Polisïau a gweithdrefnau sicrwydd a gwella ansawdd
Ein polisïau a’n gweithdrefnau sicrhau a gwella ansawdd yw’r cyfeirbwynt allweddol ar gyfer gwybodaeth am egwyddorion a phrosesau academaidd, rolau a chyfrifoldebau rydym yn eu defnyddio i ddatblygu a gweithredu fframwaith rheoli ansawdd effeithiol ac effeithlon.
Mae hyn yn rhoi sicrwydd i ni ynghylch safonau ac ansawdd ein darpariaeth ac mae hefyd yn un o’n sianeli cyfathrebu ar gyfer annog a rhannu dysgu, addysgu ac ymchwil.
Mae ein polisïau a’n gweithdrefnau'n berthnasol i ddarpariaeth a addysgir a’r ddarpariaeth ymchwil ac fe’u trefnir yn nifer o ddatganiadau ar sail thema. Rhaid i bob Ysgol gydymffurfio â’n polisïau a’n gweithdrefnau oni cheir eithriad gan y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd. Mae elfennau o ddisgresiwn fodd bynnag, a rhoddir cyfrifoldebau i unigolion a grwpiau.
Mae cynnwys pob datganiad wedi'i seilio ar y canlynol:
- Cynllun Strategol Prifysgol Caerdydd - Y Ffordd Ymlaen
- Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF)
- Y Portffolio Addysg
- Cynllun Iaith Gymraeg
- Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
- Yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd
- Elfennau o Siarter, Statudau a Deddfiadau’r Brifysgol
- Llawlyfr y Rheoliadau Academaidd
- Côd Ymarfer Gonestrwydd Gwaith Ymchwil a’i Lywodraethu