Richard Rose
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Rheolwr, ymgynghorydd, a hyfforddwr profiadol yw Richard Rose ers 35 o flynyddoedd, gydag arbenigedd ym meysydd strategaeth fusnes, portffolio, rheoli prosiectau a rhaglenni, rheoli newid, sicrhau ansawdd, a rheoli cyfrifau a chleientiaid.
Ar sail dyfnder ei brofiad, mae’n hyfforddwr ac yn ymgynghorydd llwyddiannus ag achrediaeth MoP®, P3O®, MSP®, PRINCE2®.
Mae Richard wedi bod yn gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd ers 10 mlynedd, ac mae wedi llwyddo i gyflwyno cyfres o gyrsiau rheoli prosiectau a rhaglenni achrededig. Fe’i gwerthfawrogir yn fawr fel partner, ac mae Uned DPP wrth ei bodd gan y bydd Richard yn bresennol yn y digwyddiad hysbysu hwn.