Lleoliadau
Mae'r polisi dysgu ar leoliadau yn cynnig arweiniad ynglŷn â rheoli, cynnal a gwerthuso gweithgareddau dysgu gyda chredydau ar leoliadau.
Mae gennym strategaeth uchelgeisiol i sicrhau bod pob myfyriwr yn cael cyfleoedd i gael profiad gwaith neu brofiad o fod ar leoliad, lle caiff sgiliau cyflogadwyedd trosglwyddadwy eu hymgorffori ar draws eu cwricwla. Mae hyn er mwyn sicrhau bod myfyrwyr ar bob lefel wedi eu paratoi ar gyfer pontio i fyd gwaith. Mae helpu myfyrwyr i fanteisio ar gyfleoedd i gael lleoliad o safon yn ystod eu hastudiaethau yn elfen ganolog o wneud yn siŵr ein bod yn glynu wrth yr ymrwymiad hwn.
Mae'r polisi dysgu ar leoliad yn cefnogi'r broses o ddatblygu darpariaethau sy'n dwyn credydau i wneud yn siŵr eu bod yn ddiogel, yn hygyrch ac yn gwella profiad y myfyrwyr drwy gyflawni deilliannau dysgu wedi'u diffinio ar lefel rhaglen/modiwl fel yr amlinellir yng Nghôd Ansawdd diwygiedig y DU ar gyfer Addysg Uwch, ac mae'r eithriadau a'r arferion a nodir yn y cyngor a'r arweiniad ategol ynghylch Dysgu yn y Gwaith yn arbennig o berthnasol.
Lle mae ysgolion neu adrannau'r gwasanaethau proffesiynol yn trefnu gweithgaredd lleoliad nad yw'n rhoi credydau, disgwylir y dylai'r ddarpariaeth gael ei hadolygu i wneud yn siŵr ei bod yn cydymffurfio â'r egwyddorion allweddol a nodir yn y polisi.

POLISI DYSGU AR LEOLIAD
Darganfyddwch sut i ychwanegu cyfleoedd lleoliadau i mewn i raglenni
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Yr egwyddorion allweddol
Mae egwyddorion allweddol y polisi wedi eu dylunio i gynnal y safonau academaidd uchaf a chynnig lleoliad diogel sy'n cefnogi profiad rhagorol i fyfyrwyr, a hynny wrth sicrhau nad yw prosesau'n rhy fiwrocrataidd, yn anhylaw i'w gweithredu, neu'n rhwystro ein huchelgais strategol.
O ystyried pa mor eang yw'r ddarpariaeth lleoliadau, rydym yn mabwysiadu ymagwedd sy'n seiliedig ar risg o ran cymeradwyo a rheoli pob cynnig lleoliad. Mae'r polisi hwn yn amlinellu'r egwyddorion arweiniol ar gyfer staff o ran elfennau allweddol lleoliad, sef:
- datblygu modiwlau/rhaglenni sy'n cynnwys dysgu ar leoliad;
- gwneud yn siŵr bod cyfleoedd lleoliadau'n gynhwysol ac wedi'u cefnogi;
- cymeradwyo lleoliadau a gwneud yn siŵr bod lleoliadau'n ddiogel;
- monitro, gwerthuso ac adolygu lleoliadau.
Yn aml, bydd canllawiau disgyblu neu ganllawiau proffesiynol ychwanegol sy'n cynnig rhagor o wybodaeth am weithredu mathau penodol o leoliad – er enghraifft, y Cytundeb ar gyfer Addysgu Clinigol i Israddedigion Meddygaeth ar gyfer lleoliadau clinigol. Mae'r rhain yn cyd-fynd â'r polisi dysgu ar leoliad cyffredinol hwn yn y lleoliadau hynny.