Ewch i’r prif gynnwys

Strategaeth Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru 2020/21 – 2022/23

Mae ymchwil, arloesedd a chenhadaeth ddinesig yn ganolog i'n strategaeth Y Ffordd Ymlaen 2018/23.

Rydym wedi ymrwymo i ymgymryd â rôl gweithredol er mwyn cefnogi adfywiad ac adnewyddiad Cymru wedi effaith pandemig y coronafeirws (COVID-19).

Mae'r egwyddorion canlynol yn sail i'n strategaeth tair mlynedd i ddarparu arloesedd i bawb:

  • rhoi rhagoriaeth ymchwil wrth galon ein gweithgareddau arloesi, integreiddio cyd-gynhyrchu i’n gweithgareddau cenhadaeth ddinesig, a pharhau i ddatblygu mwy o gysylltedd ar draws pob un o dri maes y strategaeth;
  • gweithgareddau cyfnewid gwybodaeth strategol a atgyfnerthwyd gan ein partneriaethau allanol gyda busnesau, elusennau a sefydliadau cymdeithas sifil, yn ogystal â Llywodraeth Cymru, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, y GIG, WIN, GW4 a Phorth y Gorllewin;
  • twf mewn dyfarniadau ymchwil gydweithredol, yn ogystal â gweithgaredd masnachol trwy fusnesau newydd a chwmnïau deillio, a gweithgareddau eraill sy'n cynhyrchu incwm;
  • cefnogi cymunedau lleol i ffynnu trwy fentrau wedi'u cyd-gynhyrchu sy'n rhoi anghenion a lleisiau dinasyddion yn greiddiol iddynt;
  • effaith hyfforddiant a chymorth arloesol i staff a myfyrwyr, gwella ymgysylltiad â sefydliadau allanol, wedi’i ategu gan DPP o ansawdd uchel i feithrin sgiliau ac ehangu mynediad at arbenigedd ymchwil sydd o werth i economi Cymru;

Roedd y cynllun uchelgeisiol hwn yn bosibl oherwydd grant gan Gronfa Arloesi Ymchwil Cymru drwy'r Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).

Strategaeth Cronfa Arloesedd Ymchwil Cymru 2023/24 – 2027/28

Amlinelliad o'n hegwyddorion arweiniol a sut y byddwn yn gweithredu Strategaeth Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru 2023/24 – 2027/28.