Asesiad risg sefydliadol y coronafeirws (COVID-19)
Dyma asesiad risg sefydliadol ar gyfer delio â’r sefyllfa bresennol o ran y coronafeirws (COVID-19) yn y gweithle. Mae’n cynnwys gweithio gartref yn ogystal â gweithgareddau ar y safle.
Fe’i datblygwyd i sicrhau ein bod yn darparu gweithle/amodau gwaith diogel ac iach ar gyfer staff, myfyrwyr, ymwelwyr a’r gymuned ehangach yn ystod pandemig y coronafeirws.
Byddwn yn dilyn yr ‘Egwyddorion ar gyfer gweithio’n ddiogel ar y campws yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19)’ fel y’u nodir yn y datganiad ar y cyd y cytunwyd arno gan Gymdeithas Cyflogwyr y Prifysgolion a’r Colegau (UCEA) a’r Undebau Llafur Addysg Uwch.
Coronavirus (COVID-19) organisational risk assessment
This is an organisational risk assessment for dealing with coronavirus (COVID-19) in the workplace and includes homeworking and onsite activities.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Ymrwymiadau iechyd a diogelwch
- Byddwn yn cynnal asesiadau risg yn ymwneud â’r coronafeirws (COVID-19) ar gyfer pob adeilad a gweithle â phobl ynddynt er mwyn cynllunio’r ffordd y cânt eu defnyddio, eu rheoli a’u glanhau.
- Bydd hylif diheintio dwylo ar gael wrth fynedfeydd ac allanfeydd allweddol pob adeilad â phobl ynddo yn ogystal â chyfleusterau golchi dwylo y tu mewn i’r adeiladau.
- Bydd rheolau a chanllawiau i ddefnyddwyr yn cael eu harddangos wrth y mynedfeydd yn ogystal ag arwyddion â chyfarwyddiadau arnynt ym mhob rhan o’r adeiladau â phobl ynddynt, yn ôl y gofyn.
- Byddwn yn asesu pob llwybr ac ardal awyr agored ac yn gosod arwyddion i ddangos llwybrau lletach neu lwybrau unffordd.
- Byddwn yn gofyn i’r holl staff, myfyrwyr ac ymwelwyr wisgo gorchuddion wyneb ar safleoedd y Brifysgol.
- Byddwn yn sicrhau y caiff pob aelod o’r staff a’r myfyrwyr wybodaeth a chyfarwyddiadau ynglŷn â sut i ddefnyddio’r campws yn ddiogel cyn dychwelyd.
- Byddwn yn sicrhau y bydd gwybodaeth ar gael i bob aelod o’r staff a’r myfyrwyr am sut i ddefnyddio’r campws yn ddiogel.
- Byddwn yn sicrhau y bydd pob aelod o’r staff a’r myfyrwyr yn gallu rhoi gwybod am broblemau neu bryderon am yr adeiladau neu rannau o’r safleoedd drwy systemau adrodd sefydledig y Brifysgol.
- Bydd gennym system ar waith i gefnogi’r staff a’r myfyrwyr os byddant yn cael canlyniad positif mewn prawf ar gyfer y coronafeirws (COVID-19).
- Bydd gennym broses ar gyfer monitro’r trefniadau ar gyfer y coronafeirws (COVID-19) yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod yr holl fesurau gofynnol yn cael eu rhoi ar waith.
- Byddwn yn sicrhau y caiff yr asesiad risg sefydliadol ei adolygu bob chwe mis, neu’n fwy rheolaidd os bydd yr amgylchiadau’n galw am hynny.
Cefndir
Salwch newydd sy'n gallu effeithio ar eich ysgyfaint a'ch llwybrau anadlu yw’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r symptomau’n amrywio a gallant fod yn ysgafn, yn gymedrol, yn ddifrifol neu’n angheuol.
Mae’r asesiad risg hwn yn tynnu sylw at y peryglon sy’n gysylltiedig â COVID ac mae’n nodi mesurau rheoli priodol, gan gynnwys cyfeirio at unrhyw asesiadau risg penodol i dasgau/safleoedd sydd ar waith er mwyn sicrhau bod y gweithle’n ddiogel rhag COVID lle bo hynny’n ymarferol.
Hierarchaeth mesurau rheoli
Bydd y Brifysgol yn cyflawni hyn drwy roi hierarchaeth mesurau rheoli ar waith fel a ganlyn:
- Dileu: osgoi sefyllfaoedd lle y gallai’r staff ddod i gysylltiad â’r feirws. Er enghraifft, os yw’r staff yn gallu gweithio gartref, dylent wneud hynny.
- Rheolaethau peirianneg: atal y staff rhag dod i gysylltiad â’r feirws drwy ddefnyddio rhwystrau ffisegol neu fylchau amlwg yn y gweithle.
- Rheolaethau gweinyddol: atal y staff rhag dod i gysylltiad â’i gilydd drwy eu hannog i gadw pellter corfforol.
- Cadw pellter o 2m (er enghraifft, arwyddion, marciau pellter, systemau unffordd, amseroedd dechrau/gorffen/egwyl amrywiol, lleihau niferoedd, prosesau ailddylunio ac ati).
- Gwella hylendid (cyfleusterau golchi/hylif diheintio dwylo, glanhau arwynebau’n rheolaidd, hancesi papur a gwasanaethau gwaredu ac ati).
- Os na ellir cadw pellter corfforol, caiff mesurau lliniaru eraill eu hystyried yn unol â chanllawiau’r llywodraeth.
- Arddangos posteri ac arwyddion priodol am iechyd y cyhoedd o amgylch y gweithlu ac ar wefannau.
Cyfarpar Diogelu Personol (PPE)
Mae cyfarpar diogelu anadlol (RPE) yn fath o PPE, a chaiff ei ddefnyddio yn yr ardaloedd lle mae posibilrwydd o ddod i gysylltiad â’r feirws, yn ôl yr asesiad risg. Bydd hyn yn cynnwys grwpiau ymchwil sy’n gweithio ar y coronafeirws (COVID-19) neu wrth ymateb i achos a amheuir neu a gadarnhawyd o’r coronafeirws.
Noder na chaiff gorchuddion wyneb o liain eu hystyried yn fathau o PPE. Gall gorchuddion wyneb lliain arafu’r feirws rhag lledaenu a helpu pobl sydd â’r feirws heb yn wybod iddynt i beidio â’i drosglwyddo i bobl eraill. Felly, gofynnir/argymhellir i’r staff a’r myfyrwyr wisgo gorchuddion wyneb y tu mewn i adeiladau’r Brifysgol lle na fydd hynny’n mynd yn groes i’r asesiad risg lleol. Er enghraifft, efallai na fydd yn briodol gwisgo gorchudd wyneb mewn labordai penodol, gan y gallai hyn amlygu’r sawl sy’n ei wisgo i risgiau iechyd a diogelwch eraill megis halogiad cemegol.
Gweithio o bell
Cyffredinol
Pwy a allai gel ei niweidio: Staff
Y mesurau rheoli gofynnol | Mesurau rheoli ychwanegol | Cam gweithredu gan bwy? | Cam gweithredu erbyn pryd? |
---|---|---|---|
Wherever possible, staff who can work from home will be required to work from home. Only staff who need to be on-site should attend workplace premises. The following working arrangements will be put into place to support homeworking:
| Os bydd staff yn gweithio gartref am gyfnod estynedig (hynny yw, ddim yn gweithio gartref dros dro mwyach), byddant yn cwblhau asesiadau risg mewn perthynas â’r sgrin arddangos, a gaiff eu hadolygu gan aseswr hyfforddedig, a chaiff unrhyw fesurau lliniaru gofynnol eu rhoi ar waith fel y bo’n briodol. | Grŵp Cynllunio’r Gweithlu | Ar waith/proses barhaus. |
Defnyddio sgrin arddangos
Pwy a allai gael ei niweidio: Staff
Y mesurau rheoli gofynnol | Mesurau rheoli ychwanegol | Cam gweithredu gan bwy? | Cam gweithredu erbyn pryd? |
---|---|---|---|
| Ar waith |
Gweithio ar eich pen eich hun
Pwy a allai gael ei niweidio: Staff
Y mesurau rheoli gofynnol | Mesurau rheoli ychwanegol | Cam gweithredu gan bwy? | Cam gweithredu erbyn pryd? |
---|---|---|---|
Y rheolwyr a’r goruchwylwyr i sicrhau bod trefniadau ar waith er mwyn helpu pobl sy’n gweithio gartref i gadw mewn cysylltiad â gweddill y gweithlu fel y bo’n briodol. | Ar waith |
Rheoli straen sy'n gysylltiedig â gwaith
Pwy a allai gael ei niweidio: Staff
Y mesurau rheoli gofynnol | Mesuriadau rheoli ychwanegol | Cam gweithredu gan bwy? | Cam gweithredu erbyn pryd? |
---|---|---|---|
| Rheolwyr llinell a goruchwylwyr | Yn mynd rhagddo |
Cymorth lles cyffredinol
Pwy a allai gael ei niweidio: Staff
Y mesurau rheoli gofynnol | Mesuriadau rheoli ychwanegol | Cam gweithredu gan bwy? | Cam gweithredu erbyn pryd? |
---|---|---|---|
Y rheolwyr a’r goruchwylwyr i fonitro lles y staff sy’n gweithio gartref a rhoi mesurau ar waith i gefnogi eu hiechyd meddwl, eu hiechyd corfforol a’u diogelwch personol drwy gynnal sesiynau sgwrsio rheolaidd gyda’r staff. | Atgoffa’r staff o’r cymorth sydd ar gael. | Rheolwyr llinell a goruchwylwyr | Ar waith |
Darpariaeth ar gyfer lles staff
Hunangymorth
Mae cyngor ar iechyd a diogelwch ar gael drwy e-bost neu dros y ffôn. Caiff cyfrif ebost safety@cardiff.ac.uk ei fonitro a’i reoli. | Atgoffa’r staff o’r cymorth sydd ar gael. | Lles staff/Datblygu Staff y Sefydliad (OSD) | Ar waith |
Gweithio ar y safle
Rheoli mynediad i’r adeilad
Pwy a allai gael ei niweidio: Staff, myfyrwyr a/neu ymwelwyr.
Y mesurau rheoli gofynnol | Mesurau rheoli ychwanegol | Cam gweithredu gan bwy? | Cam gweithredu erbyn pryd? |
---|---|---|---|
| Yr adran Ddiogelwch | Ar waith |
Cadw pellter corfforol yn y gweithle
Pwy a allai gael ei niweidio: Staff, myfyrwyr a/neu ymwelwyr.
Y mesurau rheoli gofynnol | Mesurau rheoli ychwanegol | Cam gweithredu gan bwy? | Cam gweithredu erbyn pryd? |
---|---|---|---|
Adeiladau gwag Caiff adeiladau gwag eu cynnal a’u cadw yn unol â gofynion statudol. Caiff asesiadau risg y tasgau sy’n gysylltiedig â chynnal a chadw’r adeiladau eu hadolygu yn unol â gofynion diogelu rhag COVID. | |||
Adeiladau â phobl ynddynt Bydd gan bob adeilad â phobl ynddo asesiad risg ar gyfer y coronafeirws (COVID-19) sy’n benodol i’r adeilad a’r gweithgareddau sy’n cael eu cynnal ynddo. Caiff yr asesiadau risg penodol i safleoedd hyn eu rhannu â’r staff, myfyrwyr ac ymwelwyr perthnasol. Bydd asesiadau risg penodol i dasgau yn ategu asesiadau risg yr adeiladau. | Drafftio a rhannu asesiadau risg adeiladau ar gyfer y coronafeirws (COVID-19) ar gyfer adeiladau academaidd â phobl ynddynt. | Ystadau/Diogelwch a Lles Staff | Cyn derbyn pobl yn ôl iddynt |
Cadw pellter corfforol Bydd yr addasiadau i’r safleoedd er mwyn helpu i gadw pellter corfforol yn cynnwys: | |||
| Grwpiau gwaith i ddrafftio asesiadau risg penodol i dasgau gan ystyried asesiadau risg yr adeiladau. | Grwpiau gwaith lleol | Drwy gydol y pandemig |
| Atgoffa’r staff mewn sesiynau briffio ac ar bosteri am bwysigrwydd cadw pellter corfforol yn y gweithle a’r tu allan iddo. | Ystadau/grwpiau gwaith lleol i arddangos posteri | Drwy gydol y pandemig |
| Gwiriadau gan reolwyr er mwyn sicrhau bod y broses o adolygu amserlenni gwaith yn cael ei dilyn. | Rheolwyr lleol | Drwy gydol y pandemig |
| Nodi gofynion cynnal a chadw statudol ar gyfer pob adeilad. | Ystadau | Yn mynd rhagddo |
| Drafftio a rhannu asesiadau risg penodol i dasgau. | Grwpiau gwaith lleol | Yn mynd rhagddo |
| |||
|
Rheoli heintiau
Pwy a allai gael ei niweidio: Staff, myfyrwyr a/neu ymwelwyr.
Y mesurau rheoli gofynnol | Mesurau rheoli ychwanegol | Cam gweithredu gan bwy? | Cam gweithredu erbyn pryd? |
---|---|---|---|
Bydd hysbysiadau’n cael eu harddangos ar bob safle yn atgoffa’r staff am y prif ofynion ar gyfer atal yr haint: | Atgoffa cyflogeion yn rheolaidd i olchi eu dwylo am 20 eiliad â dŵr a sebon ac am bwysigrwydd sychu eu dwylo’n drylwyr. Eu hatgoffa hefyd i besychu a thisian mewn hancesi papur, gan ddilyn y canllawiau ‘Ei ddal, Ei daflu, Ei ddifa’, neu yn eich braich os nad oes hances bapur ar gael. Osgoi cyffwrdd â’r wyneb, y llygaid, y trwyn a’r geg â dwylo nad ydynt yn lân. | Grwpiau gwaith lleol, gyda chymorth yr adran Ystadau a Gwasanaethau Campws | Yn mynd rhagddo |
Golchi dwylo Cyfleusterau golchi dwylo gyda sebon a dŵr ar waith. | Annog y staff i roi gwybod am unrhyw broblemau a chynnal archwiliadau croen fel rhan o raglen cadw golwg ar y croen. | Rheolwyr lleol | Yn mynd rhagddo |
Sychu dwylo â thywelion papur tafladwy neu beiriant aer cynnes. | Helpu i atal y coronafeirws (COVID-19) rhag lledaenu drwy atgoffa pawb am y cyngor ar iechyd y cyhoedd. | Rheolwyr lleol | Yn mynd rhagddo |
Caiff hylif diheintio ei ddarparu wrth fynedfeydd ac mewn mannau lle ceir llawer o fynd a dod y tu mewn i adeiladau academaidd. | Sicrhau bod posteri, taflenni a deunyddiau eraill ar gael i’w harddangos. | Rheolwyr lleol gyda chymorth yr adran Ystadau | Cyn derbyn pobl yn ôl i’r adeilad |
Hylendid anadlol Gofynnir i’r staff a’r myfyrwyr wisgo gorchuddion wyneb y tu mewn i’r adeiladau lle na fydd hynny’n mynd yn groes i’r asesiad risg lleol. | Lle y bo’n bosibl, dylid cynnal asesiadau risg o dasgau lleol i ystyried sut y gellir cynnal system awyru dda yn yr amgylchedd gwaith. Er enghraifft, agor ffenestri a drysau’n rheolaidd. | Rheolwyr lleol | Yn mynd rhagddo |
Achosion posibl o'r coronafeirws
Pwy a allai gael ei niweidio: Staff, myfyrwyr a/neu ymwelwyr.
Y mesurau rheoli gofynnol | Mesurau rheoli ychwanegol | Cam gweithredu gan bwy? | Cam gweithredu erbyn pryd? |
---|---|---|---|
Symptomau’r coronafeirws (COVID-19)
| Rheolwyr lleol | Drwy gydol y pandemig |
Staff a myfyrwyr sy’n agored i niwed ac yn eithriadol o agored i niwed
Pwy a allai gael ei niweidio: Staff, myfyrwyr a/neu ymwelwyr. Mae’n bosibl y bydd gan rai o’r staff neu’r myfyrwyr gyflyrau meddygol sydd eisoes yn bodoli sy’n golygu eu bod yn fwy agored i niwed yn sgil peryglon y coronafeirws (COVID-19).
Y mesurau rheoli gofynnol | Mesurau rheoli ychwanegol | Cam gweithredu gan bwy? | Cam gweithredu erbyn pryd? |
---|---|---|---|
| Pawb ar y safle | Drwy gydol y pandemig |
Ardaloedd â risg uwch yn y gweithle (ardaloedd cymunedol ac ardaloedd a ddefnyddir yn aml)
Pwy a allai gael ei niweidio: Staff, myfyrwyr a/neu ymwelwyr.
Mae’n bosibl y bydd rhai rhannau o’r gweithle yn cyflwyno risg uwch nag eraill. Mae rhannau o’r gweithle a ddefnyddir yn helaeth yn fwy tebygol o gyflwyno risg o drosglwyddo heintiau. Bydd yr ardaloedd hyn yn cynnwys toiledau, ystafelloedd cyffredin a ffreuturiau.
Y mesurau rheoli gofynnol | Mesurau rheoli ychwanegol | Cam gweithredu gan bwy? | Cam gweithredu erbyn pryd? |
---|---|---|---|
| Ystadau | Drwy gydol y pandemig |
Desgiau dros dro a rhannu offer
Pwy a allai gael ei niweidio: Staff a myfyrwyr.
Y mesurau rheoli gofynnol | Mesurau rheoli ychwanegol | Cam gweithredu gan bwy? | Cam gweithredu erbyn pryd? |
---|---|---|---|
Os bydd angen gweithio ar y safle gan ddefnyddio gweithfan, bydd y staff yn derbyn eu bysellfwrdd a’u llygoden eu hunain a bydd weips diheintio ar gael i unigolion lanhau mannau cyffwrdd ac offer a rennir. | Pawb ar y safle | Drwy gydol y pandemig |
Mesurau rheoli ac asesiadau risg ‘lleol’
Pwy a allai gael ei niweidio: Staff, myfyrwyr a/neu ymwelwyr.
Y mesurau rheoli gofynnol | Mesurau rheoli ychwanegol | Cam gweithredu gan bwy? | Cam gweithredu erbyn pryd? |
---|---|---|---|
Bydd y rheolwyr a’r goruchwylwyr perthnasol yn drafftio ac yn rhannu asesiadau risg lleol sy’n benodol i dasgau er mwyn ategu’r asesiad risg cyffredinol ar gyfer diogelu rhag y coronafeirws (COVID-19) a’r asesiadau risg penodol i adeiladau. | Rheolwyr lleol | Yn mynd rhagddo |
Rheoli gwastraff cyffredinol a pheryglus
Pwy a allai gael ei niweidio: Staff, myfyrwyr a/neu ymwelwyr.
Y mesurau rheoli gofynnol | Mesurau rheoli ychwanegol | Cam gweithredu gan bwy? | Cam gweithredu erbyn pryd? |
---|---|---|---|
| Yr adran Ystadau/Diogelwch a Lles Staff. Rheolwyr lleol i roi gwybod. | Yn mynd rhagddo |
Danfoniadau a gyrwyr
Pwy a allai gael ei niweidio: Ymwelwyr, staff a/neu fyfyrwyr.
Y mesurau rheoli gofynnol | Mesurau rheoli ychwangeol | Cam gweithredu gan bwy? | Cam gweithredu erbyn pryd? |
---|---|---|---|
| Y rheolwyr lleol i gydlynu’r broses/gyda chymorth yr adran Ystadau lle y bo’n briodol. |
Llety myfyrwyr
Preswylfeydd y Brifysgol
Pwy a allai gael ei niweidio: Staff, myfyrwyr a/neu ymwelwyr.
Y mesurau rheoli gofynnol | Mesurau rheoli ychwanegol | Cam gweithredu gan bwy? | Cam gweithredu erbyn pryd? |
---|---|---|---|
Mae’r llety myfyrwyr wedi cael ei wagio lle y bo’n rhesymol ymarferol gwneud hynny. Mae mesurau lliniaru lleol ar waith ar gyfer yr ardaloedd sydd â phreswylwyr o hyd. | Caiff asesiad risg ar wahân ei ddatblygu ar gyfer rheoli’r risg a gyflwynir gan y coronafeirws (COVID-19) mewn llety myfyrwyr yn seiliedig ar y canllawiau sy’n cael eu trafod a’u datblygu ar gyfer y sector ar hyn o bryd gan sefydliad Prifysgolion y DU ar sail cyngor iechyd y cyhoedd ar y cyd â Llywodraeth Cymru. |