 120 credyd ychwanegol o weithgaredd astudio dramor.
- gwneud yn siŵr bod cyfleoedd astudio dramor yn gynhwysol ac wedi'u cefnogi
- adolygu a chymeradwyo partneriaid astudio dramor gan gynnwys asesiadau risg a datganiadau myfyrwyr
- monitro, gwerthuso ac adolygu partneriaethau a rhaglenni astudio dramor bob 5 mlynedd
- cefnogi a gwella profiad y myfyriwr ar gyfer myfyrwyr cyfnewid rhyngwladol ac astudio dramor newydd.
Lle mae ysgolion neu adrannau'r gwasanaethau proffesiynol yn trefnu gweithgaredd astudio dramor nad yw'n rhoi credydau, disgwylir y dylai'r ddarpariaeth gael ei hadolygu i wneud yn siŵr ei bod yn cydymffurfio â'r egwyddorion allweddol a nodir yn y polisi.