Ewch i’r prif gynnwys

Polisïau iechyd, diogelwch a'r amgylchedd

Ein polisïau ar gyfer iechyd, diogelwch, yr amgylchedd a chynaliadwyedd.

Nodwch, mae rhai o'r dogfennau isod ar gael yn Saesneg yn unig.

Adroddiad Bioamrywiaeth Adran 6 Prifysgol Caerdydd 2022

Adroddiad ar sut mae Prifysgol Caerdydd yn cyflawni Amcanion Cynllun Gweithredu Adfer Natur 1-6.

Safety, Health, Wellbeing and Environment Policy Statement Welsh.pdf

Signed safety, health and environment policy statement.

Cynllun Gweithredu Cydnerthedd Ecosystemau a Bioamrywiaeth (EBRAP) Prifysgol Caerdydd 2021-2023

Cynllun Gweithredu Cydnerthedd Ecosystemau a Bioamrywiaeth (EBRAP) Prifysgol Caerdydd 2021-2023

Carbon management plan 2014 – 2020

This document outlines an action plan and explains the financial and environmental reasons that support carbon management in the University.

Polisi Bwyd Cynaliadwy 2023 -2024

Mae ein harlwyo a bariau yn cefnogi ac yn gweithio tuag at fwy o fwyd cynaliadwy yn eu cynnyrch, prosesu, masnachu a chaffael.

Travel plan (Welsh)

Mae'r cynllun yn rhan o broses hirdymor i annog staff, myfyrwyr ac ymwelwyr i feddwl am sut maen nhw'n teithio i ystâd y Brifysgol ac o'i fewn.

Socially Responsible Investment (SRI) Policy Statement

We prohibit direct investments based on four parameters: tobacco, armaments, code of ethics and fossil fuels.

Drinking fountain locations

A list of drinking fountain locations across the University.

Estates and Campus Facilities water safety policy

The University's policy for ensuring water systems are safe to use and operate.

Polisi a Gweithdrefnau Dim Ysmygu'r Brifysgol

Document history

Revision numberDateAmendmentNameApproved by
1 Mehefin 2011Tudalen flaen wedi'i hychwanegu gydag Awdur, dyddiadau cymeradwyo ac adolygiad nesaf.

Newid i bwynt 3.2 lle mae lloches a ddynodwyd ar gyfer ysmygu wedi'i ddarparu ar dir y Preswylfeydd.
Gweithgor Rhoi'r Gorau i YsmyguCadeirydd Pwyllgor yr HSE
2Tachwedd 2013Adran ar e-sigaréts wedi'u hychwanegu Pwyllgor HSE Hydref 2013
3Mawrth 2016Gwaherddir gwefru e-sigaréts.Argymhelliad gan UMALPwyllgor HSE 
4Ebrill 2020Dim newidiadau.J GunterR Rolfe

1. Cyflwyniad

1.1. Mae Prifysgol Caerdydd yn cydnabod bod gan yr holl staff a myfyrwyr hawl i weithio mewn amgylchedd di-fwg ac mae wedi gweithredu polisi dim ysmygu o fewn ei hadeiladau academaidd a gweinyddol ers blynyddoedd lawer. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i iechyd a diogelwch, a gan ei bod yn gyflogwr da, mae am greu amgylchedd gwaith rhagorol sy'n iachus ac yn ddiogel i staff, myfyrwyr ac ymwelwyr. Felly, rhaid sicrhau bod pawb yn cael eu hamddiffyn rhag peryglon ysmygu ym mannau gwaith a gorffwys.[1]

1.2. O 2 Ebrill 2007, daeth deddfwriaeth newydd yn gysylltiedig â'r Ddeddf Mangreoedd Di-fwg i rym yng Nghymru a daeth ysmygu'n anghyfreithlon mewn unrhyw fan cyhoeddus sy’n amgaeedig yn llwyr neu i raddau helaeth yng Nghymru. Daeth yn drosedd ysmygu mewn safle na chewch ysmygu neu i ganiatáu ysmygu’n fwriadol mewn safle na chewch ysmygu. Mae cerbydau a ddefnyddir at ddibenion busnes hefyd yn dod o dan y gyfraith. Bydd yn rhaid i berchnogion safleoedd ac unigolion dalu dirwyon statudol sylweddol os caiff y ddeddfwriaeth hon ei thorri. Mae'r Brifysgol yn gyfrifol am fonitro ymlyniad wrth y polisi hwn, ac mae ganddi'r prif gyfrifoldeb i sicrhau bod pawb yn cydymffurfio â’r gyfraith.

1.3. Mae'r Brifysgol wedi diwygio ei pholisi i ddiogelu holl aelodau'r Brifysgol rhag effeithiau niweidiol mwg goddefol. Mae eisiau sicrhau bod pawb yn ymwybodol o'u hawliau a'u cyfrifoldebau mewn perthynas â pholisi dim ysmygu’r Brifysgol.

1.4. Mae'r polisi'n berthnasol i'r holl staff, myfyrwyr, ymwelwyr a chontractwyr a chaiff ei gymhwyso'n deg ac yn unffurf ledled y Brifysgol.

1.5. Bydd yn ofynnol i bob aelod o'r Brifysgol gydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau ysmygu sefydliadau eraill wrth gynnal busnes y Brifysgol ar eu safle.

1.6. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw astudiaethau awdurdodol wedi'u cynnal i effeithiau niweidiol posibl yr anweddau a gynhyrchir gan e-sigaréts.  Mae Cymdeithas Feddygol Prydain yn credu y gall yr anweddau gynnwys sylweddau glycol propylen, glyserin a chyflasyn, heb sôn am olion nicotin (yn anochel o ystyried bod defnyddio'r dyfeisiau hyn yn golygu anadlu nicotin ac anadlu anwedd).  Nid yw’n glir o gwbl a oes risg o niwed o ganlyniad i ‘ysmygu goddefol’ yr anweddau hyn, ac i ba raddau. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain yn pryderu y gallai defnyddio e-sigaréts danseilio'r cyfyngiadau presennol ar ysmygu ac maent yn pwyso ar y Llywodraeth i ymestyn y ddeddfwriaeth yn erbyn ysmygu i gynnwys defnyddio e-sigaréts. Yn y cyfamser, maent yn annog cyflogwyr i orfodi gwaharddiadau ar eu defnyddio yn y gweithle  ac yn sgil hyn mae'r Brifysgol yn gwahardd defnyddio e-sigaréts ar y campws.  Gwaherddir gwefru e-sigaréts ar y campws.

2. Cymorth ar gyfer Rhoi'r Gorau i Ysmygu

2.1. Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i gefnogi unrhyw un sy'n dymuno rhoi'r gorau i ysmygu ac felly nod y polisi yw helpu ac ysgogi ysmygwyr i roi'r gorau i ysmygu os dymunant.

2.2. Mae cymorth ar gael i aelodau staff a myfyrwyr sy'n dymuno rhoi'r gorau i ysmygu. Anogir y rhai sy'n dymuno cael cymorth a chefnogaeth i gysylltu â'r ganolfan iechyd yn y lle cyntaf. Gellir cynnig cefnogaeth ar ffurf rhaglenni rhoi'r gorau i ysmygu gan asiantaethau allanol. Mae rhifau ffôn llinellau cymorth lleol eraill ar gael yn gyfrinachol gan Iechyd Galwedigaethol.

2.3. Fel arall, efallai yr hoffai aelodau staff a myfyrwyr gysylltu â'r sefydliadau a ddangosir yn Atodiad 1.

3. Ardaloedd Dim Ysmygu

3.1. Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i gael polisi dim ysmygu yn yr adeiladau er mwyn amddiffyn ei holl staff a myfyrwyr. Ni chaniateir ysmygu yn neu ar unrhyw un o safleoedd y Brifysgol. Mae hyn yn cynnwys yr holl fannau gwaith cymunedol, yr ystafelloedd unigol, y grisiau, y lifftiau, y mannau gorffwyso, y toiledau, y meysydd parcio a'r tiroedd. Gwaherddir ysmygu hefyd mewn cerbydau sy'n eiddo i'r Brifysgol neu sy'n cael eu rhedeg gan y Brifysgol neu gerbydau a gaiff eu cyflogi neu eu prydlesu ar gyfer busnes y Brifysgol.

3.2. Preswylfeydd i Fyfyrwyr
O 2 Ebrill 2007, bydd yn ofynnol yn ôl y gyfraith i bob ardal gymunedol o fewn preswylfeydd y Brifysgol fod yn llefydd lle na chewch ysmygu. O'r dyddiad hwn ni chaniateir ysmygu yn unrhyw ran o breswylfeydd y Brifysgol gan gynnwys yr holl ystafelloedd preifat, bariau, ardaloedd cymunedol. Fodd bynnag, er bod ysmygu'n cael ei wahardd, derbynnir ysmygu yn y llochesi ysmygu penodedig ar y tir.

3.3. Adeilad Undeb y Brifysgol
Mae'r Adeilad hwn yn destun polisi ar wahân ar ysmygu a gyflwynwyd gan Undeb Myfyrwyr Caerdydd

4.  Arwyddion

4.1. Bydd arwyddion 'Dim ysmygu' priodol yn cael eu harddangos yn glir wrth fynedfa holl adeiladau'r Brifysgol.

5. Myfyrwyr

5.1. Rhaid i holl aelodau cymuned y Brifysgol, gan gynnwys myfyrwyr ddilyn y polisi hwn wrth fyw neu weithio ar safle'r Brifysgol. Pan fydd polisi’r Brifysgol ynglŷn ag ysmygu’n cael ei dorri, bydd y weithdrefn ddisgyblu berthnasol i fyfyrwyr yn cael ei roi ar waith.

6. Gweithdrefnau

6.1. Penaethiaid Ysgol/Cyfarwyddiaeth, Rheolwyr a Goruchwylwyr sy'n gyfrifol am sicrhau bod staff, myfyrwyr, ymwelwyr a, lle y bo'n berthnasol, contractwyr yn cael gwybod am y polisi hwn a'u bod yn cydymffurfio â'i ofynion.

6.2 Rhaid rheoli cydymffurfiaeth â'r ddeddfwriaeth a pholisi'r Brifysgol yn lleol. Mae'n ofynnol i'r rhai sy'n gyfrifol am ardaloedd a grwpiau dynodedig gydweithredu'r polisi yn yr ardal y maent yn gyfrifol amdani.

6.3. Dim ond yn ystod egwyliau penodedig y gall staff sy'n dymuno ysmygu yn ystod y diwrnod gwaith wneud hynny, h.y. cyfnod gorffwys swyddogol y cytunwyd arno ac i ffwrdd o safle'r Brifysgol, megis yr egwyl ginio.

6.4. Dylid gofyn yn gwrtais i bobl sy'n ysmygu mewn ardaloedd gwaharddedig, fel yr amlinellir ym mhwynt 3 uchod, roi'r gorau iddi a dweud eu bod yn torri polisi'r Brifysgol.

6.5. Mae gwrthod rhoi'r gorau iddi yn annerbyniol a dylid rhoi gwybod Bennaeth eich Ysgol/Cyfarwyddiaeth neu ei enwebai neu, lle bo'n briodol, Rheolwr yr Adeilad neu’r Breswylfa. Cyfrifoldeb Pennaeth yr Ysgol/Cyfarwyddiaeth yw gweithredu, gan gymryd cyngor gan Gyfarwyddiaeth briodol y Brifysgol yn ôl yr angen.

6.6. Mae methu â chydymffurfio â gofynion y polisi drwy ysmygu ar safle'r Brifysgol neu wrthod rhoi'r gorau iddi pan ofynnir amdano yn drosedd ddisgyblu i staff a myfyrwyr. Yn y lle cyntaf, ymdrinnir â thorri'r polisi trwy addysg a chefnogaeth. Gall ddiffyg cydymffurfio pellach arwain at gamau disgyblu ffurfiol ac yn y pen draw gallai arwain at ddiswyddo a diarddel myfyrwyr.
Dylid gofyn i gontractwyr neu ymwelwyr sy'n torri'r côd roi'r gorau i ysmygu ar y safle. Dylai fod yn ofynnol i gontractwr neu ymwelydd sy'n gwrthod rhoi'r gorau i ysmygu adael y safle.


[1] Mae mwg tybaco yn cael ei ddosbarthu fel carsinogen Grŵp A, sylwedd sy’n achosi canser mewn pobl ac nad oes lefel ddiogel gydnabyddedig ohono. Mae ysmygu goddefol yn achosi clefyd ac mae gan bobl nad ydynt yn ysmygu tybaco risg uwch o gael canser yr ysgyfaint os ydynt yn agored i fwg tybaco yn yr amgylchedd.

Atodiad 1: Cymorth i roi'r gorau i ysmygu

Mae'r ffynonellau cymorth canlynol ar gael i ysmygwyr sydd am roi'r gorau iddi:

  • Llinell Gymorth Ysmygwyr Cymru: 0800 169 0169. Yn cynnig cyngor a deunyddiau hunangymorth.
  • Dim Smygu Cymru: 0800 085 2219. Gwasanaeth lleol rhad ac am ddim sy'n cynnig cymorth a chwnsela i roi'r gorau i ysmygu.
  • Galw Iechyd Cymru
  • Llinell Gymorth y GIG
    Ffôn 0800 169 0 169
    Urdu: 0800 169 0 881
    Punjabi: 0800 169 0 882
    Hindi: 0800 169 0 883
    Gujarati: 0800 169 0 884
    Bengali: 0800 169 0 885
  • ASH (Gweithredu ar Ysmygu ac Iechyd)
  • QUIT
    Tel 0800 00 22 00
    Bengali (Dydd Llun): 0800 0022 44
    Hindi (Dydd Mercher): 0800 0022 66
    Punjabi (Dydd Iau): 0800 00 22 77
    Twrceg/Cwrdistan (Dydd Iau a Dydd Sul): 0800 002299
    Urdu (Dydd Sul): 0800 0022 88
    Arabeg (Dydd Sadwrn): 08001691300
    Gujarati (Dydd Mawrth): 0800002255
  • Sefydliad Prydeinig y Galon — Ysmygu
  • Diwrnod Cenedlaethol Dim Ysmygu