Manjula Bray
Mae gan Manjula Bray gefndir cadarn mewn Adnoddau Dynol sy'n cefnogi ei gwaith fel Seicolegydd Busnes, Hyfforddwr Gyrfaoedd a hyfforddwr/hwylusydd.
Mae'n cefnogi cyflogwyr i fanteisio i’r eithaf ar allu eu staff drwy ddulliau asesu, dethol a datblygu cadarn. Mae hi hefyd yn gweithio gydag unigolion; yn eu galluogi i berfformio'n fwy effeithiol o fewn eu rolau presennol ac i sicrhau'r swyddi hynny y maent yn dyheu amdanynt.
Yn ystod ei gyrfa, mae Manjula wedi recriwtio cannoedd o unigolion yn ystod ei hamser fel recriwtiwr mewnol ac wedi argymell nifer o ymgeiswyr am benodiadau cyhoeddus a barnwrol pan fu’n aelod annibynnol/lleyg o'r panel.
Mae wedi ennill profiad o weithio gydag ystod eang o sefydliadau (BBaChau, y sector cyhoeddus, Nid er Elw, AU a chwmnïau rhyngwladol) ac unigolion amrywiol (o is- ac ôl-raddedigion, uwch reolwyr a rheolaeth ganol) ar draws nifer o ddiwydiannau a phroffesiynau.
Mae Manjula yn cynnig dull pragmatig, wedi'i deilwra ac o ansawdd i fynd i'r afael â heriau sy'n ymwneud â phobl.